Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Twristiaeth
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth ar wefan Twristiaeth ac adrannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig o'r wefan. Mae Twristiaeth yn wasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru.
Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ar draws gwefan Busnes Cymru ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae'n amlinellu pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth, sut i adrodd am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch gael mynediad at y tudalennau hyn o'r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe y gwasanaeth unigol.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Twristiaeth. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
-
newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
-
chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
-
llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
-
llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
-
gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:
-
nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
-
nid yw rhai hyperddolenni’n ail-lifo’n uwch na 300%
-
nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau
-
nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
-
nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
-
nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw
-
nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
-
nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen
-
mae llawer o ddogfennau mwn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Busnes Cymru
-
Mae Twristiaeth yn rhan o wefan Busnes Cymru. Mae gan Busnes Cymru ei ddatganiad hygyrchedd ei hun.
Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain:
-
e-bostiwch: cymorthbusnes@llyw.cymru
-
ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
-
eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
-
y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain
-
pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Dewiswch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
-
e-bostiwch: cymorthbusnes@llyw.cymru
-
ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
-
pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Twristiaeth.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
-
e-bostiwch: cymorthbusnes@llyw.cymru
-
ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
pwy ydych chi
-
sut gallwn eich helpu
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Twristiaeth wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Methodd y meini prawf llwyddiant: WCAG 2.1 AA 2.4.6
-
Problem: Mae gan rai tudalennau bennawd gwag. Ni ddylai'r pennawd fod yn wag.
Methodd y Meini Prawf Llwyddiant: WCAG 2.1 A 1.1.1 a WCAG 2.1 A 1.2.1
-
Problem: Ni ddylai'r testun amgen gynnwys dalfannau fel 'darlun' neu 'bylchau'.
Methodd y Meini Prawf Llwyddiant: WCAG 2.1 A 1.1.1
-
Problem: Rhaid i elfennau delwedd gael enw hygyrch.
Methodd y Meini Prawf Llwyddiant: WCAG 2.1 A 2.4.4, WCAG 2.1 A 2.4.9 a WCAG 2.1 A 4.1.3
-
Problem: Rhaid i bob elfen <a> gynnwys testun neu ddelwedd gyda phriodoledd amgen.
Methodd y Meini Prawf Llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1
-
Problem: Nodi penawdau rhesi a cholofnau mewn tablau data gan ddefnyddio elfennau pennawd tablau a marcio cynllun tablau gyda rôl = cyflwyniad.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Methodd meini prawf llwyddiant: WCAG 2.1 A 1.4.12 (Bylchu Testun)
-
Problem: Ni all defnyddwyr newid bylchu testun nac uchder llinell, sy'n hanfodol i'r rhai â nam ar eu golwg sydd angen fformatio testun yn bersonol er mwyn gallu darllen.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Twristiaeth. Os ydych yn credu nad yw rhai o'n hoffer a'n trafodion Rhyngweithiol yn hygyrch. Cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod:
-
Ebost: businesssupport@llyw.cymru
-
ffonio: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
cyfeiriad gwe (URL) y dudalen rydych chi'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
-
pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 7 diwrnod.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:
-
heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall
-
heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
-
heb eu hysgrifennu mewn iaith glir
Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.
Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol.
-
e-bostiwch: cymorthbusnes@llyw.cymru
-
ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
-
cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
-
y fformat yr hoffech ei dderbyn
-
pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Yn dilyn yr archwiliad a gynhaliwyd gan S8080 ym mis Ionawr 2022, mae Twristiaeth yn cywiro cynnwys ar frys sy'n methu â chyrraedd safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Ionawr 2024 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 4 Ionawr 2024.
Sut aethom ati i brofi’r wefan
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Ionawr 2022. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.
Ar 15 Ionawr 2022, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8775 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.1. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth.
Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn