Ysgrifennydd yr Economi yn agor uned newydd yn Creo Medical, Cas-gwent
Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yng Nghas-gwent i agor uned newydd yn Creo Medical, cwmni lleol sy’n tyfu ac sydd newydd gyflogi 22 o staff newydd. Mae’r cwmni dyfeisiau meddygol hwn yn arbenigo ym maes newydd endosgopi llawfeddygol sy’n defnyddio ynni tonnau radio a microdonnau i leihau’r angen am lawfeddygaeth fewnwthiol. Yn 2016, derbyniodd Creo Medical fuddsoddiad o £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cyllid Cymru - sef Banc Datblygu Cymru erbyn hyn...