BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

David Davies

Iscennen Coach and Mentor

Cysylltu gyda David Davies



Swyddogaeth:
Hyfforddwr Busnes
Sector:
Lleoliad:
Powys

Amdano

Rwyf wedi gweithio mewn sawl gwahanol ddiwydiant ers dros 40 o flynyddoedd. Treuliais y 20 mlynedd gyntaf fel Rheolwr a Thechnolegydd Bwyd yn y Diwydiant Bwyd, yn gweithio gyda chwmnïau fel Kraft General Foods, Nabisco, Northern Foods, Eden Vale. Roeddwn yn gyfrifol am y Gweithrediadau, Ymchwil a Datblygiad a’r gwaith Peirianneg ar draws sawl safle yn y DU, gyda chysylltiadau gyda rhieni-gwmnïau o America, yn bennaf. Es ati i dreulio 20 mlynedd wedyn yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu Diwydiannol, yn creu cynnyrch Armstrong Insulation products (Armacell erbyn hyn), British Gypsum a Parker Hannifin. Roeddwn yn bennaf yn ymgymryd â rolau Rheolwr Cyffredinol a Datblygu Busnes, ac yn gyfrifol am gynnal Busnes £15 miliwn y DU ar gyfer Armacell a’r tîm Gwerthu India. Roedd y safle yn Oldham yn gweithgynhyrchu cynnyrch insiwleiddio ewyn PE ac inswleiddio rwber wedi’i ehangu. Roedd y tîm Gwerthu yn adrodd i mi, ac roedd cyfanswm o 95 o weithwyr.

Roedd fy rôl gyda Parker Hannifin yn ymgymryd â gwerthu tiwbiau pwysedd isel yn Ewrop a gweithrediad gweithgynhyrchu gyda chyllideb o £6 miliwn. Roedd y ffatri yn Buxton yn cyflogi 45 o bobl. Roedd y tîm Gwerthu’n cael eu rheoli gan sefydliad ar wahan, ond roeddwn yn gyfrifol am y gwaith Datblygiad Busnes yn Ewrop.

Yn ystod fy 3 blynedd olaf yn Parker, roeddwn yn gyfrifol am Ddatblygiad Busnes Gwyddoniaeth Adran Gwyddorau Bywyd Polyflex ac roeddwn yn gweithio gyda busnes newydd bach yn Sheffield, ar brosiect Diwylliant Celloedd arloesol, y dyfarnwyd 2 batent i mi ar eu cyfer.

Ers gadael Parker, rwyf wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd Peirianneg. Roeddwn yn rhedeg Cwmni Cyfyngedig gyda throsiant o £80,000 y flwyddyn. Penderfynais gau’r cwmni eleni er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill, gan gynnwys Hyfforddi.

Sgiliau allweddol: Rheoli Prosiectau; Prosesau Datblygu Cynnyrch Newydd; Marchnata a Datblygu Busnesau Newydd; Cyflwyno Arfer Gora; Datblygu Gweledigaeth, Cenhadaeth a Strategaethau; a Rheoli Timau. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio â busnesau newydd.

Fy nghymwysterau yw BSc mewn Peirianneg Biogemegol, Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi Gweithredol,  NLP Ymarferydd Meistr a Hyfforddwr.

Gair i Gall

Gwnewch yn siŵr eich bod â Gweledigaeth a Chynllun ar gyfer y dyfodol, ond sicrhewch eich bod yn gallu ennill arian yn gwneud rhywbeth nawr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.