Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae'r defnydd o dechnoleg rithwir i gynorthwyo busnesau ar draws amrediad o sectorau’n tyfu. Gwelodd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd George Bellwood a Robin David fwlch, a datblygu dechnoleg i lenwi’r bwlch hwnnw, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau pan oedden nhw yn eu blynyddoedd olaf yn y brifysgol. Mae eu cwmni, Virtus Tech, yn gwmni realiti rhithwir a dealltwriaeth data sy'n darparu platfformau rhithwir i fusnesau. Mae eu DIGI Tour blaenllaw yn defnyddio delweddau 360 gradd...
Sut y gwnaeth argyfwng y Covid roi hwb i gwmni addasu’i dechnoleg AI ar gyfer gofal orthopedig.
Mae technoleg yn tyfu’n erfyn fwyfwy pwysig ar draws y sector gofal iechyd. Ac mewn nifer o ffyrdd, mae COVID-19 wedi prysuro’r broses honno, gan ddod â thriniaethau newydd a dulliau newydd o roi diagnosis ac ymgynghori i’r amlwg. Mae Agile Kinetic, busnes ifanc, wedi datblygu deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu staff iechyd i wella gwasanaethau i gleifion. Mae’r cwmni wedi cael ei helpu trwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru sy’n targedu cwmnïau ifanc...
Cwmni gofal iechyd newydd yn benderfynol o wella profiad y claf.
Mae'r ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn newid ac yn gwella'n gyson. Erbyn hyn, mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd y darperir gwasanaethau gofal iechyd mewn llu o ffyrdd. Mae Concentric Health yn gwmni newydd technolegol sy'n trawsnewid y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau am ein hiechyd, gydag ymagwedd radical at brofiad cleifion wrth iddynt symud drwy'r system. Mae'r cwmni o Gaerdydd am darfu ar y sector iechyd er gwell...
Dydy busnesau Cymru ddim yn cyrraedd y safon o ran amrywiaeth meddai academydd, awdur ac entrepreneur blaenllaw.
Mae angen i fusnesau yng Nghymru wneud mwy i sicrhau y gallant elwa ar dimau a byrddau sydd wir yn amrywiol a chynhwysol, meddai’r Athro Amanda Kirby sydd yn entrepreneur, ac yn arwain y byd wrth arbenigo ym maes niwroamrywiaeth. Sylfaenodd yr Athro Kirby’r cwmni technoleg-er-da Do-IT Profiler sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Dywedodd er bod ymwybyddiaeth yn cynyddu o ran y manteision mae amrywiaeth yn eu cynnig i fusnesau, mae “amharodrwydd a naïfrwydd”...
Targedau twf uchelgeisiol cwmni recriwtio ar ôl llywio 2020 heriol
Recriwtio'r bobl iawn ar gyfer eich busnes yw un o'r elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant. Ar gyfer Gyrwyr Go2, sydd wedi'u lleoli ym Mae Colwyn, mae'r ethos hwnnw'n hollbwysig. Darparu talent i'r sector logisteg fu ei nod canolog ers ei sefydlu yn 2011. Yma, mae'r rheolwr gyfarwyddwr Christopher Hughes yn rhoi trosolwg o hanes y cwmni ac yn rhannu cyngor gwerthfawr i eraill sy'n dechrau ar eu taith entrepreneuraidd eu hunain, Dywedwch wrthym am Yrwyr...
Entrepreneur o Ruthun yn cael ei chydnabod am lwyddiant ar restr y 100 o entrepreneuriaid benywaidd gorau
Mae'r entrepreneur o Ruthun, Rhian Parry, wedi cael ei henwi'n un o'r 100 entrepreneur benywaidd mwyaf ysbrydoledig yn y DU gan ymgyrch '#ialso100' Busnesau Bach Prydain. Mae Rhian, a sefydlodd Workplace Worksafe - un o gyflenwyr annibynnol blaenllaw offer iechyd a diogelwch, cyfarpar amddiffyn personol (PPE) a dillad gwaith â brand yn 2005 - yn cael ei chydnabod ochr yn ochr â 99 o entrepreneuriaid benywaidd o bob rhan o'r DU sy'n ffynnu er gwaethaf...
Technoleg o Gymru i helpu Llynges yr Unol Daleithiau i leihau gwastraff a’r effaith mae’n ei chael ar yr amgylchedd
Bydd technoleg cywasgu thermal a gafodd ei datblygu yng Nghymru yn helpu Llynges yr Unol Daleithiau i leihau’r gwastraff mae ei fflyd yn ei gynhyrchu hyd at 75%. Mae Thermal Compaction Group (TCG) o Gaerdydd wedi gwerthu prototeip o’u system cywasgu thermol Massmelt, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, i Lynges yr Unol Daleithiau mewn cytundeb gwerth chwe ffigur. Mae'r cwmni bellach yn cynnal trafodaethau i drwyddedu'r dyluniad i’w weithgynhyrchu yn yr Unol...
Cwmni LIMB-art o Gymru yn cipio Gwobr arobryn Entrepreneuriaid Prydain Fawr
Enillodd Mark y wobr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol rithwir ddydd Mawrth ac mae’n adeiladu ar yr un teitl a enillodd i Gymru yn y rownd ranbarthol ym mis Medi. Gwobrwywyd yr enillwyr cenedlaethol o grŵp o 135 o sylfaenwyr 110 o fusnesau a fu’n llwyddiannus yn y rowndiau rhanbarthol. Bu’n rhaid cynnal y Rownd Derfynol Genedlaethol ar-lein am y tro cyntaf yn sgil pandemig COVID-19. Mae LIMB-art yn gwmni gweithgynhyrchu a dylunio Prydeinig sydd...
Yn ôl o’r dibyn: Sut mae cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi diogelu dyfodol cwmni gofal sy’n tyfu
Mae darparwyr gofal wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod pandemig Covid-19. Y tu hwnt i’r argyfwng presennol, bydd gan y sector rwystrau tymor hwy i’w goresgyn, fel dod o hyd i staff sy'n meddu ar sgiliau ynghyd ag ymdopi ag elw is. Sefydlwyd Pineshield Management yn 2002 ac mae’n darparu gofal i bobl hŷn â dementia ac i oedolion a phlant ag anableddau. Mae’r cwmni, sy'n cael ei arwain gan y cadeirydd James Dwyer...
Dyfodol cyffrous ym marchnad Japan i frand ffasiwn Mabli
Mae gan Gymru hanes blaenorol cadarn o gynhyrchu a meithrin labeli ffasiwn o ansawdd uchel. Mae nifer o frandiau blaenllaw byd-eang naill ai wedi cael eu sefydlu yng Nghymru neu mae ganddynt bresenoldeb gweithgynhyrchu yng Nghymru – Laura Ashley, Toast, Burberry, Hiut Denim a JoJo Maman Bébé i enwi ond rhai. Yn dilyn ôl troed y traddodiad hwnnw y mae Mabli – brand sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n profi llwyddiant mewn marchnadoedd tramor. Yma...