BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Andrew Miller

Andrew Miller Photography

Cysylltu gyda Andrew Miller



Swyddogaeth:
Mentor / hyfforddwr
Sector:
Lleoliad:
Flintshire

Amdano

Ar ôl gadael Lluoedd EM, mae Andrew wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ennill profiad ym meysydd Adnoddau Dynol ac Ymchwil a Datblygu, ac yntau â hanes blaenorol o gyflawni a llwyddo yn y diwydiannau Caledwedd TG, Milwrol, Telathrebu, Ymgynghoriaeth, Fferyllol, Gwasanaethau, Llywodraeth Leol a Chenedlaethol, a Phetrocemegol ar lefel fyd-eang.

 

Mae wedi gweithio i sawl cwmni o’r radd flaenaf, gan gynnwys HSBC, Ericsson, Alcatel Telecom, Serco, Cisco, Dell, British Energy a British Airports Authority, yn ogystal â rhai o asiantaethau ac adrannau llywodraeth genedlaethol -  Swyddfa’r Cabinet; yr Adran Drafnidiaeth; Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog; y Labordai Amddiffyn, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; yr Adran Gwaith a Phensiynau; Swyddfa Ystadegau’r Deyrnas Unedig; ac Estyn (Arolygiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion ac Addysg). 

Mae Andrew wedi cymhwyso’n llawn i ddefnyddio ystod eang o asesiadau seicometrig at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys recriwtio, datblygu tîm a hyfforddi. Mae ganddo gymhwyster Prince 2 (Rheoli Prosiectau) a chymhwyster lefel gradd meistr mewn Hyfforddi a Mentora gyda’r ILM. Mae hefyd yn siaradwr profiadol iawn ac arbenigwr dysgu a datblygu, wedi iddo fod yn gweithio yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac UDA yn ystod ei yrfa. 

Yn ogystal, mae’n rhedeg busnes ffotograffiaeth llwyddiannus iawn, a bydd yn cynnal gweithdai ffotograffiaeth a sefydlu busnes ffotograffiaeth. Mae hefyd yn siaradwr rhyngwladol ar ffotograffiaeth a bydd yn rhoi sgwrs yn yr Almaen ym mis Medi 2018.

https://www.andrew-miller.co.uk

https://www.rubus-consultants.co.uk

https://www.dreamingoftheoutdoors.com

Gair i Gall

Cyfrifwch y ffigyrau cyn neidio i mewn.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.