Astudiaethau Achos Partneriaid

Fforwm Arfordir Sir Benfro

I allu mynd i'r afael â phroblem sbwriel yn y môr, rhaid inni ddeall yn gyntaf ein harfordir a'n heffaith arno. Dysgwch fwy sut mae Fforwm Arfordir Sir Benfro yn helpu plant i ymchwilio i wahanol agweddau ar ddiogelu'r môr trwy ddyddiau morol rhyngweithiol. 

Mae'r prosiect hwn yn gywaith  rhwng rhanddeiliaid gwahanol i fapio'n harfordir. Fforwm Arfordir Sir Benfro sy'n ei drefnu a'r nod yw rheoli seilwaith y môr a gweithgarwch arall yn y môr yn fwy cynaliadwy. 


Cadwch Gymru'n Daclus

Yn ôl arbenigwyr, erbyn 2050, bydd mwy o dunelli o blastig yn y môr nag o bysgod. Fel rhan o'u gwaith i ddiogelu'n hamgylchedd heddiw ac yn y dyfodol, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn aml yn trefnu sesiynau glanhau traethau i gadw'n traethau'n hardd i bawb allu eu mwynhau. Darllenwch fwy am eu gwaith a sut i gymryd rhan. 


Dŵr Cymru Welsh Water 

Law yn llaw â Llywodraeth Cymru, mae Dŵr Cymru'n gweithio i daclo problem poteli plastig untro trwy ymchwilio i barodrwydd pobl i ddefnyddio 'ffynhonnau' dŵr yfed cyhoeddus, gyda'r nod o agor ffynhonnau dŵr cyhoeddus ledled Cymru yn y dyfodol agos. 

Mae cwmnïau dŵr yn bwysig yn ein hymateb i'r microplastig yn ein hafonydd. Mae Dŵr Cymru'n rhan o gonsortiwm o 40 a mwy o gyrff o dan y faner '21st Century Drainage' sy'n datblygu dulliau cynllunio tymor hir i'n helpu i ymateb i lawer o broblemau gan gynnwys microplastig a llygryddion. 


Minesto

Trwy gynaeafu pŵer y tonnau, bydd prosiect Dyfnder Caergybi yn arwain yn y pendraw at weld llai o olew a llygryddion mân eraill o gyflenwadau ynni adnewyddadwy yn cael eu gollwng i'r môr a niweidio'n bioamrywiaeth. 


World Wildlife Fund (WWF) Cymru

Mae WWF Cymru yn cydweithio â sectorau a gwledydd amrywiol sy'n rhannu'r un dyfroedd. Mae Prosiect y Moroedd Celtaidd wedi datblygu ffyrdd gwahanol o reoli'r moroedd rydyn ni'n eu rhannu. Darllenwch fwy am rai o'r prosiectau sydd wedi codi o'r cydweithio hwn, er enghraifft dangosfwrdd cydnerthedd a chanllawiau ar yr arferion gorau. 

Ar ôl llwyddiant y cynllun talu am fagiau plastig, mae WWF Cymru'n pwyso am fenter debyg ar gyfer cwpanau coffi untro; fel ymgais i leihau swm y plastig sy'n cyrraedd y môr. 

https://www.wwf.org.uk/updates/call-latte-levy-cut-cup-waste-backed-mps-wwf-cymru-comment


Syrffwyr yn erbyn Carthion (SAS) Cymru 

Bagiau plastig yw cyfran anferth o'r plastig untro sy'n cyrraedd y môr o hyd, ond mae'r tâl o 5c a gyflwynwyd yn y DU 3 blynedd yn ôl wedi arwain at 6 miliwn yn llai o fagiau. Mae SAS Cymru'n aelodau blaenllaw o'r glymblaid 'Break the Bag Habit'. Darllenwch fwy sut y gallech chi neu'ch cymdeithas, corff neu fusnes gymryd rhan. 


Seafish

Mae Seafish wedi bod yn ymchwilio'n galed i'r llygryddion y mae pysgod, gan gynnwys y pysgod rydyn ni'n eu bwyta, yn dod i gysylltiad â nhw. Darllenwch fwy am eu gwaith a sut mae llygryddion yn cael eu monitro a'u tracio. 


Prifysgol Caerdydd

Fel rhan o'u hymchwil i iechyd ein moroedd, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig ym mhob un o'u safleoedd trwy fynnu bod eu cyflenwyr yn defnyddio llai o ddeunydd pacio ac yn cyflwyno mygiau coffi wedi'u brandio. Darllenwch fwy am eu cynlluniau a'u polisïau.