- Swyddogaeth:
- Rheolwr Gyfarwyddwr
- Sector:
- Lleoliad:
- Flintshire
Amdano
Mae Andrew Glass yn Weithredwr sy’n cael ei arwain gan ganlyniadau a gyda dros ddau ddegawd o brofiad yn arwain trawsnewidiadau effaith uchel sy’n rhai masnachol, gweithredol, a rhai gyda chynaliadwyedd wrth eu gwraidd ar draws y sectorau ynni, ymgynghori, seilwaith a diwydiannol. Mae wedi ymgymryd â sawl swydd Rheolwr Gyfarwyddwr a lefel Cyfarwyddwr, gan gyflawni twf sefydliadol, effeithlonrwydd gweithredol, a datblygiad tîm ar raddfa fyd-eang. O arwain elw a cholled i fynediad i’r farchnad, mae Andrew yn wybyddus am roi strategaethau ar waith sy’n arwain perfformiad, gwerth, ac aliniad diwylliannol.
Mae ei arddull arwain yn gydweithredol, yn canolbwyntio ar gleientiaid, ac wedi ei gwreiddio mewn meddwl trwy systemau. Mae wedi ehangu gweithredoedd, meithrin a mentora timau technegol, arwain mentrau newid trawsffiniol, a rheoli sawl integreiddiad M&A gyda thwf refeniw o hyd at £20M+.
Mae Andrew hefyd yn dod ag arbenigedd mewn arwain datgarboneiddio gyda’i allu i wneud cyflawniad technegol yn unol â nodau cynaliadwyedd a diwydiannol rhanbarthol.
Mae’n fentor, cynghorydd ar fwrdd, ac yn gymrawd o sefydliadau allweddol, wedi ei ymrwymo i feithrin diwylliannau perfformiad uchel gyda diben, cadernid, a phwyslais ar y dyfodol. Cyfrifoldebau Craidd
- Arweinyddiaeth Weithredol a Strategaeth Lefel Bwrdd
- Meithrin Tîm a Datblygiad Sefydliadol
- Arloesedd ac Ehangu Marchnad
- Arweinyddiaeth Newid a Gweithredol
Gair i Gall
Mae Twf Cynaliadwy yn Dechrau gyda Symlrwydd Strategol.
Mewn byd sy’n cael ei arwain gan gymhlethdod - technoleg, rheoleiddio, gofynion ESG, a datgarboneiddio - mae llawer o fusnesau yn disgyn i’r twll o orlunio eu strategaethau. Ond mae twf, yn arbennig twf cynaliadwy a thwf y gellir ei ehangu, yn gwreiddio o benderfyniadau clir sydd â ffocws ac sy’n unol â diben, gwerth, a gallu.
Fy nghyngor i gleientiaid?
Mae angen ichi gael gwared ar y bwrlwm dibwys. Dewch i ddeall yr ydych rydych yn ei wneud orau. Gwnewch hynny yn unol â chyfeiriad y farchnad - p’un a yw’n sero net, trawsnewid digidol, neu gadwyni cyflenwi cyfrifol - ac ychwanegwch o amgylch hynny gyda bwriad. Nid arloesedd yw unig ddiben y trawsnewidiadau mwyaf llwyddiannus; roeddent ynghylch eglurder. Eglurder mewn cynigion, eglurder mewn partneriaethau, ac eglurder wrth weithredu.
P’un a ydych yn camu i farchnadoedd newydd, yn ail-lunio eich gweithredoedd, neu yn lansio gwasanaethau newydd, dechreuwch drwy ofyn:
- A yw hyn yn unol â’n diben a’n cryfderau?
- A fydd hyn yn creu gwerth mesuradwy i’n cwsmeriaid / marchnad?
- A allwn ni ei gyflawni heb gymhlethdod diangen?
Oherwydd yn y sefyllfa fusnes heddiw, mae hyblygrwydd yn dod o symlrwydd - wedi’i ategu gan strategaeth, timau dibynadwy, ac arweinyddiaeth feiddgar.