Trwyddedau Morol a sut maen nhw’n gweithio.
Yn sgil Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013 (dolen allanol), sefydlwyd system trwyddedu morol newydd drwy gyfuno a diweddaru trefniadau trwyddedu blaenorol. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer dyfroedd Cymru (hyd at 12 milltir forol o’r lan). Cyflwynwyd y system hon ym mis Ebrill 2011. Cafodd y cyfrifoldeb dros weinyddu trwyddedau morol ei ddirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (dolen allanol) ym mis Ebrill 2013. Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (dolen allanol).
Newidiadau i drefniadau trwyddedu morol a bywyd gwyllt yn rhanbarth môr mawr Cymru
Ymrwymodd Llywodraeth y DU i ddatganoli rhagor o bwerau i Weinidogion Cymru ar ôl i Gomisiwn Silk wneud argymhellion yn Adroddiad Silk II ar Bwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru.
Ar 30 Tachwedd 2017, cafodd y cyfrifoldeb dros drwyddedu mewn perthwn perthynas â rhywogaethau a warchodir yn rhanbarth môr mawr Cymru ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017. Cytunodd y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) i weinyddu ceisiadau trwyddedu rhywogaethau yn rhanbarth môr mawr Cymru ar ran Gweinidogion Cymru tan 31 Mawrth 2018, pan fydd y cyfrifoldeb dros weinyddu ceisiadau yn cael ei drosglwyddo i CNC, a fydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru.
O 1 Ebrill 2018 ymlaen, Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod trwyddedu morol yn rhanbarth môr mawr Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017, pan fydd y cyfrifoldeb dros weinyddu ceisiadau am drwyddedau morol yn trosglwyddo o'r MMO i CNC, a fydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Os byddwch wedi cyflwyno cais i'r MMO am drwydded morol a/neu fywyd gwyllt cyn 1 Ebrill 2018, yr MMO fydd yn penderfynu arno. Unwaith y bydd wedi penderfynu ar y cais am drwydded, os bydd unrhyw ofynion yn gysylltiedig â'r drwydded, megis monitro neu gyflawni amodau, bydd y rheini'n cael eu hystyried gan CNC.
Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau yn rhanbarth môr mawr Cymru, dylech gyfeirio at Orchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 i weld pa weithgareddau sy'n cael eu hesemptio rhag y gofyniad i gael trwydded forol yng Nghymru.
Os byddwch yn gwneud cais am drwydded ar ôl 1 Ebrill 2018, bydd angen ichi gyflwyno'r cais hwnnw i CNC.
Mae rhagor o wybodaeth am y system trwyddedu morol i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol).
Manylion Cyswllt CNC
Trwyddedu Morol
E-bost: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk
Rhif Ffôn: Llinell Ymholiadau Cyffredinol ar 0300 065 3000.
Trwyddedu Rhywogaethau
E-bost: trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif Ffôn: 0300 065 4974 neu 0300 065 4921
Newidiadau i'r ffordd y bydd harbyrau'n cael eu rheoleiddio yng Nghymru
O dan Ddeddf Cymru, bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn dod yn gyfrifol o 1 Ebrill 2018 ymlaen am bolisi datblygu porthladdoedd ar gyfer harbyrau sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru ac eithrio porthladdoedd ymddiriedolaeth mawr. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys ceisiadau am Orchmynion Diwygio a Grymuso Harbyrau, cydsyniadau deddfau preifat ('Y Morlys'), ceisiadau am bwerau i wneud cyfarwddydau harbyrau ac i gadarnhau is-ddeddfau. Er mwyn helpu i sicrhau bod y broses bontio i’r drefn newydd yn un llyfn, mae'r Adran Drafnidiaeth, yr MMO a Llywodraeth Cymru wedi cytuno mai'r Adran Drafnidiaeth neu'r MMO a fydd yn gyfrifol am fathau penodol o geisiadau a ddaw i law cyn 1 Ebrill 2018.
Llywodraeth Cymru fydd yn ymdrin â phob cais a ddaw i law ar ôl 1 Ebrill 2018.
Ffioedd trwyddedu morol a thaliadau sy'n gysylltiedig â'r drefn Asesu Effeithiau Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru sy'n pennu ffioedd trwyddedu morol a thaliadau sy'n gysylltiedig â'r drefn Asesu Effeithiau Amgylcheddol, a byddant yn cael eu codi gan CNC, yr awdurdod trwyddedu morol yng Nghymru. Cyflwynwyd yn ffioedd hyn ar 1 Ebrill 2017.
Mae manylion llawn y ffioedd a'r taliadau, a'r gwasanaethau a gynigir gan CNC, i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hawl i apelio
Mae gan ymgeiswyr yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod trwyddedu (Cyfoeth Naturiol Cymru) o dan adran 71 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Rhaid apelio yn unol â’r drefn yn Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelio yn erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) Cymru 2011.
Rhaid i hysbysiad o apêl gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn pen chwe mis i ddyddiad y penderfyniad dan sylw. Rhaid i’r apelydd anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl, gan gynnwys y dogfennau a restrir isod at Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a ganlyn:
- Gweinidogion Cymru d/o Cangen Polisi’r Môr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. CF10 3NQ.
Yr un pryd, rhaid i’r apelydd anfon copi o’r hysbysiad at Cyfoeth Naturiol Cymru:
- Rheolwr y Ganolfan, Canolfan Ganiatáu Cymru (Caerdydd), Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP
Ffôn: 0300 065 3000
Ar ôl i hysbysiad o apêl ddod i law, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i benderfynu a yw’r hysbysiad yn hysbysiad dilys, ac os ydyw, i benderfynu ar yr apêl.
Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys:
- enw, cyfeiriad (gan gynnwys cyfeiriad e-bost) a rhif ffôn yr apelydd ac unrhyw asiant sy’n gweithredu ar ei ran
- datganiad o’r rhesymau dros apelio
- datganiad i ddangos a yw’r apelydd am i’r apêl gael ei hystyried yn ysgrifenedig, drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad
- copi o’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymdrin ag ef
- copi o’r holl ddogfennau y mae’r apelydd am ddibynnu arnynt
- rhestr o’r holl ddogfennau, gan gynnwys dyddiadau (os oes dyddiadau ar unrhyw ddogfennau) sydd wedi’u nodi ym mhwyntiau bwled d ac e.
Caiff apelydd dynnu ei apêl yn ôl drwy roi gwybod drwy lythyr i Weinidogion Cymru ac anfon copi o’r hysbysiad hwnnw at Cyfoeth Naturiol Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddirprwyo trwyddedau morol, mae croeso ichi anfon neges e-bost atom: marineandfisheries@gov.wales.