BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

David Husband

Dewi Development Ltd

Cysylltu gyda David Husband



Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr Cwmni
Sector:
Lleoliad:
Swansea

Amdano

Mae gennyf dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector elusennol, ac rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r staff a gwirfoddolwyr ar draws Cymru, drwy gydgysylltwyr staff a thîm o diwtoriaid gwirfoddol. Mae gennyf brofiad o hyfforddi pobl i lwyddo, a chefnogi pobl gyda’u hanghenion dysgu. Fel hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, mae gennyf brofiad o ddarparu cymorth emosiynol pan fo pobl mewn argyfwng.

Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi cynnal ymgynghoriaethau, rheoli prosiectau newid, datblygu cynlluniau a phrosesau busnesau, rheoli cyllidebau a chynllunio buddsoddiadau i adrannau. Rwyf wedi ysgrifennu system cronfa ddata i fodloni prosesau busnes ac wedi bod ynghlwm â chyflwyno systemau cyfrifiadurol.

Yn dilyn fy nghyfnod yn y sector elusennol, rwyf bellach yn rhedeg fy musnes fy hun gan ganolbwyntio ar hyfforddi. Mae wedi rhoi golwg dda i mi o weithio i sefydliad mawr a gweithio i mi fy hun.

Gair i Gall

Mae pob her yn rhywbeth cyffrous i’w oresgyn, ac mae methu yn gyfle i fyfyrio a dysgu er mwyn bod yn well nag erioed.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.