Partneriaid Aur

Mae'r RhCT wedi ymuno â rhestr drawiadol o Bartneriaid Aur y mae pob un ohonynt hefyd wedi ymrwymo i gefnogi busnesau twf uchel. Mae'r Partneriaid Aur yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cynghori a chymorth proffesiynol a byddant hefyd yn cynnig telerau arbennig sydd ar gael i gleientiaid y RhCT yn unig.

 

Seedrs

Llwyfan cyllido torfol ecwiti ar-lein. Mae cwmni Seedrs, sy'n cael ei lywio gan dîm o weithwyr proffesiynol profiadol a thalentog, wedi'i dargedu'n gyfan gwbl at fuddsoddwyr sy'n ddigon soffistigedig i ddeall y risgiau a gwneud eu penderfyniadau buddsoddi eu hunain.

Bydd Seedrs yn rhoi cymorth rhagweithiol i gleientiaid y RhCT er mwyn helpu i'w tywys yn llwyddiannus drwy gylch cyllido torfol. Caiff cleientiaid y RhCT eu nodi ar wefan SEEDRS fel y gall buddsoddwyr ddysgu am yr ecosystem gymorth sy'n ategu'r cwmni a nodi busnesau yng Nghymru sydd wedi'u derbyn i'r Rhaglen Cyflymu Twf elît. Bydd gan y RhCT ardal benodol ar wefan SEEDRS.

201 Borough High Street, London SE1 1JA 

 

KPMG

Gwasanaethau cyfrifyddu, archwilio a chynghori ar dreth, gyda 22 o swyddfeydd yn y DU a bron 12,000 o bartneriaid a staff. Mae KPMG yn gweithio gyda llawer o ddiwydiannau i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau ariannol, gan gynnwys Yswiriant, Modurol, Gofal Iechyd, Bancio, Adeiladu a Chyfleustodau Pŵer.

Bydd KPMG yn cynnig tanysgrifiad tri mis am ddim i'w Wasanaeth Cyfrifyddu cwmwl i Fusnesau Bach, sy'n werth hyd at £1,500, i gleientiaid y RhCT yn unig. Bydd KPMG hefyd yn darparu gwasanaethau cynghori am bris gostyngol mewn perthynas ag adolygu rheolaeth ariannol, SEIS ac EIS, credydau treth ar gyfer Ymchwil a Datblygu ac arian grant.

Swyddfa Caerdydd: 3 Sgwâr y Cynulliad, Cei Britannia, Bae Caerdydd. CF10 4AX
Ffôn: (029) 2046 8000

 

Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig

Mae gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) fwy na 128,000 o aelodau. Mae'n darparu cymwysterau a datblygiad proffesiynol, gan rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd technegol, er mwyn diogelu ansawdd ac uniondeb y proffesiwn cyfrifyddu a chyllid. Mae cyfeirlyfr ar-lein ei Wasanaeth Cyngor Busnes (BAS) yn cynnwys mwy nag 21,000 o gwmnïau ICAEW.

Bydd ICAEW yn hysbysebu'r RhCT i'w aelodau a bydd y rhai sy'n canolbwyntio ar fusnesau twf uchel yn gweithio ochr yn ochr â'r RhCT er mwyn darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol ar gyfraddau gostyngol i gleientiaid y RhCT.

Ffôn: 1908 248 250

 

Entrepreneur Country Global

Cymuned ar-lein o alluogwyr digidol o'r un anian o bob cwr o'r byd. Rhannu'r hyn sydd wedi'i ddysgu o ran arfer gorau a manteisio ar adnodd heb ei ail o sgiliau a gwybodaeth. Cyflwynwch eich hun i gynulleidfa fyd-eang o fusnesau sefydledig sy'n barod i fuddsoddi. Dewch o hyd i'ch cynghreiriaid naturiol a fydd yn darparu'r asedau a'r galluoedd i dyfu ac ehangu eich busnes.

Bydd Entrepreneur Country Global yn cysylltu cleientiaid y RhCT â'i rwydwaith Byd-eang a bydd cleientiaid y RhCT yn cael cyfraddau gostyngol ar aelodaeth a digwyddiadau.

17-19 Cockspur Street, London. SW1Y 5BL, London.
Ffôn: (0)20 3021 1651

 

Innovation Warehouse

Cymuned o entrepreneuriaid sy'n gweithio ar fusnesau newydd twf uchel, effaith fawr. Mae Innovation Warehouse yn dod ag entrepreneuriaid, mentoriaid busnes a buddsoddwyr at ei gilydd er mwyn darparu gofod cydweithio, cymuned a rhedfa i fusnesau sy'n ceisio sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn cyflawni twf uchel.

Mae Innovation Warehouse yn arwain y byd ym maes deori a chyflymu technegol cam cynnar. Bydd cleientiaid y RhCT yn cael budd o'i brofiad a'i arbenigedd a byddant yn cael mynd i ddigwyddiadau Innovation Warehouse. Hefyd, gall cleientiaid y RhCT gymryd gofod yn swyddfeydd Innovation Warehouse.

1 E Poultry Avenue, London, EC1A 9PT
Ffôn: 020 7248 0199

 

IP Group

Rhoi cymorth ac adnoddau i gwmnïau technoleg er mwyn troi syniadau arloesol yn fusnesau llwyddiannus. Busnes craidd IP Groups yw creu gwerth i'r rhanddeiliaid a'i bartneriaid drwy fasnacheiddio eiddo deallusol.

Bydd IP Group yn cyfeirio cleientiaid yng Nghymru at y RhCT ac yn cydweithio â'r RhCT er mwyn rhoi cyngor a chymorth i gleientiaid y naill a'r llall.

IP Group plc, 24 Cornhill, London. EC3V 3ND
Ffôn: 020 7444 0050

 

Capital Law

Un o brif ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol masnachol i gleientiaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus ledled y DU, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, eiddo masnachol, ymgyfreitha ac ansolfedd.

Bydd Capital Law yn darparu gwasanaethau cynghori cyfreithiol i gleientiaid y RhCT ar gyfraddau gostyngol.

Capital Building, Stryd Tyndall, Caerdydd. CF10 4AZ.
Ffôn: 0333 2400 489

 

InvestorG8

Cynllun ym Mhrifysgol Abertawe y bwriedir iddo drawsnewid syniadau a dyfeisiadau academaidd yn fusnesau wedi'u cefnogi gan gyfalaf menter. Yn ddiweddar dewisodd rhaglen InvestorG8, wedi'i hategu gan raglen A4B Llywodraeth Cymru, 8 prosiect o adrannau gwyddorau bywyd a pheirianneg y brifysgol, gyda hyd at £75,000 yn cael ei ddyrannu i bob un ar gyfer gwaith datblygu a masnacheiddio. Mae pob un o'r 8 bellach yn gwmni cyfyngedig, gyda chynigion sylweddol o fuddsoddiad ar gael ar gyfer y cwmnïau deillio sy'n rhan o'r cynllun.

Bydd Investor G8 yn cydweithio â'r RhCT er mwyn darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol i gleientiaid y RhCT. Cynhelir digwyddiadau ar y cyd yn ogystal â gwasanaethau hyfforddi a chynghori cydgysylltiedig.

 

TechHub

Mae TechHub yn amgylchedd unigryw, lle y gall busnesau technoleg newydd ddechrau'n gyflymach. Gan feithrin rhwydwaith rhyngwladol o entrepreneuriaid technoleg penderfynol sydd o'r un anian, maent yn darparu lleoedd i weithio, cyfarfod, cydweithio, rhwydweithio, dysgu a chael hwyl - drwy ddod â'r bobl gywir at ei gilydd mewn un lle.

Bydd TechHub yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safle gael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi.

11 Stryd y Gwynt, Abertawe. SA1 1DP

 

ICE

Mae Canolfan Arloesi Cymru [ICE] yn sefydliad sydd wedi'i anelu at fusnesau sy'n deall gwerth gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, ysbrydoledig. Mae'n cynnig cyngor arbenigol, gwasanaeth mentora a chymorth i gwmnïau sy'n gobeithio ymsefydlu neu dyfu.

Bydd ICE yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safle gael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi.

Tŷ Britannia, Parc Busnes Caerffili, Van Road, Caerffili, CF83 3GG
Ffôn: 029 2014 0040

 

Sorenson Media

Mae Sorenson Media, sy'n darparu gofod lleoliad a chydweithrediad cyflymu, yn canolbwyntio ar ddarparu atebion Teledu a Fideo sy'n galluogi ei gwsmeriaid i addasu a ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.

