Mae Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhaglen flaenllaw sy'n cefnogi entrepreneuriaid mwyaf addawol Cymru. Dros gwrs 12 wythnos dwys, bydd cyfranogwyr yn derbyn mentoriaeth arbenigol, gweithdai busnes wedi'u targedu, a chyfleoedd rhwydweithio i fireinio eu syniadau yn fusnesau y gellir eu tyfu.
Roedd Dan Newman, cyd-sylfaenydd BALDILOCKS – busnes sy'n grymuso pobl y mae colli gwallt wedi effeithio arnyn nhw – yn un o garfan 2024. Mae Dan wedi adeiladu brand sy'n canolbwyntio ar gynwysoldeb, llesiant a chymuned, wedi'i ysbrydoli gan ei brofiad o golli gwallt a heriau iechyd meddwl.
Buom yn siarad â Dan am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r busnes a rôl drawsnewidiol y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes.
Allwch chi esbonio'r syniad y tu ôl i BALDILOCKS?
Mae BALDILOCKS yn fenter elw-i-ddiben sy'n helpu pobl i adennill eu hyder a'u llesiant ar ôl profiad o golli gwallt. Mae'n ariannu profiadau llesiant trwy wasanaethau tylino ar y safle, gweithdai addysgol, gwerthu nwyddau, a rhaglen drwyddedu ar y stryd fawr ar gyfer barbwyr, sbas, a salonau. Wrth ei wraidd, mae'r brand yn ymwneud â chynwysoldeb, grymuso a chreu cymuned gefnogol.
Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu cyn ymuno â'r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes
Roedd ffocws yn her fawr. Deilliodd BALDILOCKS o brofiadau personol, a arweiniodd at lifeiriant o syniadau. Roedd yn anodd i mi drefnu'r rhain a rheoli heriau iechyd meddwl a oedd yn ailymddangos. Fe wnaeth y cyflymydd fy helpu i flaenoriaethu a gweithredu fy syniadau yn effeithiol. Roedd ymdeimlad y rhaglen o gymuned a chymheiriaid gwrthrychol, dibynadwy yn hanfodol wrth ddarparu eglurder a chyfeiriad.
Beth wnaeth eich ysgogi chi i ddechrau’r busnes?
Tri achlysur allweddol oedd y sbardun i greu BALDILOCKS. Yn gyntaf, gwelais i siop farbwr draddodiadol yn fy nhref i a sylweddolais i na allwn i fod yn gwsmer oherwydd fy alopesia. Yn ail, cwrddais i â dyn ifanc yr oedd colli gwallt wedi effeithio'n fawr ar ei iechyd meddwl. Yn olaf, gwnaeth sylw chwareus gan ffrind fy mhlentyn—"Cae dy ben, Baldilocks!" —i mi chwerthin ac ysbrydoli'r enw. Gwnaeth y profiadau hyn fy ysgogi i drawsnewid heriau alopesia yn rhywbeth cadarnhaol, doniol, a grymusol.
Sut gwnaeth y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes fireinio eich syniad busnes?
Rhoddodd y rhaglen amser, lle ac offer i mi droi fy ngweledigaeth yn strategaeth fusnes yr oedd modd ei gweithredu. Darparodd gwaith mentora a gweithdai sgiliau ymarferol ac adborth adeiladol. Er enghraifft, roedd dysgu sgiliau ymchwil marchnad effeithiol yn gam trawsnewidiol. Newidiodd fy ymagwedd o holi cwestiynau caeedig ie neu na i rai penagored, gan arwain at ganfyddiadau cwsmeriaid llawer mwy buddiol.
Pa offer a sgiliau y gwnaethoch chi eu hennill yn ystod y rhaglen?
Un offeryn amlwg oedd y Trefnydd Tyniant Gweledigaeth, sy’n ganolog i'n gwaith cynllunio erbyn hyn. Fe wnaeth y rhaglen hefyd fy helpu i ddatblygu rhagolwg ariannol a chynllun busnes.
Sut mae'r cyflymydd wedi dylanwadu ar eich taith?
Fe wnaeth y rhaglen drawsnewid fy hyder a'm persbectif, gan roi'r wybodaeth a'r cymorth i mi symud o fod yn freuddwydiwr i fod yn entrepreneur. Roeddwn i’n falch iawn o ennill gwobr am y gwerthiant cyflymaf i gwsmer. Erbyn hyn mae BALDILOCKS mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl a herio canfyddiadau cymdeithasol o golli gwallt ac iechyd meddwl.
Beth sy'n gwneud BALDILOCKS yn unigryw?
Mae BALDILOCKS yn seiliedig ar uniondeb, tosturi a grymuso. Yn wahanol i wasanaethau clinigol, rydyn ni'n creu brand agos atoch, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r adborth yn tynnu sylw at sut mae ein dull yn meithrin cysylltiadau dynol ystyrlon, gan ein gosod ar wahân mewn lle sy'n cael ei esgeuluso'n aml.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y 6–12 mis nesaf?
Mae llawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer y flwyddyn hon. Mae datblygiadau allweddol yn cynnwys lansio ein gwefan, cynyddu faint o nwyddau rydyn ni'n eu gwerthu, a chreu cymuned BALDIVERSE sy'n seiliedig ar danysgrifiad. Rydyn ni hefyd yn ehangu ein digwyddiadau tylino, gan greu rôl therapydd cyflenwol amser llawn, datblygu pecynnau llesiant BALDIBOX ar gyfer cyflogwyr a meddygon teulu, a lansio BALDY, cydymaith iechyd meddwl wedi'i bweru gan AI. Cadwch lygad!
Beth yw eich gweledigaeth hirdymor ar gyfer BALDILOCKS?
Ein gweledigaeth yw newid bywydau a herio canfyddiadau ynghylch colli gwallt ac iechyd meddwl. Ein nod yw cyrraedd cynulleidfa fyd-eang, lle mae ein sticeri ffenestri ar y stryd fawr yn symbol o gynwysoldeb. Y weledigaeth yw y bydd BALDIVERSE yn gymuned ar-lein gefnogol, y bydd BALDIBOX yn offeryn llesiant dibynadwy, ac y bydd BALDY yn adnodd iechyd meddwl arloesol.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?
Mae angerdd yn bwysig, ond mae gostyngeiddrwydd yn hollbwysig. Amgylchynwch eich hun â ffrindiau beirniadol sy'n eich herio chi ac sy'n eich cefnogi chi. Rhannwch y llwyth a blaenoriaethwch eich lles. Mae llwyddiant yn dilyn iechyd, nid y ffordd arall.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.