Sgiliau a Recriwtio
Mae'r sector Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau yn un amrywiol. Mae'n cwmpasu llawer o elfennau is-sectorau gwahanol, gan gynnwys gweithgareddau ym maes llety a gwasanaethau bwyd, fel
- gwestai a mathau eraill o lety
- bwytai
- gwasanaethau diodydd ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau
- gweithgareddau antur awyr agored
- atyniadau i ymwelwyr.
Ym mis Awst 2021, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y swyddi gwag sydd yn y sector, sy’n ymwteb i’r cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid a bod mwy o bobl yn dewis aros yn y wlad hon am eu gwyliau eleni.
Mae’n ymdrin â chyfleoedd datblygu personol a llwybrau gyrfaol posibl mewn swyddi fel
- blaen y tŷ
- coginio
- cadw tŷ
- goruchwylio a rheoli
Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar y cyd â Cymru’n Gweithio – porth cyflogaeth Llywodraeth Cymru, i bobl 16 oed a throsodd. Mae’n cynnig cyngor a chymorth diduedd, cynhwysol a phenodedig i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant iddynt allu datblygu eu gyrfaoedd a gwella’u lles.
I weld y manylion llawn, ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd mwy o astudiaethau achos a ffilmiau ar gael yn y misoedd i ddod.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae asedau a phecyn cymorth newydd ar gael nawr. Mae'r pecyn cymorth ar gael i
- helpu rhanddeiliaid i recriwtio staff
- codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch
Cefnogwch yr ymgyrch trwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #LlunwyrProfiadau. I gael manylion llawn yr ymgyrch, ewch i wefan Cymru’n Gweithio.
Colegau/darparwyr hyfforddiant
- Mae Grwp Llandrillo Menai yn cynnwys Coleg LLandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ac yn cyflwyno cyrsiau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Gall busnesau sydd â swyddi gwag lenwi'r Ffurflen Swyddi Gwag i Gyflogwyr a'i chyflwyno i employerjobs@gllm.ac.uk - bydd y swyddi gwag yn cael eu rhoi ar wefan y coleg a'u hamlygu i fyfyrwyr.
- Mae gan Goleg y Cymoedd gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg y Cymoedd. I drafod eich swyddi gwag, cysylltwch â thîm y Ganolfan Gyflogaeth ar 01443663229/07971341251 neu e-bostiwch Futures@Cymoedd.ac.uk
- Gall Coleg Pen-y-bont ar Ogwr drafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cefnogi recriwtio ar gyfer busnesau o unrhyw faint ledled De Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o cyfleoedd.co.uk a chysylltu â Steve Jones - Cyfleoedd@bridgend.ac.uk neu 01656 302302 est 184
- Mae gan Goleg Cambria chwe safle ledled y Gogledd-ddwyrain sy’n cynnig cyrsiau. Gall busnesau ddarganfod sut i hysbysebu swyddi gwag ar y Siop Swyddi ar lein. Cewch wybodaeth hefyd am sut i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
- Mae Coleg Sir Gâr sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn galluogi busnesau i hysbysebu swyddi ar draws pob campws. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Filipe Nunes, Filipe.Nunes@colegsirgar.ac.uk neu 07468 470 245.
- Hysbysebu cyfleoedd ym Met Caerdydd - Gallwch hysbysebu swyddi’n uniongyrchol i fyfyrwyr ar safle swyddi mewnol Met Caerdydd, MetHub. I hysbesbu swydd, bydd angen cofrestru a chreu cyfrif. Caiff eich cyfrif ei gymeradwyo mewn 2-3 diwrnod gwaith ac wedyn, cewch lwytho swyddi’n syth i’r safle. Cofrestrwch gyda MetHub ar-lein. Am ragor o help, cysylltwch â careers@cardiffmet.ac.uk.
- Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu hyfforddiant prentisiaeth sy’n seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae'n arbenigo mewn cefnogi busnesau yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth.
Bydd eu tîm yn trafod eich anghenion busnes a’r cyllid sydd ar gael i recriwtio a hyfforddi staff a gallent gefnogi eich busnes i wneud cais am leoliadau Kickstart (Saeneg yn unig), helpu i hysbysebu a recriwtio prentis yn rhad ac am ddim a darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel: Hysbysebir eu swyddi prentisiaeth gwag ar eu gwefan, gwasanaeth cenedlaethol swyddi gwag prentisiaeth a'u cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Hyfforddiant Cambrian.
Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.
Mentrau/ymgyrchoedd recriwtio lleol
- Mae Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi creu ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch – Fy Ngyrfa yng Nghonwy. Bydd yr ymgyrch yn dangos sut beth ydi gweithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, ac yn defnyddio enghreifftiau go iawn gan bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Os yw eich busnes wedi'i leoli yn sir Conwy ewch i Fy Ngyrfa Conwy i gael rhagor o fanylion.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, neu os oes gennych unrhyw weithwyr a hoffai gael eu cynnwys mewn astudiaeth achos, e-bostiwch jasmin.koffler@conwy.gov.uk. Os oes gennych unrhyw swyddi gwag yr hoffech gefnogaeth recriwtio, e-bostiwch y Swyddog Ymgysylltu: communitiesforwork@conwy.gov.uk. - Mae Gwaith Gwynedd yn cefnogi pobl i gael gwaith ac mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol gyda recriwtio. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwynedd - ffoniwch: 01286 674698 / 07980923934 neu e-bostiwch: GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru.
Ym mis Medi 2019, ar ôl trafod yn eang â rhanddeiliaid, ffurfiwyd partneriaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y diwydiant. Penodwyd Cadeirydd annibynnol ym mis Rhagfyr, a threfnwyd bod Croeso Cymru yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol.
Nod y Bartneriaeth yw
- casglu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a cheisio barn y diwydiant
- nodi problemau a phryderon o ran prinder pobl a sgiliau
- cynnig atebion i randdeiliaid yn y sector, er enghraifft, Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol
- lledaenu gwybodaeth i'r sector am recriwtio, darparu hyfforddiant, cyllid, arferion gorau etc.
Rôl y Bartneriaeth fydd:
- rhoi arweiniad a phennu chyfeiriad y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â sgiliau
- annog rhannu gwybodaeth a chynnig atebion er mwyn mynd i'r afael â phryderon
- ystyried blaenoriaethau strategol a nodwyd gan randdeiliaid
- cynghori ar y camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni canlyniadau strategol
- rhoi arweiniad ar wella'r sylfaen sgiliau yn y sector, ac ar ddenu newydd-ddyfodiaid a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.
Er i drafodaethau barhau yn ystod 2020, cyfarfu'r bartneriaeth lawn am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd y cyfyngiadau a oedd yn ganlyniad i Covid-19.
Dyddiad y Cyfarfod: 3 Rhagfyr 2020.
Yn y cyfarfod hwn, aeth y bartneriaeth ati i:
- Drafod y sefyllfa sydd ohoni o ran sgiliau yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch
- Lansio'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
- Lansio adolygiad Cymwysterau Cymru o gymwysterau ym maes Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo.
- Trafod canfyddiadau allweddol adroddiadau diweddaraf y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar effaith Covid-19 ar sgiliau a chyflogaeth ym maes Twristiaeth a Lletygarwch.
- Trafod canfyddiadau'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Trafod materion sy'n effeithio ar brentisiaid.
Dyddiad y Cyfarfod: 28 Ionawr 2021
Bu’r bartneriaeth yn trafod:
- Y cymorth sydd ar gael i unigolion a busnesau yng Nghymru sgiliau a recriwtio, gan gynnwys:
- Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
- Cyfrifon Dysgu Personol
- Rhaglen Kickstart
- Cymru'n Gweithio
Wrth edrych i'r dyfodol, bydd y grŵp yn
- parhau i gasglu a lledaenu gwybodaeth am anghenion y diwydiant o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio
- parhau i ymgysylltu â'r diwydiant drwy'r bartneriaeth
- gweld pa ddata sydd gennym – nodi beth arall sydd angen inni ei wybod
- ystyried sut i helpu busnesau i ddechrau arni’n gyflym unwaith y byddant yn cael dyddiad agor
- ystyried sut i fynd i'r afael â chanfyddiadau am yrfaoedd ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
- nodi problemau ac atebion posibl ym maes sgiliau a recriwtio yn y tymor canolig a’r hirdymor
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth, cysylltwch â Kerry.Thatcher@llyw.cymru.