Bydd Sorenson yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safle gael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi.

10/11 Raleigh Walk, Brigantine Pl. Waterfront 2000, Caerdydd. CF10 4LN
Ffôn: 02920 496 093

 

Deori Rhithwir Cenedlaethol

Llwyfan digidol arloesol sy'n cynnig cyfleoedd newydd er mwyn helpu i ystyried a datblygu syniadau newydd. Ers iddo gael ei lansio yn 2011, mae Porth Arloesi Prydain (BIG) wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau cenedlaethol er mwyn helpu entrepreneuriaid a busnesau technoleg newydd ac annog mwy o gydweithredu rhyngddynt.  Fel un elfen hanfodol o BIG, mae'r Ddeorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) yn rhwydwaith newydd arloesol a gefnogir gan Lywodraeth y DU. Mae'r NVI yn cysylltu canolfannau deori, cyfleusterau ymchwil, parciau gwyddoniaeth a sefydliadau academaidd drwy ei nifer gynyddol o ganolfannau cenedlaethol.

Bydd yr NVI(link is external) yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safle gael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi.

CANOLFAN ehi2, Sefydliad Gwyddor Bywyd 2, y Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe. SA2 8PP
Ffôn: 01792 295627

 

HSBC

Mae HSBC yn cynnig ystod lawn o wasanaethau bancio personol, masnachol a corfforaethol a gwasanaethau buddsoddi ac yswiriant ac mae'n noddi digwyddiadau a lleoliadau.

Bydd HSBC yn cyfeirio cleientiaid ac yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safleoedd gael eu defnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi.

Ffôn: 0800 032 1770

 

Santander

Mae Santander yn cynnig ystod lawn o wasanaethau bancio personol, masnachol a corfforaethol a gwasanaethau buddsoddi ac yswiriant ac mae'n noddi digwyddiadau a lleoliadau.

Bydd Santander yn cyfeirio cleientiaid ac yn cydweithio â'r RhCT er mwyn cynnal digwyddiadau ar y cyd a'i gwneud yn bosibl i'w safleoedd gael eu defnyddio ar gyfer dosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi. Bydd cleientiaid y RhCT yn gallu manteisio ar Raglen Breakthrough Santander.

2 Triton Square, Regent's Place, London, NW1 3AN

 

Darwin Gray

Mae Darwin Gray yn awyddus i fod yn bartner o dan y Rhaglen Cyflymu Twf gan fod y cwmni yn ymrwymedig i helpu busnesau newydd i dyfu. Mae ganddo hefyd lawer o gleientiaid hirdymor y mae wedi'u helpu i ddatblygu o’r cychwyn cyntaf hyd nes i’r cwmnïau gael eu gwerthu yn y pen draw. Yn wir, mae sawl cleient presennol eisoes wedi elwa ar y Rhaglen.

Mae'r cwmni yn gallu darparu cymorth cyfreithiol i gwmni drwy gydol ei oes. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ymgorffori'r cwmni, cytundebau rhanddeiliaid, gwarchod eiddo deallusol, adnoddau dynol a chymorth o ran y gyfraith cyflogaeth, cyngor ar gontractau masnachol, gwasanaethau eiddo masnachol a chymorth i ddatrys anghydfodau. Mae gan Darwin Gray, felly, yn ddigon profiadol i fod yn Bartner Aur i'r Rhaglen Cyflymu Twf.

I ddangos ei ymrwymiad i gleientiaid y Rhaglen hon, bydd Darwin Gray, am y deuddeng mis cyntaf y byddantyn gleientiaid iddo, yn cynnig disgownt o 20% ar ei gyfraddau safonol yr awr i gleientiaid y Rhaglen. Ar ben hynny, bydd y cwmni yn darparu hyfforddiant yn rhad ac am ddim ar faterion cyfreithiol, yn ogystal ag ychwanegu cleientiaid y Rhaglen i'w gronfa ddata fel eu bod yn cael gwahoddiadau i ddigwyddiadau'r cwmni.

Fel rhan o'r cynnig cychwynnol, bydd Darwin Gray (link is external)  hefyd yn rhoi ymgynghoriad rhad ac am ddim am awr i gleientiaid y Rhaglen i nodi eu blaenoriaethau ac i gytuno ar gynllun ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol yn y dyfodol.

