BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Amy Price

The social butterfly marketing Ltd

Cysylltu gyda Amy Price



Amy Price
Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Neath Port Talbot

Amdano

Ers cychwyn y cwmni’n 24 oed, mae Amy wedi creu ei busnes ar sail ei chariad at natur ac wedi datblygu asiantaeth farchnata rithwir ac integredig gyntaf Cymru gyda’r canlyniad o’i thîm yn gallu gweithio o unrhyw leoliad.

Mae Eden ar y cyd yn ecosystem o ymgynghorwyr Marchnata a Dylunio sy’n gweithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cymell busnesau ac unigolion lleol i ailganolbwyntio eu sylw ar farchnata drwy ddarparu ymgynghoriadau a rheolaeth allanol, ddiduedd, effeithiol yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau cyfryngau cymdeithasol wedi’u teilwra ar gyfer rhai sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth.

Gan weithio gyda chleientiaid fel WRPA, gerddi botaneg cenedlaethol a chynghorau lleol, mae Amy wedi dod yn gydlynydd marchnata blaenllaw ac ymgynghorydd marchnata preifat gyda llawer o ganlyniadau profedig. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei hysbryd entrepreneuraidd gan gynnwys ‘rising star of the year’ yn y Gwobrau Menywod mewn Busnes 2019 yn Abertawe, ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithredu fel model rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru ac yn fentor Busnes Cymru, ble mae hi’n gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i ddilyn eu breuddwydion.

Mae Amy hefyd wedi ennill ei ILM lefel 2 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn gweithio tuag at ei chymhwyster lefel 5 ar hyn o bryd.

Gan dreulio ei phenwythnosau yn gofalu am ei chi achub ac yn mynychu cyfleuster Traws-ffit lleol, mae Amy bob amser yn chwilio am gyfleoedd hunanddatblygiad newydd ac yn aelod o’r Blaid Draws-Grŵp sy’n gweithredu yn erbyn Trais yn Erbyn Menywod.

Gair i Gall

Cadwch eich ffocws, angerdd ac uchelgais, hyd yn oed ar ddiwrnodau gwael – hyn fydd y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.