Hanes llwyddiant

Adfywio gyrfa gyda chymorth Busnes Cymru

Michael Vowles MVP Tiling and Decorating

Diolch i gymorth Busnes Cymru, mae cyn-brentis mecanydd wedi gallu adfywio’i gynlluniau gyrfaol a dod yn entrepreneur mewn maes newydd, ar ôl i sialensiau iechyd difrifol ei orfodi i newid ei lwybr galwedigaethol. 

Lansiodd Michael Vowles MVP Tiling and Decorating ym mis Mai 2024, gan gynnig gwasanaethau peintio, addurno a theilio o safon uchel. Fodd bynnag, nid yw’r siwrnai i fod yn fos arno fe ei hun wedi bod yn un syml.

Dechreuodd ei yrfa fel prentis mecanydd, ond ar ôl cael diagnosis o anhwylder meddygol o’r enw dirywiad asgwrn y cefn, bu angen iddo adael y maes hwnnw a chanolbwyntio ar wella. 

Yn 2014, trodd Michael at beintio ac addurno trwy gofrestru ar gwrs gydag Access Cymru a’i gynorthwyodd i gael yr hyfforddiant oedd ei angen arno i newid gyrfa.

Gyda’i sgiliau newydd a’i anhwylder meddygol dan reolaeth, aeth Michael ati i weithio yn rhan o dîm cynnal a chadw mewn storfa tan 2022, pan gollodd ei swydd ar ôl i’w gyflogwr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.  

Trwy raglen ReAct Llywodraeth Cymru, llwyddodd i ddiogelu cyllid i ddilyn cwrs teilio, a alluogodd iddo ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau fel crefftwr hunangyflogedig. Anogodd cyn-reolwr Michael iddo estyn allan at Fusnes Cymru am gymorth i sefydlu ei fusnes.

Cyflwynwyd Michael i Ymgynghorydd Busnes Cymru, Ian Harvey, a’i gynorthwyodd trwy’r broses a gyda’r adnoddau y byddai eu hangen arno i sefydlu ei gwmni ei hun. 

Cynorthwyodd Ian iddo ystyried ffyrdd o ariannu’r busnes, a llwyddodd i ennill grant o £2,000 oedd ar gael ar y pryd. Caniataodd y cyllid iddo brynu system sandio ddi-lwch, sy’n ddelfrydol i leihau faint o lwch mae gwaith addurno’n ei greu. Mae’r offer yma wedi bod yn allweddol wrth alluogi Michael i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid sy’n delio â’u hanhwylderau iechyd eu hunain. 

Caniataodd y grant i Michael farchnata a hyrwyddo ei gwmni, gan gynnwys marchnata mewn cylchgrawn lleol sy’n mynd allan i bob cartref yng Nghasnewydd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rôl allweddol wrth hybu’r busnes hefyd, gyda Michael yn cynnig cerdyn busnes digidol er mwyn caniatáu i ddarpar-gwsmeriaid ei sganio a gweld ei waith. 

Dywedodd Michael: 

Roeddwn i wastad wedi ffeindio bod cynnal swydd draddodiadol 9-5 yn anodd gyda dirywiad asgwrn fy nghefn, felly pan gollais i fy swydd, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n gyfle i mi newid pethau. Rydw i wastad wedi dwlu ar y syniad o fod yn fos arnaf fi fy hun a gweithio drosof fi fy hun, ac roedd hi’n gyfle unwaith mewn oes.

Mae’r cymorth grant wedi fy nghynorthwyo i gael offer na fyddwn i wedi gallu ei brynu gyda fy arian fy hun, mae hi wedi helpu i wella fy amgylchedd gwaith, a rhoi profiad mwy iach i fy nghleientiaid sy’n dioddef o’u problemau iechyd eu hunain.

Rydw i wedi gorfod wynebu llawer o sialensiau yn ystod fy ngyrfa, ond diolch i gymorth Busnes Cymru, rydw i mewn sefyllfa i adeiladu busnes cynaliadwy ag enw da erbyn hyn.


Mae Michael yn gobeithio cyflogi staff ychwanegol cyn bo hir i ehangu ei wasanaethau peintio, addurno, teilio a chymorth cyffredinol yn y gymuned leol a’r tu hwnt. 

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Ian Harvey: 

Mae Michael yn esiampl wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy ddycnwch a dyfalbarhad. Daeth atom ni’n barod iawn, ond roedd angen cymorth arno i wybod ble i ddechrau. Mae’r cynnydd y mae e wedi ei wneud mewn amser byr iawn yn rhywbeth i’w ganmol ac yn dangos y gall unrhyw un newid eu byd a chreu busnesau â photensial da i dyfu gyda’r arweiniad cywir.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.  Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.