Hanes llwyddiant

Yn y farchnad i lwyddo diolch i Busnes Cymru

Obaidah Sbeitan

Mae mam sengl i dri o blant o Abertawe wedi goresgyn colli ei swydd ac wedi ei hailfrandio ei hun fel entrepreneur llwyddiannus ar ôl i arweiniad arbenigol Busnes Cymru ganiatáu iddi gychwyn a thyfu cwmni ymgynghorol poblogaidd sy’n trefnu ac yn marchnata digwyddiadau. 

Ar ôl i’w rôl fel rheolwr digwyddiadau gael ei dileu yn 2024, penderfynodd Obaidah Sbeitan gymryd yr awenau ar ei llwybr gyrfaol a dyfodol ei theulu trwy ddod yn rheolwr arni hi ei hun. Ar ôl dychwelyd i’r brifysgol i ennill gradd Meistr mewn marchnata, trodd at Busnes Cymru am arweiniad arbenigol i greu Beseen Events and Marketing.   

Gweithiodd yr ymgynghorydd Busnes, Hadi Brooks, gydag Obaidah i sicrhau fod gan y busnes sylfaen  gadarn o ran cynllunio, pennu rhagolygon, ac arferion gorau. Roedd hyn yn cynnwys cysoni’r busnes ag addewidion Twf Gwyrdd a Thegwch Busnes Cymru, sy’n caniatáu i fusnesau rhagweithiol weithio mewn ffordd gynaliadwy ac yn sicrhau gweithleoedd cynhwysol a theg.     

Llai na blwyddyn ar ôl ei lansio, mae Beseen Events and Marketing eisoes wedi adeiladu sylfaen dda o gwsmeriaid wrth i Obaidah lywio cynlluniau uchelgeisiol i lansio digwyddiadau mawr yn Abertawe a’r cyffiniau, gan gynnwys gorymdaith fel Mardi-Gras yng nghanol y ddinas adeg Calan Gaeaf 2026.

Gallai’r cynlluniau hyn weld Busnes Cymru’n cefnogi twf y busnes ymhellach yn fuan trwy gynorthwyo Obaidah i archwilio opsiynau ariannu posibl a fydd yn caniatáu iddi recriwtio a manteisio ar y galw cynyddol gan gwsmeriaid. Wrth siarad am ei siwrnai entrepreneuraidd, dywedodd Obaidah: 

Rydw i wastad wedi eisiau bod yn entrepreneur. Fy mreuddwyd oedd hi, ond fe roddais i hynny i’r naill ochr am sbel er mwyn canolbwyntio ar fod yn fam. Ar ôl mynd nôl i’r brifysgol, fe sylweddolais i gymaint roeddwn i’n mwynhau cyfuno digwyddiadau a marchnata, ac roeddwn i’n gwybod fod angen i mi wneud i’r peth ddigwydd, ond doeddwn i ddim yn siŵr iawn ble i ddechrau. Dyna pryd argymhellwyd Busnes Cymru i mi.

Er bod creu digwyddiadau wedi bod yn freuddwyd iddi erioed, mae profiad Obaidah wedi ei haddysgu taw cynllunio gofalus yw’r sylfaen ar gyfer llwyddiant busnes. Mae gweithio gyda Hadi wedi caniatáu i’r entrepreneur marchnata fanteisio ar weithdai a hyfforddiant â’r bwriad o helpu perchnogion busnesau newydd i ffeindio’u ffordd o gwmpas sialensiau fel rheoli treth, cyllid a llif arian. Aeth Obaidah ymlaen i ddweud:

Mae arweiniad Hadi wedi bod yn amhrisiadwy wrth daclo sialensiau dechrau busnes. Roedd Hadi yno i wrando ar bob syniad oedd gen i, ac i fy helpu i dynhau’r rhestr er mwyn creu cynllun ar gyfer y cwmni roeddwn i wedi bod yn ei ddychmygu ers blynyddoedd mawr. Roedd hi yno ar bob cam o’r ffordd, ac ni fyddwn i yn y sefyllfa rydw i ynddi heddiw heb ei chefnogaeth hi.

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Hadi Brooks: 

Pan ddaeth Obaidah at Busnes Cymru’n wreiddiol, roedd hi wedi bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffordd o droi ei syniad busnes yn realiti. Ond ar ôl cydweithio i feddwl am ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar ei sgiliau a’i phrofiad, daeth hi’n amlwg bod angen iddi ddod o hyd i’r hyfforddiant oedd ei angen arni i lansio ei busnes.  

Roedd profiad Obaidah a’i gallu i gyflawni digwyddiadau ac ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus yn glir o’n sgwrs gyntaf un, felly’r cyfan roedd angen i ni ei wneud oedd manteisio ar yr amrywiaeth o adnoddau y mae Busnes Cymru’n eu cynnig i’w chynorthwyo i feithrin y sgiliau angenrheidiol i sefydlu ei chwmni a chreu llwybr ar gyfer twf a llwyddiant Beseen. Gyda hynny yn ei le, rwy’n gwybod y bydd Obaidah yn creu digwyddiadau anhygoel, ac fe fydda i’n sicr yno.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.