BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Anita Thomas

?

Cysylltu gyda Anita Thomas



Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Gwent

Amdano

Yn ddiweddar ymddeolais o The Prince’s Trust Cymru ble y gweithiais am 13 blynedd fel Rheolwr Menter yn cefnogi pobl ifanc gyda syniad busnes i sefydlu eu busnes eu hunain. Roeddwn hefyd yn Rheolwr Gwirfoddoli a Secondiadau, yn hyfforddi gwirfoddolwyr i fentora’r bobl ifanc hyn.

Cyn ymgymryd â secondiad gyda’r Trust, gweithiais am 24 mlynedd i Fanc Barclays ble roedd fy rolau niferus yn cynnwys Hyfforddi Perfformiad a Rheolwr Cangen.

Mae gennyf gymwysterau cwnsela, hyfforddi ac asesu NVQ ac rwyf wedi bod yn Ynad am y 11 mlynedd ddiwethaf, yn gwasanaethu ar fainc Gwent.

Rwy’n ddibynadwy, hyblyg, cadarn a phenderfynol a gallaf arddangos amynedd ac empathi pan fo angen. Rwy’n frwdfrydig ynghylch gwella a datblygu pobl a’u cynorthwyo i fod y gorau y gallant, a gweld eu hyder yn tyfu.

Hoffwn ddefnyddio’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu i gefnogi pobl i sefydlu busnes a’u helpu i fod yn llwyddiannus.

Gair i Gall

Byddwch yn ymwybodol o’ch pwynt gwerthu unigryw a byddwch yn hyderus i siarad yn ei gylch er mwyn brolio eich busnes yn y ffordd orau bosibl. Sicrhewch fod eich cynulleidfa yn gwybod beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol i fusnesau eraill.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.