Adeiladu Eich Busnes

Os ydych chi'n lansio busnes ac angen tyfu'n gyflym, fel cyflogi staff neu sicrhau adeilad, dyma sut i symud ymlaen yn hyderus a chymryd y camau ymarferol nesaf.

Pan fyddwch chi wedi symud heibio'r cam syniad ac yn dechrau ennill momentwm, yr her nesaf yw darganfod sut i ddatblygu eich busnes yn gynaliadwy. Efallai y byddwch chi'n meddwl am gyflogi staff, dod o hyd i adeiladau, gwella eich systemau, sicrhau cyllid, neu adeiladu sylfaen cwsmeriaid gryfach.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd y cymorth a all eich helpu i ddatblygu eich sylfeini a symud i dwf cynnar gydag eglurder.

5 peth i feddwl amdanynt wrth ichi ddechrau tyfu

  1. Beth ddylech chi ganolbwyntio arno yn gyntaf?
    Gallai fod yn werthiannau, gweithrediadau, cyllid, neu'ch gallu fel sylfaenydd.
  2. Pa systemau a phrosesau sydd eu hangen arnoch chi?
    Gall gwelliannau bach nawr arbed amser, arian a straen yn nes ymlaen.
  3. Ydych chi'n barod i ddod â phobl i mewn?
    P'un a ydych chi'n cyflogi staff neu'n gweithio gyda gweithwyr llawrydd, gall cael cymorth eich helpu i dyfu'n gynaliadwy.
  4. A oes angen cyllid neu fuddsoddiad arnoch i gymryd y cam nesaf?
    Mae twf yn aml yn gofyn am fuddsoddiad a gallwn eich helpu i archwilio'r hyn sydd ar gael.
  5. Sut fyddwch chi'n adeiladu gwelededd hirdymor?
    Mae marchnata, partneriaethau a phrofiad cwsmeriaid i gyd yn chwarae rhan mewn twf cynaliadwy.

Sut y gall Busnes Cymru helpu?

Gall tyfu busnes fod yn gyffrous ac yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny ar eich pen eich hun.

Gall Busnes Cymru ddarparu:

  • Cymorth 1:1 gan gynghorydd i'ch helpu i flaenoriaethu eich camau nesaf
  • Canllawiau cyllid ar gyfer cyflogi, adeiladau, offer a datblygu
  • Gweithdai ar farchnata, sgiliau digidol, cynllunio ariannol a rheoli staff
  • Cymorth gyda thendrau a chontractau, os ydych chi'n awyddus i weithio gyda chleientiaid mwy
  • Cyngor arbenigol ar gynaliadwyedd, cydraddoldeb a gwytnwch busnes
  • Cysylltiadau â rhwydweithiau sector a all eich helpu i dyfu'n fwy hyderus

Ein rôl yw eich helpu i adeiladu sylfeini cadarn fel y gall eich busnes ddechrau a thyfu yn y ffordd rydych chi ei eisiau.


Straeon go iawn gan bobl a ddatblygodd eu busnes

Troi angerdd yn fenter Troi angerdd yn fenter: Sut y tyfodd Michael Coggan Petit Four Patisserie gyda chymorth Busnes Cymru

Busnes llesiant newydd wedi'i siapio o syniad personol y mae galw cynyddol amdano Busnes Sawnas newydd yn poethi ym Mhorthcawl gyda chymorth Busnes Cymru

Diswyddiad wedi arwain at ddechrau busnes digwyddiadau a marchnata y mae galw mawr amdano Yn y farchnad am i lwyddo diolch i Busnes Cymru


Eich cam nesaf

Ble bynnag rydych chi am fynd â'ch busnes, gallwn eich helpu i lunio'r daith:

  • Dechrau arni 
    Cyflwynwch ymholiad i roi gwybod inni pa gymorth rydych chi'n chwilio amdano.
  • Cofrestru 
    Rhowch ychydig o fanylion amdanoch chi a'r busnes rydych chi'n edrych i'w brynu i'n helpu i deilwra canllawiau ac adnoddau i chi.
  • Ymuno â gweithdy
    Defnyddiwch ein cyfrif Gwasanaeth Cymorth Ar-lein Busnes (BOSS) 24/7 i archebu gweithdai ar-lein fel "Dechrau a rhedeg eich busnes eich hun?" a "Rheoli eich cyllid a'ch treth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig".
  • Siarad â chynghorydd Busnes Cymru
    Cael arweiniad personol ar yr hyn sydd ei angen ar eich busnes nawr.
  • Archwilio opsiynau cyllido
    Darganfod pa gymorth sydd ar gael ar gyfer twf.

Adeiladu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cam nesaf.

Mae tyfu busnes yn gam mawr ac rydyn ni yma i'ch helpu chi i'w adeiladu eich ffordd chi. 

Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes

Cofrestrwch heddiw i ddarganfod sut y gallwn gefnogi eich taith i gychwyn busnes newydd.

Cofrestrwch yma

Gwasanaethau a Phynciau Poblogaidd

Yn darparu canllawiau cynhwysfawr ac ymarferol i'ch helpu i ddechrau ac i redeg eich busnes

Canfod Cyllid Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes

Mae cynllunio beth rydych chi am ei wneud yn eich busnes yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod eich busnes yn llwyddo.

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes, gall ymchwil marchnad eich helpu i weld pa mor ymarferol yw'ch syniad busnes a'i siapio er mwyn ichi gael y siawns orau o lwyddo.

Yn darparu arweiniad a rhai opsiynau i'ch helpu i ddatblygu syniad busnes.

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.