1. Sgiliau

Mae'n bwysig bod pobl sy'n ymweld â Chymru yn mwynhau eu hunain tra maent  yma. Os  bydd ein hymwelwyr yn cael amser da yng Nghymru maent yn fwy tebygol o ddychwelyd a’n hargymell i eraill. Pobl yw ein hased pwysicaf i helpu  sicrhau bod hyn yn digwydd. 

Ceir llawer o adnoddau ar gyfer i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir i chi a'ch staff. 

2. VisitBritain

VisitBritain yw'r corff strategol ar gyfer twristiaid sy'n dod i Brydain ac asiantaeth twristiaeth cenedlaethol Prydain. Mae VisitBritain yn darparu:

  • cipolygon, tueddiadau ac ymchwil i farchnad ymwelwyr rhyngwladol â'r DU
  • bwletinau rheolaidd am dueddiadau twristiaeth yn y DU ac yn fyd-eang 
  • gwybodaeth am ysgogwyr economaidd a demograffig twristiaeth
  • data am nifer a gwerth yr ymweliadau â Chymru gan ymwelwyr rhyngwladol 

Mae VisitBritain hefyd yn creu cyfres o broffiliau marchnad rhyngwladol manwl, gan gynnwys gwybodaeth am faint a gwerth marchnadoedd daearyddol gwahanol, priodoleddau ymwelwyr, cymhellion teithio a gweithgareddau a gynhelir yn y DU.

Dyma ddolenni at wefannau eraill sydd â gwybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud ag ystadegau twristiaeth, ymchwil a chipolygon.

Ymchwil VisitBritain 

Ymchwil VisitScotland 

Ymchwil VisitEngland 

Tourism Northern Ireland 

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

StatsCymru

 

3. B-Roll Ffotograffiaeth a Fideo

Mae gennym lyfrgell asedau ar-lein o dros 30,000 o ddelweddau o Gymru a chatalog cyfredol o luniau fideo HD  o Gymru gyfan i'w defnyddio fel B-roll, gan gynnwys ffotograffau wedi’u cymryd ar y tir ac o’r awyr o drôn a hofrennydd. Mae'r ddau ar gael heb ffi at ddefnydd anfasnachol. 

Gallwch gofrestru i gael mynediad i chwilio a lawrlwytho ffotograffiaeth yn assets.wales.com.

I gael mynediad i'r catalog b-roll, neu os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, cysylltwch â: imagesupport@llyw.cymru.

4. Rheoliadau Pecyn UE 2018

Rheoliadau Pecyn UE: Pecyn Teithio a Rheoliadau Trefniadau Teithio Cysylltiedig 2018

Beth fyddai’r effaith ar eich busnes?

Mae Gov.UK wedi darparu canllawiau i fusnesau i'w helpu i gydymffurfio (saesneg yn unig).

Ewch ar gwefan genedlaethol i ddarllen y Rheoliadau Teithio Pecyn llawn.