Banc Datblygu Cymru - Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth (CBTC)

Cwestiynau Cyffredin

1. Beth yw pwrpas y gronfa?

  • Darparu cyllid ar gyfer prosiectau Twristiaeth yng Nghymru
  • Helpu’r sector Twristiaeth i newid o fod yn ddibynnol ar arian grant i allu gweithredu trwy fenthyciadau masnachol
  • Defnyddio arian cyhoeddus mewn maes a allai gael effaith sylweddol ar yr economi.
  • Cefnogi buddsoddiadau strategol, a allai fod yn rhai sylweddol, yn ôl yr angen. 

2. Beth bydd y grant yn talu amdano?
Bydd y gronfa newydd yn darparu £100,000 - £5,000,000 o gyfalaf dros dymor estynedig i fusnesau ar gyfer prosiectau cymwys. Gellir ei defnyddio naill ai i wella neu i greu asedau o ansawdd uchel yn y sector Twristiaeth. 

3. Am faint y bydd y cyllid yn para? 
Bydd disgwyl ichi ad-dalu'r arian cyn pen 10-15 mlynedd a gellir cynnwys seibiau talu tymhorol. 

4. Pa rannau o Gymru sy'n cael elwa? 
Cymru gyfan. 

5. Beth yw'r amodau ar gyfer cael arian o'r gronfa?
Bydd angen i ymgeiswyr: 

  • ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyn y Contract Economaidd 
  • cynnal eu busnes yng Nghymru a dangos sut y bydd y prosiect yn sbarduno twf mewn marchnadoedd hen a newydd a chreu a/neu ddiogelu swyddi
  • profi y gall y prosiect lwyddo'n ariannol a bod modd ad-dalu'r arian dros gyfnod y pecyn. 

Os cynigir cymorth, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn bodloni un o'r Meysydd Gweithredu canlynol, fydd yn rhan o'r amod ar gyfer rhoi cefnogaeth: 

  • datgarboneiddio - er mwyn i Gymru allu manteisio ar y newid ym marchnadoedd y byd yn y galw am gynnyrch, nwyddau a gwasanaethau carbon isel ac i hyn roi hwb i weddnewid ein ffyniant, iechyd a'n lles 
  • arloesi, entrepreneuriaeth a phencadlys - er mwyn i fusnesau allu datblygu'u cynnyrch a'u gwasanaethau'n ddi-dor i'w galluogi i barhau i fod yn gystadleuol a chynaliadwy yn ogystal â rhoi hwb i berfformiad cyffredinol yr economi. 
  • allforio a masnachu - er mwyn i fusnesau allu tyfu trwy fasnachu â gweddill y DU ac allforio i farchnadoedd tramor, gan gynyddu'u cynhyrchiant a'u cryfhau i allu gwrthsefyll newidiadau yn economi'r byd 
  • swyddi o safon uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg - cymdeithas deg a ffyniannus 

6. A ydw i'n gymwys? 
Mae pob busnes twristiaeth yn y sector preifat a'r trydydd sector yn gymwys. 

7. A yw fy mhrosiect yn gymwys?
Byddwn yn ystyried helpu'ch prosiect i: 

  • greu a diogelu swyddi 
  • dod â manteision a thwf economaidd 
  • sicrhau ansawdd ac arloesedd a chryfhau ymdeimlad o le.

Nod y cymorth yw cefnogi prosiectau unigryw a nodedig sy'n atgyfnerthu brand Cymru, yn adlewyrchu'r gwerthoedd craidd ac yn arbennig, yn gwireddu amcanion craidd y brand: 

  • codi statws Cymru
  • synnu ac ysbrydoli
  • atgyfnerthu canfyddiadau cadarnhaol
  • gwneud pethau da
  • Yn amlwg yn cynrychioli 'Cymru'.

8. Faint o arian y ca i ymgeisio amdano?
Rhwng £100,000 a £500,000 ar gyfer prosiectau cymwys. 

9. Beth fydd yr arian yn talu amdano? 
Mae'r gronfa yn cynnwys cymysgedd o gyllid ad-daladwy a chyllid nad oes rhaid ei ad-dalu, gan dargedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gall gael ei defnyddio i wella neu i greu cynnyrch o ansawdd. 

Dyma rai o flaenoriaethau'r gronfa (nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth):

  • cynhyrchion twristiaeth arloesol o safon uchel, sy'n ychwanegu at enw da
  • gwestai moethus (estyniadau, gwelliannau a gwestai newydd)
  • atyniadau blaenllaw pob tywydd sydd ar gael gydol y flwyddyn
  • atyniadau blaenllaw
  • profiadau drwy weithgareddau arloesol
  • profiadau bwyd sy'n unigryw Gymreig sy'n canolbwyntio ar yr ymwelydd
  • cyfleusterau sba a hamdden o ansawdd uchel
  • prosiectau arloesol sy'n gysylltiedig â diwylliant neu dreftadaeth
  • tafarndai, llety gwesteion sy'n unigryw ac o ansawdd uchel
  • mannau anghyffredin i bobl aros.

10.Beth na chaiff yr arian dalu amdano?
Nid yw cyllid refeniw yn gymwys.

11.Beth yw'r broses ymgeisio a sut mae gwneud cais?
Er mwyn cael eich ystyried am gymorth y Gronfa Fuddsoddi mewn Twristiaeth, bydd angen i gais: 

  • Cam 1: ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyn y Contract Economaidd
  • Cam 2: datblygu cynnyrch twristiaeth cynaliadwy o ansawdd uchel a symbylu twf mewn marchnadoedd hen a newydd a chreu a/neu ddiogelu swyddi. 

Mae dau gam i wneud cais. Mae'r cyntaf yn cynnwys ffurflen Datgan Diddordeb ac os bydd honno'n llwyddiannus, caiff y busnes ei wahodd i wneud cais llawn. 

Os hoffech fwy o wybodaeth am y Gronfa, e-bostiwch CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418. 

12.Pryd ca' i wneud cais am arian o'r Gronfa?
Mae'r gronfa'n agored i ymholiadau'r cam cyntaf nawr. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Gronfa, e-bostiwch CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418.

13.Beth bydd angen imi ei gyflwyno gyda'r cais?
Fel rhan o'r cam cyntaf, bydd angen ichi Ddatgan Diddordeb ynghyd â chyflwyno gwybodaeth, fel copïau o gyfrifon eich cwmni a Chontract Economaidd, i brofi'ch bod yn fusnes llwyddiannus. 

14.Beth yw'r gymysgedd o grantiau a benthyciadau?
Bydd y gymysgedd yn dibynnu ar asesiad o'r cais ei hun. Bydd y grant yn cynrychioli'r lefel isaf o ymyriad sydd ei hangen er mwyn gwneud y cynnig yn hyfyw'n fasnachol. Y norm fodd bynnag fydd cynnig 80% o fenthyciad a 20% o grant. 

15.Sut caiff fy nghais ei asesu?
Caiff pob cais ei asesu yn y cam Datgan Diddordeb ac os bydd yn llwyddiannus, caiff cais manwl a llawn ei asesu ar sail meini prawf asesu'r gronfa. Bydd yn rhaid iddo fod yn gyson â'r strategaeth ac yn fasnachol hyfyw. 

16.Pwy fydd yn cysylltu â fi?
Tîm Buddsoddi mewn Twristiaeth Llywodraeth Cymru ar CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418