Cysylltwch â: Paula Morris 
Darwin Gray. Tŷ Helmont, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HE.
Ffôn: 029 2082 9100

 

Yolk Recruitment

Mae Yolk Recruitment yn fusnes recriwtio amlweddog sy'n cynnig gwasanaeth unigryw i'r sector recriwtio, ac mae wedi'i achredu gan y Conffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Yolk wedi ennill y teitl swyddogol fel yr Asiantaeth Recriwtio sydd wedi Tyfu Gyflymaf (Twf Cyflym 50 Cymru ), ac mae'n asiantaeth arbenigol uchel ei barch o Gymru. Mae ei is-adrannau arbenigol yn cynnwys:

Gwerthiannau, Marchnata, TG, Cymorth Busnes, Canolfan Gyswllt, Peirianneg, Cyfreithiol a Gofal Iechyd.

Mae Yolk yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gleientiaid y Rhaglen i'w helpu i gyflawni eu huchelgais o ran twf ac mae'n falch o fod yn bartner Aur.

Beth all Yolk Recruitment gynnig i'r Rhaglen Cyflymu Twf a'i haelodau?

  • ‘Dosbarth Meistr Recriwtio’ lle y gallwn asesu strategaeth recriwtio’r busnes a llunio cynllun     recriwtio 12 mis i gyflawni'r targedau twf (a gyflawnir gan Gyfarwyddwr Uned Fusnes)
  • Disgownt o 20% oddi ar ein telerau busnes safonol am gyfnod o 12 mis ar gyfer rolau parhaol pan ddefnyddir ein cynllun recriwtio
  • Defnydd rhad ac am ddim o'n hystafelloedd cyf-weld a'n cyfleusterau cyfarfod
  • Profi seicometrig cynhwysol drwy'r cwmni blaenllaw byd-eang, Thomas International
  • Pecyn profi sgiliau pwrpasol drwy IBM Proveit
  • Cymorth o ran creu proffiliau swyddi, meincnodi cyflogau a chreu disgrifiadau swydd
  • Gwasanaeth ôl-werthu i sicrhau bod y gyfradd gadael yn cael ei mesur a bod y busnes yn canolbwyntio ar gadw a denu staff
     

Cysylltwch â: Nici Jones, Rheolwr Perthynas â Chleientiaid: Yolk Recruitment
02921 673716 / 07712 291098
njones@yolkrecruitment.com

 

Godi Financial

Mae Godi Financial (OSTCFX gynt), yn darparu gwasanaethau rheoli risg mewn perthynas â'r farchnad gyfnewid tramor, taliadau cyflym ac effeithlon ledled y byd, cyllid masnach ac addysg i fusnesau.

Ni yw’r cwmni cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau mewn perthynas â'r farchnad gyfnewid tramor, ac rydym wedi helpu dros 100 o fusnesau o Gymru i ddeall a lleihau’r risg wrth ddefnyddio'r farchnad gyfnewid tramor.

Nod Godi yw helpu cleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf i sefydlogi a gwarchod eu perthnasau masnachu tramor, eu llif arian, a'u helw. I wneud hynny, rydym yn cynnig gwasanaethau pwrpasol i roi mwy o ymdeimlad o reolaeth ichi, i wella’ch gallu i drafod, ac i roi mwy o dawelwch meddwl ichi – gan helpu, ar yr un pryd, i leihau costau, cyfraddau, a ffioedd sy'n gysylltiedig â thrafodiadau yn y farchnad gyfnewid tramor.

Gall cleientiaid y Rhaglen fanteisio ar wasanaeth rhad ac am ddim lle byddwn yn cynnal adolygiad o'r farchnad gyfnewid tramor ar eich rhan sy'n cynnwys:
• Asesu eich risg mewn perthynas â'r farchnad gyfnewid tramor a'ch llif arian.
• Cymharu prisiau â rhai eich banc neu'r sawl sy'n darparu'r gwasanaeth cyfnewid tramor ar hyn o bryd
• Argymhellion a strategaethau i helpu i leihau'r risg wrth ichi gyfnewid arian.

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut y gallai Godi helpu eich busnes, ewch i www.godi.io.

Godi Financial.
Uned 13, Technium 2, Kings Road, Abertawe SA1 8PJ
Ffôn: 01792 720 871
info@godi.io