Mae’r rheini sy'n trefnu digwyddiad technolegol blaenllaw wedi cyhoeddi’r ‘Dwsin Digidol’ ar gyfer eleni, sef cymysgedd amrywiol o fusnesau sy’n gwneud eu marc ar economi'r DU drwy eu defnydd o dechnoleg a phopeth digidol.

Bydd y 12 cwmni’n cael eu gwahodd i'r digwyddiad ym mis Mehefin ac mae 7 ohonynt yn dilyn y Rhaglen Cyflymu Twf.  Bydd nifer o'r busnesau hyn yn cael cyfle i fynd ar y llwyfan ynghyd â rhestr drawiadol o siaradwyr o sefydliadau blaengar gan gynnwys Google, Twitter, Sage, HP, Cisco, a mwy. Byddant yn rhoi sylw i bopeth, o'r datblygiadau diweddaraf mewn meddalwedd TG i dechnolegau amharol cyffrous fel Rhithwirionedd, Data Mawr, a Rhyngrwyd Pethau.

Digital 2016


Dyma Ddwsin Digidol 2016:

  • Amplyfi: wedi'i greu er mwyn rhoi cipolwg i fusnesau ar ffactorau a allai amharu ar dechnoleg neu ar y farchnad, drwy fasnacheiddio technegau deallusrwydd artiffisial y Gymuned Gudd-wybodaeth a gafodd eu datblygu gyntaf er mwyn cadw golwg ar y we.
  • Cellnovo: cwmni meddygol arloesol sy'n arbenigo yng nghlefyd y siwgr. Mae'r cwmni wedi datblygu system gyfun gyntaf y byd i reoli clefyd y siwgr a hynny'n seiliedig ar bwmp micro.
  • Delio: darparu llwyfannau buddsoddi i sefydliadau ariannol sy’n gallu cyflwyno’r cyfleoedd buddsoddi sy’n bodoli yn y farchnad breifat yn well i’w cleientiaid cyfoethog.                            
  • Devopsguys: yn helpu sefydliadau i fod yn fwy abl i addasu, i ymateb ac i newid graddfeydd gweithredu drwy symleiddio swyddogaethau TG, gan sicrhau nad yw ‘dyled dechnegol’ yn gosod baich ar gwmnïau.                                
  • doopoll: mae'n rhoi llwyfan ar-lein ar gyfer creu polau piniwn deinamig er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol.
  • Echosec: meddalwedd sy’n galluogi pobl i chwilio’r cyfryngau cymdeithasol yn ôl lleoliad. Gall canlyniad pob chwiliad helpu i lunio darlun o ddigwyddiadau wrth iddyn nhw ddatblygu.
  • Elidir Health: meddalwedd a chymwysiadau ymarferol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan eu gwneud yn haws i drosglwyddo gwybodaeth o fewn amgylchedd gofal iechyd.                          
  • Interceptor Solutions: wedi datblygu LinquaSkin  ̶  cynnyrch sy’n gallu creu rhyngwyneb amlieithog yn gyflym ac yn rhwydd ar gyfer rhaglenni unieithog
  • Learnium: llwyfan dysgu cymdeithasol Meddalwedd fel Gwasanaeth yw Learnium sy’n galluogi myfyrwyr ac athrawon i gysylltu, cyfathrebu a chydweithio ar-lein.
  • Noddlepod: teclyn dysgu yn seiliedig ar y gymuned. Mae’n darparu amgylchedd diogel a phreifat lle gall y rhai sy’n cymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth, neu gymuned, rannu gwybodaeth, rhoi cymorth i’w gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd.
  • RWA: dylunio ac adeiladu atebion e-ddysgu sy'n cael eu defnyddio ym mhob rhan o'r byd ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. RWA ddyluniodd Parth Datblygu Aviva ac mae'n ei gynnal o hyd. Mae'n darparu atebion e-ddysgu i fwy na 8,000 o froceriaid yswiriant yn y DU.
  • Wealthify: gwasanaeth buddsoddi ar-lein yw Wealthify sy’n defnyddio technoleg ac algorithmau clyfar i sicrhau bod buddsoddi o fewn cyrraedd pawb a'i fod yn fforddiadwy i bawb.

I gael gwybod mwy am y Dwsin Digidol ac i archebu lle ar gyfer y digwyddiad, ewch i www.digital2016.com neu @Digidol_16/@Digidol16Cym.