Y Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth

Hyrwyddo Amrywiaeth mewn entrepreneuriaeth yng Nghymru

Rydym yn lansio rhaglen sydd wedi'i chynllunio'n benodol i hyrwyddo amrywiaeth mewn entrepreneuriaeth yng Nghymru – y Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth.

Rydym yn cynnig cyfle i hyd at 24 o bobl o grwpiau penodol, sydd wedi dioddef yr effeithiau economaidd mwyaf gan COVID, gymryd rhan yn y rhaglen gyflymu ddwys hon, a fydd yn para am 12 wythnos, i'ch helpu i lansio, datblygu neu raddio eich busnes neu eich syniad ar gyfer busnes.

Mae'r rhaglen hon yn gwbl rithwir ac mae’n cynnwys cyfres o ddosbarthau meistr arbenigol sy'n canolbwyntio ar fethodoleg hynod effeithiol ar gyfer cychwyn busnes yn gyflym, graddio busnes a sicrhau buddsoddiadau ar gyfer y rheini sy’n dechrau busnesau, yn ogystal â mentora a hyfforddiant proffesiynol gan arbenigwyr ym maes dechrau a graddio busnes.

Pam lansio’r Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth?

Rydym yn cydnabod bod menywod, pobl ifanc, pobl anabl a phobl o gefndiroedd BAME (du, Asiaidd a lleiafrif ethnig) wedi dioddef effeithiau economaidd mwy difrifol o ganlyniad i'r pandemig COVID-19. Hoffem helpu i newid hynny ac mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i helpu entrepreneuriaid o'r grwpiau hyn i ddychmygu, dechrau a datblygu mentrau newydd. Byd yn rhaglen beilot i ddechrau, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y garfan gyntaf a chyflwyno'r rhaglen i gefnogi cynifer o entrepreneuriaid ag y gallwn ar eu taith fusnes

Beth mae’r Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth yn ei gynnwys?

Rydym yn cynnal y rhaglen hon yn rhithwir o fis Ionawr 2021 ymlaen am 12 wythnos ac mae’n cynnwys:

  • Mynd ag entrepreneuriaid ar daith cam wrth cam o’r syniad cychwynnol ar gyfer busnes i ennill cwsmeriaid a sicrhau model busnes cynaliadwy
  • Datblygu sgiliau busnes craidd cyfranogwyr a sicrhau ymagwedd gadarnhaol tuag at lwyddiant
  • Cyfres o weminarau a dosbarthiadau meistr, sesiynau mentora a hyfforddi arbenigol un-i-un, gan siaradwyr sy’n ysbrydoli, modelau rôl ac arbenigwyr mewn datblygu busnesau.
  • Digwyddiad gwobrau ym mis Ebrill – a fydd yn codi proffil ac yn rhoi cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer cyfranogwyr.

Pam dylwn i wneud cais?

  • I ddatblygu model busnes cynaliadwy a chadarn
  • Mynediad at rwydwaith o fentoriaid a chymheiriaid
  • I datblygu eich hyder a’ch ymagwedd gadarnhaol tuag at lwyddiant
  • Cynllun clir ar gyfer tyfu

Pwy ddylai wneud cais?

Unigolion o Gymru sy’n ystyried eu bod yn aelodau o’r grwpiau a nodwyd yn benodol: pobl ifanc (18–25 oed), menywod, aelodau o gymunedau BAME a phobl anabl.

Os oes gennych syniad ar gyfer busnes neu os hoffech ddechrau eich busnes eich hun, neu os ydych chi wedi bod mewn busnes ers llai na blwyddyn ac mae eich refeniw blynyddol o dan £50k, gallwn weithio gyda phobl ar adegau gwahanol eu taith fusnes. Yr unig faen prawf yw bod gan y busnes lawer o botensial ar gyfer tyfu.

Cyflwynwch eich cais cyn gynted ag y bo modd. Y 24 ymgeisydd llwyddiannus cyntaf a dderbynnir ar y Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth.  

Mae gennyf ddiddordeb, beth yw’r camau nesaf?

Diolch am eich diddordeb, nid yw’r Rhaglen Cyflymu yn derbyn ceisiadau.

Am unrhyw ymholiadau, ebostiwch agpadmin@winning-pitch.co.uk neu ffoniwch 02920 351451


Mae’r Rhaglen Cyflymu Rhagoriaeth yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.