Datblygu y Farchnad Bwyd Môr
Mae marchnadoedd traddodiadol ar gyfer pysgod sy'n cael eu dal yng Nghymru i'w cael ar gyfandir Ewrop, gyda Ffrainc, Sbaen, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg yn gyrchfannau craidd ar gyfer allforio rhywogaethau pysgod cregyn byw.
Mae marchnadoedd newydd yn y Dwyrain Pell a Tsieina yn chwarae rhan sy'n datblygu mwy a mwy ar gyfer cynnyrch wedi'i brosesu, pysgod byw a physgod cregyn o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn rhoi cymorth amrywiol i fusnesau sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer eu cynnyrch o fewn y DU a thramor:
Datblygu Marchnad y DU:
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiadau clwstwr i'r sector bwyd môr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd drwy Glwstwr Bwyd Môr Cymru, gweler yma:
Datblygu'r Farchnad Dramor
Datblygu Masnach ac Allforio Llywodraeth Cymru
Diwydiant Pysgod Môr
Mae gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr swyddogaeth o ddatblygu masnach rhyngwladol penodol, ac mae'n bosibl ei weld drwy'r ddolen uchod.
Adran Masnach Ryngwladol
Yr Adran Masnach Ryngwladol yw'r sefydliad o fewn Llywodraeth y DU sy'n cefnogi allforio busnes i farchnadoedd byd-eang. Busnes Cymru yw'r pwynt cyswllt ar gyfer cymorth allforio yng Nghymru:
DIT
Mae DIT yn cynnig dadansoddiad defnyddiol o wledydd i lywio eich cynlluniau ar gyfer allforio.
Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr
Mae Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr hefyd yn cynnig sganio'r gorwel i roi gwybodaeth i helpu i lywio eich penderfyniadau ar gyfer masnach sy'n ystyried materion hirdymor megis y newid yn yr hinsawdd a diogelwch bwyd. Am fwy o wybodaeth, gweler y ddolen uchod.
Brexit
Mae Brexit yn ystyriaeth bwysig ar gyfer unrhyw fusnes. Mae Seafish yn cynnig ffynhonnell wybodaeth annibynnol ar Brexit allai eich helpu i wneud penderfyniadau ac mae'n parhau i fod yn rhaglen waith fyw gyda diweddariadau ar y ddolen uchod.