Mae'r cwmni yn cynnig set gyflawn o wasanaethau cyn masnacheiddio o dreialu a datblygu biobryfladdwyr a'u rhoi ar waith, gan gynnwys gwasanaeth ymgynghori, atebion dadansoddol ac atebion ymchwil a datblygu, profion tŷ gwydr a threialon maes, sydd â'r nod o sicrhau y gwneir defnydd mwy effeithlon o fiobryfladdwyr.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi rhoi cymorth arbenigol ym meysydd strategaethau diogelu Eiddo Deallusol, marchnata lefel uchel a strategaeth gyfathrebu. Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi ffynonellau cyllido arbenigol drwy rwydwaith partner aur y RhCT.

Mae Bionema yn hyderus, gyda'r cymorth a gafwyd gan y rhaglen, y gall gael yr arian i gyflawni ei amcanion twf (£1m o fewn dwy flynedd) a chreu 11 o swyddi medrus iawn sy'n talu cyflogau sy'n uwch na chyfartaledd Cymru