Mae llygredd y môr yn broblem fawr i'n moroedd a'n harfordiroedd. Ar y cyd â gweddill Prydain, rydym yn cymryd camau positif i leihau sbwriel y môr yn ein cefnforoedd.
O fewn ein Strategaeth Forol, mae gennym dargedau penodol i leihau sbwriel y môr ar yr arfordir yn ogystal ag yn y golofn ddŵr.
Rydym wedi ymrwymo'n llawn i'r gwaharddiad ledled y DU ar y defnydd o beli micro plastig mewn deunydd cosmetig a chynnyrch gofal personol. Daeth ein hymgynghoriad cyhoeddus ar weithredu a gorfodi i ben ar 8 Ionawr 2018, ac mae'r crynodeb o ymatebion hefyd ar gael.
Rydym yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar gynhyrchu a gwerthu peli micro plastig, ar yr un pryd, ar 30 Mehefin 2018.
Unwaith y bydd y gwaharddiad wedi'i gyflwyno, bydd yn drosedd i unrhyw un:
- weithgynhyrchu
- gwerthu, neu
- gynnig cyflenwi
- unrhyw ddeunydd cosmetig y gellir ei olchi i ffwrdd neu gynnyrch gofal personol sy'n cynnwys peli micro plastig yng Nghymru. Mae copi o'r rheoliadau peli micro DRAFFT ar gael isod.
Er mwyn cydnabod yr angen cynyddol i fynd i'r afael â llygredd y môr rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu Partneriaeth Moroedd Glân Cymru.
Mae oddeutu 80% o'r sbwriel sy'n cyrraedd y môr yn dod o ffynonellau ar y tir gan gynnwys drwy systemau dŵr a gwastraff. Mae hyn ar ffurfiau amrywiol, gan gynnwys:
- pecyn plastig
- eitemau untro
- cynwysyddion bwytai bwyd ar glud
- poteli diod
- caniau
- eitemau sy'n cael eu rhoi lawr toiledau
- sbwriel cyffredinol.
Dilynwch y dolenni i ddod i wybod mwy am eich hamcanion strategol hirdymor i leihau gwastraff yng Nghymru Tuag at Ddyfodol Diwastraff a diogelu ansawdd ein hamgylchedd a'n cefn gwlad.