Dod yn Hunangyflogedig

Os ydych chi eisiau troi sgil, crefft neu wasanaeth yn fusnes, dylech ddechrau yma.

Dod yn hunangyflogedig yw un o'r ffyrdd mwyaf hyblyg o weithio i chi'ch hun. P'un a ydych chi'n cynnig gwasanaeth, yn gweithio'n llawrydd, neu'n dechrau crefft, bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gysylltiedig a hynny a sut i ddechrau yn hyderus.

Nid oes angen ichi wybod pob manylyn, dim ond ymdeimlad o'r hyn rydych chi am ei gynnig a phwy efallai yr hoffech chi weithio gyda nhw.

5 peth i feddwl amdanynt wrth ddod yn hunangyflogedig

  1. Pa wasanaeth ydych chi'n ei gynnig a beth sy'n ei wneud yn werthfawr?
    Meddyliwch am y sgiliau y mae pobl eisoes yn dibynnu arnoch chi amdanynt.
  2. Pwy yw eich cwsmeriaid? 
    Cymuned leol, cleientiaid ar-lein, cwsmeriaid busnes neu gymysgedd?
  3. Sut y byddwch yn hyrwyddo eich adnoddau?
    Mae gwybod eich costau a'r gwerth rydych chi'n ei ddarparu yn helpu i adeiladu sylfaen gadarn.
  4. Pa gamau gweinyddol sydd angen i chi eu cymryd?
    Mae treth, cadw llyfrau a chofrestru eich busnes yn swnio'n gymhleth, ond byddwn yn eich tywys drwy'r holl gamau.
  5. Sut bydd pobl yn dod o hyd i chi?
    Gall marchnata syml, argymhellion ar lafar, y cyfryngau cymdeithasol, neu wefan syml, wneud gwahaniaeth mawr.

Sut y gall Busnes Cymru helpu?

Gallwn eich cefnogi bob cam o'r ffordd wrth ichi symud i hunangyflogaeth:

  • BOSS - ein "Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein" 24/7
  • Gweithdai ar-lein sy'n ymdrin a threth, cadw llyfrau, marchnata a phrisio
  • Canllawiau a thempledi i'ch helpu chi i gofrestru a sefydlu'n iawn
  • Cyngor ar gyllid, gan gynnwys costau cychwyn busnes
  • Sgiliau digidol a marchnata i'ch helpu i ddenu cwsmeriaid
  • Cefnogaeth 1:1 gan gynghorydd Busnes Cymru i helpu i lunio eich syniad

Ein rôl yw gwneud eich camau nesaf yn gliriach a'ch helpu i deimlo'n hyderus i'w cymryd.

Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes

Cofrestrwch heddiw i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich taith i gychwyn busnes newydd.

Cofrestrwch yma

Straeon go iawn gan bobl sydd wedi dod yn hunangyflogedig

Cic-focsiwr wedi troi'n hyfforddwr yn adeiladu busnes ffitrwydd ffyniannus Hyfforddwr personol yn ffynnu diolch i hyfforddiant Busnes Cymru

Hobi a dyfodd i fod yn fusnes llwyddiannus Troi iachau yn fenter: Taith Serena Taylor o athrawes i berchennog stiwdio ioga

Crefftwr gwydn yn ailadeiladu gyrfa yn fusnes ffyniannus Adfywio gyrfa diolch i gefnogaeth Busnes Cymru


Eich cam nesaf

  • Dechrau arni 
    Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod inni pa gymorth rydych chi'n chwilio amdano.
  • Cofrestru 
    Rhowch ychydig o fanylion amdanoch chi a'ch syniad busnes i'n helpu i deilwra canllawiau ac adnoddau i chi.
  • Archwilio'r adnoddau a'r canllawiau sydd ar gael 
    Ar ôl i chi gofrestru, bydd gennych fynediad i'ch cyfrif digidol ar BOSS. Gallwch fewngofnodi ar unrhyw adeg i archwilio offer, archebu gweithdai ar-lein, a chael mynediad at arweiniad arbenigol ar eich cyflymder eich hun.
  • Teilwra eich cymorth
    Defnyddiwch eich cyfrif BOSS i gadw lle ar ein gweithdy ar-lein "Dechrau a rhedeg eich busnes eich hun?", ac i drefnu apwyntiad dilynol gydag un o'n Cynghorwyr Busnes profiadol.  

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i adeiladu eich busnes, eich ffordd chi. 


Gwasanaethau a Phynciau Poblogaidd

Yn darparu canllawiau cynhwysfawr ac ymarferol i'ch helpu i ddechrau ac i redeg eich busnes

Canfod Cyllid Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes

Mae cynllunio beth rydych chi am ei wneud yn eich busnes yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod eich busnes yn llwyddo.

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes, gall ymchwil marchnad eich helpu i weld pa mor ymarferol yw'ch syniad busnes a'i siapio er mwyn ichi gael y siawns orau o lwyddo.

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.

Yn darparu arweiniad a rhai opsiynau i'ch helpu i ddatblygu syniad busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.