Yn ei hymateb i hyn, mae Cymru wedi cyhoeddi ei bod am fod 'Cenedl Ail-lenwi' gynta'r byd trwy ddarparu mwy o ddŵr yfed i bobl mewn mannau cyhoeddus. Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn ar 8 Mai y bydd £15 miliwn o arian ychwanegol yn cael ei neilltuo i helpu Cymru â'i hymdrech i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu. Mae'r mudiad Ail-lenwi a lansiwyd gan City to Sea yn ceisio mynd i'r afael â llygredd plastig trwy rwydwaith o bwyntiau dŵr yfed cyhoeddus i leihau'r angen am boteli plastig untro. Mae'r ymrwymiad hwn yn enghraifft fyw o'r modd y mae cyrff a llywodraethau'n ymateb i ymgyrch y mudiad Moroedd Glân byd-eang dros leihau'r gorddefnydd o blastig untro. Gall baratoi'r ffordd hefyd i gyrff eraill roi adduned y Moroedd Glân a gwneud gwahaniaeth i ansawdd eu dyfroedd. Darllenwch fwy ar dudalennau newyddion Llywodraeth Cymru

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen