
Mae entrepreneur a aned yng Nghymru ac a fagwyd yn yr Iseldiroedd, wedi troi at Busnes Cymru am gymorth i ddod â sawnas Sgandinafaidd i lannau Porthcawl a Rest Bay, gan ddarganfod y buddion iechyd meddwl o redeg ei fusnes ei hun yn y broses.
Lansiodd William Jenkins Hikitalo Sauna ym mis Tachwedd 2024, gan ddod â lloches llesiant wedi ei ysbrydoli gan y Ffindir i Draeth Coney. Bu’r cyfleuster cynaliadwy a adeiladwyd yn bwrpasol yn bosibl diolch i arweiniad arbenigol a chymorth ariannol Busnes Cymru.
O fewn blwyddyn, mae poblogrwydd Hikitalo wedi arwain at ennill gwobr ‘Sawna Glan y Dŵr Gorau 2025’ yn Uwchgynhadledd Sawna Cymdeithas Sawna Prydain a lansio ail leoliad sy'n cyflogi saith o bobl yn Rest Bay, Abertawe.
Dechreuodd angerdd William am ddiwylliant sawna ar ôl i yrfa ymdrechgar yn y diwydiant Fintech effeithio ar ei iechyd meddwl. Trodd yr entrepreneur at arferion llesiant holistaidd, gan ffeindio cysur mewn therapi gwres a’r sawna.
Wedi ei ysbrydoli gan ei brofiad trawsnewidiol, a chan sylweddoli y byddai rhedeg ei fusnes ei hun yn llesol i’w iechyd meddwl, dychwelodd William i Gymru â gweledigaeth i greu cwmni sy’n canolbwyntio ar lesiant a chysylltiad â byd natur.
Gan gydnabod y sialensiau sydd ynghlwm wrth lansio busnes newydd unigryw, trodd William at Busnes Cymru am gyngor ar ddiogelu cyllid a datblygu ei fenter.
Gydag arweiniad arbenigol gan yr Ymgynghorydd Busnes, Victoria Owens, llwyddodd William i lywio trwy’r cymorth oedd ar gael ac archwilio cyfleoedd ariannu. Bu ei chyngor yn hynod o werthfawr wrth ei gynorthwyo i ddiogelu benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru i’w fuddsoddi mewn cyfleuster sawna pwrpasol sy’n cael ei bweru gan ynni solar a’i danio gan bren lleol.
O ganlyniad, bu modd i Hikitalo Sauna ddechrau darparu sesiynau preifat a chymunol, gan roi cyfle i ymwelwyr brofi’r cydadwaith therapiwtig o aramlygiad i wres ac oerfel, sy’n hybu ymlacio a llesiant.
Nid peth newydd i William yw lansio ei fentrau ei hun ar ôl ymddangos ar Dragon’s Den gyda syniad busnes yn y gorffennol. Wrth fyfyrio ar rôl hanfodol Busnes Cymru wrth wireddu Hikitalo Sauna, dywedodd William:
Mae Busnes Cymru wedi bod yn bartner hollbwysig wrth fy nghynorthwyo i ffeindio ffordd trwy gamau cyntaf sefydlu fy musnes. O agor y drws i opsiynau ariannu, i’m cynorthwyo i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd gydag ynni a ffynonellau gwyrdd, mae eu cymorth wedi bod yn eithriadol.
Rydw i wedi bod yn entrepreneuraidd erioed, ac ar ôl gweld manteision anhygoel sawnas ar fy iechyd meddwl a chorfforol, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau rhannu hynny ag eraill. Rwy’n ddiolchgar dros ben i Victoria am fy nghynorthwyo i droi Hikitalo’n realiti. Nid mater o greu lle i ymlacio yn unig yw hyn; ond mater o feithrin cymuned a chynnig lle i bobl ddod ynghyd, camu yn ôl oddi wrth straen bywyd pob dydd, a chanolbwyntio ar eu llesiant.
Cafodd William gymorth gan Victoria i gynnal ei ymrwymiad i gynaliadwyedd, a alluogodd iddo fabwysiadu addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru, gan sicrhau bod arferion a thwf Hikitalo Sauna yn gyson ag arferion gorau amgylcheddol.
Darparodd Busnes Cymru hyfforddiant hanfodol hefyd, ynghyd â gweminar ar ddatblygu busnes, a rhoddod y sgiliau angenrheidiol i William dyfu ei fenter yn effeithiol.
Gyda chymorth parhaus gan Fusnes Cymru, mae William yn bwriadu ehangu Hikitalo Sauna ar draws Cymru, gan wneud traddodiadau llesiant yn fwy hygyrch a chryfhau lles ar lefel gymunedol.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes yn Busnes Cymru, Victoria Owen:
Ar ôl wynebu ei drafferthion ei hun, roedd angerdd William at sefydlu busnes o’r math yma’n hollol amlwg o’n sgwrs gyntaf un. Mae ganddo’r monopoli ar rywbeth arbenigol iawn sy’n dechrau dod yn fwyfwy amlwg yng Nghymru, ac rydw i wrth fy modd o weld ei angerdd yn talu ffordd. Roedd hi’n bleser cael ei gynorthwyo ar ei siwrnai wrth iddo weithio i sicrhau ffordd fwy iach o fyw, a darparu cymuned a chymorth i bobl eraill.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.