Ganolfan Byd Gwaith
Gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig cymorth a chefnogaeth i fusnesau wrth recriwtio a chyflogi pobl. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallant helpu eich busnes ar gael ar wefan Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith - GOV.UK (www.gov.uk).
Recriwtio Prentis
I gael gwybod sut y gall recriwtio prentis fod yn dda i'ch busnes, a pha gymorth sydd ar gael gyda chostau, ewch yma.
Y Porth Sgiliau
Mae ymgyrch newydd wedi lansio i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.
Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.
Mae amrediad o gymorth ar gael, fel:
- cymorth i ddatblygu galluoedd staff
- cyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi
- llyfryn i esbonio'r holl sgiliau a chymorth recriwtio sydd ar gael i gyflogwyr
Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.
Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Y Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol
Helpwch eich staff presennol i gael y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnesau drwy gwrs coleg sy’n hyblyg ac am ddim.
Cyflwynir Cyfrifon Dysgu Personol gan golegau ledled Cymru a fydd yn hapus i drafod eich anghenion hyfforddi penodol. Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb drwy'r Porth Sgiliau.
Y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)
Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch gweithwyr i ddatblygu’ch sgiliau er budd eich busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae cyrsiau ar gael ar:
- Gyllid
- TG
- Marchnata
- Syniadau Busnes a Chynllunio Busnes − a llawer mwy.
Mae'r cyrsiau'n ddwyieithog, yn gyfoes, ac mae mynediad ar gael iddynt 24/7 mewn ffordd sy’n addas ar eich cyfer chi. Gallwch sgwrsio’n fyw ac mae llinell gymorth ar gael dros y ffôn i'ch cefnogi. I gael gwybod mwy ac i wylio fideo byr sy’n esbonio beth sydd ar gael a sut y gall eich helpu, ewch i https://businesswales.gov.wales/boss/cy.
Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Mae cyllid ar gael i helpu gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, neu ar-lein.
Yr uchafswm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyfrannu fydd £25,000, a bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 50% o gost yr hyfforddiant.
Nid oes gofyn defnyddio unrhyw gwmni hyfforddi penodol – caiff yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig. Rhaid i'r hyfforddiant a gefnogir ar y rhaglen hon gael ei achredu yn unol ag un o safonau cydnabyddedig y diwydiant.
Mae’r hyfforddiant y gellir ei gefnogi o dan y rhaglen hon yn cynnwys
- Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Covid, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch
- Hyfforddiant arbenigol e.e. Coginio Proffesiynol, bwyd a diod, cadw tŷ, hyfforddwr awyr agored/rhaffau uchel
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid
- TGCh a Sgiliau Digidol
- Twristiaeth Gynaliadwy
I weld a yw’ch busnes chi’n gymwys ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Hyblyg.
Llesiant
Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers tro byd bod angen hybu a chefnogi iechyd a llesiant gweithwyr, gan gynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a ffordd iach o fyw.
Gall manteision mynd i'r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr arwain at:
- lefelau is o salwch ac absenoldeb
- gwell cynhyrchiant
- gwaith o ansawdd uwch
- mwy o ddiddordeb gan staff yn eu gwaith
- llai o drosiant staff
Mae gan weithwyr sy'n cael cymorth i berchenogi eu llesiant eu hunain:
- lefelau is o straen
- mwy o gymhelliant
- gwell morâl
- mwy o foddhad yn eu swyddi
- ymwybyddiaeth uwch o lesiant cydweithwyr
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cynnig arweiniad, dulliau a chefnogaeth ichi sefydlu a datblygu diwylliant llesiant yn eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y sgwrs ar iechyd yn y gweithle.
Cymru'n Gweithio – cymorth i unigolion
Dyma raglen Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i unigolion ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd, yn rhad ac am ddim.
Gall helpu pobl
- y mae angen cymorth arnynt i gael swydd gyflogedig neu i chwilio am waith
- sydd wedi colli’u swyddi, yn ogystal â phobl sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd a hoffai wella’u sgiliau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru'n Gweithio.