
Mae cyn-bencampwr cicfocsio Prydain o Gwmbrân yn credydu’r cymorth a gafodd gan Fusnes Cymru am roi’r hyder iddo adael ei swydd pob dydd a mentro i agor busnes newydd.
Roedd Hywel Smith, sy’n hyfforddwr personol cymwys ac yn cystadlu fel corffluniwr a chicfocsiwr, wedi bod yn ystyried dod yn hyfforddwr hunangyflogedig ers amser. Ond dim ond ar ôl tristwch colli ffrind agos a chyd-athletwr y penderfynodd troi at Busnes Cymru am gymorth i gychwyn ei siwrnai entrepreneuraidd fel hyfforddwr ffitrwydd.
Cynorthwyodd Graham Harvey, Ymgynghorydd Busnes Cymru sy’n arbenigo mewn bancio trwy feithrin perthnasau busnes a masnachol, Hywel i gynllunio a lansio Hywel Physique ym mis Medi 2024. Gan fanteisio ar ei brofiad helaeth o gynghori BBaCh, cynorthwyodd Graham Hywel i gywreinio’i gynlluniau busnes, gan ei dywys trwy’r gwaith darogan ariannol ac argymell gweithdai hyfforddi pwrpasol ar gyfer perchnogion busnes newydd. Gyda’i gymorth, bu modd i Hywel lansio’n llwyddiannus ac ehangu ei wasanaethau hyfforddi wyneb yn wyneb a rhithiol yn gyflym.
Ers lansio’r busnes, mae Hywel wedi adeiladu sylfaen o 100 o gleientiaid, y mae’r mwyafrif ohonynt yn ei filltir sgwâr yng Nghwmbrân. Yn rhithiol, mae e wedi diogelu cleientiaid yn Llundain a Manceinion, ac mae ei olygon ar adeiladau ar hyn wrth i’w gwmni dyfu.
Wrth drafod ei fusnes, dywedodd Hywel:
Rydw i wastad wedi bod yn frwd dros ffitrwydd corfforol a’r manteision sy’n dod yn ei sgil, felly roedd gwneud y penderfyniad i adael gyrfa ym maes logisteg i ddilyn fy mreuddwyd o hunangyflogaeth yn gwneud synnwyr pur. Ond roedd hi’n gam mawr o hyd. Pan droais i at Busnes Cymru, roeddwn i’n chwilio am anogaeth, a dyna’r union beth y cefais i gan Graham.
Bydd cefnogaeth barhaus Graham yn parhau i yrru’r twf yna trwy helpu’r entrepreneur ffitrwydd i fynd at drywydd cyfleoedd ariannu, â’r nod o gyflwyno hyfforddwr personol arall i dîm Hywel Physique.
Aeth Hywel ymlaen i ddweud:
Rydw i wastad wedi bod yn angerddol iawn am ffitrwydd, o safbwynt corfforol a meddyliol, felly roedd agor fy nghwmni hyfforddiant personol fy hun yn ddewis rhesymegol i mi yn nhermau dechrau fy musnes fy hun. Allwn i ddim â gofyn am neb â chefndir gwell na Graham, am ei fod e’n gwybod ble roedd angen cymorth arna’i ar unwaith. Roedd e’n llwyr ddeall fy nodau o ran y busnes ac o ran beth roeddwn i am ei gynnig, a bu modd iddo fy nghynorthwyo i droi’r elfennau hynny’n realiti, a rhoddodd hynny hwb anferth i fy hyder.
Mae’r hwb yna wedi galluogi Hywel i fynd ar drywydd dulliau newydd o weithio, gan gynnwys hyfforddiant rhithiol, sy’n golygu bod modd iddo gynorthwyo ei gleientiaid i gyrraedd eu nodau ffitrwydd 24/7, a hynny wrth ehangu ei sylfaen o gleientiaid posibl y tu hwnt i’w ardal leol.
Parhaodd i ddweud:
Mae bod yn rhithiol yn beth da am gynifer o resymau. Mae’n caniatáu i fy nghleientiaid gyfathrebu â mi’n rheolaidd, ac yn caniatáu i mi rannu cynghorion ymarfer ar amser sy’n gyfleus i mi ac iddyn nhw. Mae’n golygu hefyd bod modd i mi gyrchu amrywiaeth ehangach o unigolion sydd am gymryd y cam cyntaf yna ar eu siwrnai ffitrwydd, ac mae hyn yn rhywbeth rydw i wir am barhau i adeiladu arno wrth i’r cwmni ddatblygu.
Yn ôl Graham, Ymgynghorydd Hywel, mae siwrnai’r hyfforddwr o yrfa nad oedd yn ei foddhau i fod yn entrepreneur â busnes newydd yn dangos sut y gall cymorth Busnes Cymru ymbweru unigolion brwd i adeiladu busnesau proffidiol â photensial gwirioneddol i dyfu.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Graham Harvey:
Daeth Hywel ataf i â syniad cyflawn, y cyfan oedd ei angen arno oedd cymorth i wybod sut i gychwyn arni. Mae e’n angerddol iawn am helpu pobl i gyflawni eu nodau, ac rwy’n credu bod ganddo’r agwedd gywir i fynd â’i fusnes i lefel genedlaethol, yn arbennig gyda’r elfen o hyfforddiant rhithiol. Mae llwyddiant Hywel yn profi bod llawer o entrepreneuriaid yn gallu troi eu syniadau a’u hegni yn fusnesau hyfyw y gellir eu hehangu, ac maen nhw yn gwneud hynny. Weithiau, yr unig beth sydd ei angen yw cyngor strategol a’r gallu i gyrchu adnoddau, y mae’r ddau beth ar gael yn hwylus yma yng Nghymru trwy ein tîm.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.