Twristiaeth
Mae twristiaeth yn dod ag arian mawr i Gymru. Mae twristiaid yn gwario tua £17 miliwn y dydd yng Nghymru, sy'n creu cyfanswm o ryw £6.3 biliwn y flwyddyn. Mae bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg yn gallu rhoi boddhad mawr. P'un a ydych yn ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu am ddatblygu'ch busnes presennol, gallwn ni helpu gyda'r canlynol:
- Cyllid ar gyfer prosiectau newydd neu bresennol drwy ein cynlluniau ariannu twristiaeth
- Cynlluniau gradd seren ar gyfer llety ac atyniadau twristiaeth
- Hyrwyddo'ch busnes drwy gydweithio a rhannu cynnwys
Rydych chi yn y lle gorau i gael cymorth yn benodol i'ch busnes twristiaeth. Os ydych chi'n chwilio am gymorth mwy cyffredinol, ewch i brif wefan Busnes Cymru.