Y troseddau mwyaf cyffredin yr oedd yr erlyniadau hyn yn ymwneud â nhw oedd 9 achos o gasglu cocos yn anghyfreithlon yn ardal y Tair Afon yn ystod 2017. 

Nod cyffredinol y timau Gweithrediadau yn Is-adran y Môr a Physgodfeydd yw mynd ati i reoleiddio'r materion hynny yr ydym yn gyfrifol amdanynt, gan wneud hynny mewn ffordd gadarn a theg. Er mwyn llwyddo yn hynny o beth, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd gymesur, gyson a thryloyw.

Rydym yn blaenoriaethu camau gorfodi ar sail gwybodaeth a risg, gan fynd i'r afael â'r meysydd lle mae'r rheolau'n cael eu torri fwyaf. Mae'r broses sydd gennym ar hyn o bryd yn arwain at gyfres o ganlyniadau pan welir bod rheol wedi'i thorri. 

Ceir gwybodaeth yn y tabl isod am y troseddau yr ymdriniwyd â nhw yn y llys yn ddiweddar ac am ganlyniadau'r achosion hynny. 
 

Enw'r Llong neu'r Diffynnydd  Y drosedd a gyflawnwyd  Cyfanswm ar gyfer yr achos 
Providing Star Pysgota am gregyn bylchog mewn ardal dan waharddiad  £20,643.5
Providing Star Pysgota am gregyn bylchog mewn ardal dan waharddiad  £27,243.5
Michael Hough Casglu cocos o wely wedi'i chau  £4,670
Brian Arthur Casglu cocos o wely wedi'i chau Cadw cimychiaid llai na'r maint lleiaf  £2,080
Anne Marie B Pysgota anghyfreithlon o fewn y terfyn chwe milltir  £12,630
Searcher Byelaw 30 – excess lobsters plus undersized crabs £320
Terry Butchers, Ryan Butchers, Joshua Harry, Luke Dark, Stefan Swistun Casglu cocos o wely wedi'i chau  £6,766
Our Heritage Pysgota anghyfreithlon am gregyn bylchog o fewn terfyn chwe milltir Cymru  £11,740
Bonnie Lass III Pysgota anghyfreithlon am gregyn bylchog o fewn terfyn chwe milltir Cymru  £10,740
Celtic Glanio cregyn moch rhy fach  £1,824
Karima Troseddau yn y Môr Celtaidd  £7,328
Mathew Dean Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,029
Steffan Gibbon Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,229
Simon Harding     Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,029
Chad White     Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,029
James Davies Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,029
David Thomas Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,029
Ryan Butchers Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,466
Steven Melbourne Casglu cocos o wely wedi'i chau  £4,190
Marcus Scott Morgan Casglu cocos o wely wedi'i chau a rhwystro  £3,151
Stewart John Preece Casglu cocos o wely wedi'i chau  £2,180
Traeth Melynog (Anthony Griffiths, Leslie Williams, Abel David Whitehead, Callum Griffiths)  Casglu cocos o dan Maint cyfeirio cadwraethol lleiaf £6,272

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen