Mae creu deunydd marchnata sy’n portreadu amrywiaeth o bobl mewn ffordd ddilys a phositif, heb stereoteipiau, yn rhoi hwb i elw, gwerthiant a brand eich busnes, Dyna a brofwyd gan yr astudiaeth fyd-eang gyntaf erioed Unstereotype Alliance, menter a drefnwyd gan UN Women ac arweinwyr o’r diwydiant.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gydag ymchwilwyr blaenllaw o Ysgol Fusnes Saïd ym Mhrifysgol Rhydychen, gyda data a ddarparwyd gan Alliance, Bayer Consumer Healthcare, Diageo, Geena Davis Institute, Kantar, Mars Incorporated, Mondelez International ac Unilever – cwmnïau sydd oll yn aelodau o Unstereotype.

Mae'r ymchwil cyntaf o'i fath, sy'n seiliedig ar ddadansoddiad o 392 o frandiau ar draws 58 o wledydd, yn profi effaith gadarnhaol hysbysebu cynhwysol ar ganlyniadau busnes yn y tymor byr a'r tymor hir, ac ar draws metrigau lluosog. Mae'n amlygu sawl maes gwella perfformiad gan gynnwys gwerthiant, perfformiad ariannol, dewisiadau a ffyddlondeb cwsmeriaid, ecwiti brand a chystadleurwydd y farchnad. Mae’r canfyddiadau’n cadarnhau bod ymgyrchoedd hysbysebu cynhwysol yn arwain at: 

  • Gwerthiannau tymor byrrach 3.5% yn uwch a gwerthiannau tymor hwy 16% yn uwch
  • Tebygolrwydd 62% yn uwch o fod yn ddewis cyntaf defnyddiwr
  • Ffyddlondeb cwsmeriaid 15% uwch

Mae'r canlyniadau'n dangos ymhellach bod yr effaith gadarnhaol hon yn ymestyn i'r tymor hwy. Gwelir cynnydd uwch mewn gwerthiant ac mae’r metrigau canfyddiad brand a gwerth brand yn dynodi enw brand cryfach a chadarnach. Roedd yr astudiaeth yn edrych ar sawl categori cynnyrch, megis melysion, byrbrydau, gofal personol, harddwch, bwyd anifeiliaid anwes, gofal anifeiliaid anwes, alcohol, gofal iechyd defnyddwyr, a chynhyrchion cartref, ar draws gwahanol ardaloedd. 

Wrth gyhoeddi’r  adroddiad, mae Unstereotype Alliance yn galw ar y gymuned fusnes i fabwysiadu arferion hysbysebu mwy cynhwysol, ac yn cymeradwyo'n gryf ymdrechion corfforaethol yn y maes hwn. Mae'r canfyddiadau'n amlygu manteision masnachol hysbysebu cynhwysol ac felly'n cefnogi'r syniad y dylid ystyried cynhwysiant yn elfen allweddol o strategaeth gorfforaethol gyffredinol a strategaethau cyfathrebu cysylltiedig. 

Dywedodd Sara Denby, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth Unstereotype Alliance yn UN Women: 'Mae'r syniad y gall cynnwys hysbysebu cynhwysol niweidio busnes yn fasnachol wedi cyfyngu ar gynnydd yn rhy hir. Mae’r honiad yn gyson ddi-sail – ond roedd angen i ni ddarparu tystiolaeth i’r gwrthwyneb. Dylai’r data diwrthbrawf hyn dawelu meddwl unrhyw fusnes ac annog brandiau i adnewyddu eu hymrwymiad i gynhwysiant o bob math, nid yn unig er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ond er mwyn sbarduno twf a ffyniant ariannol.”

Dywedodd Esi Eggleston Bracey, Prif Swyddog Twf a Marchnata Unilever:
"Mae Unilever wedi bod ar y blaen o ran creu hysbysebion amlwg na ellir eu colli sy'n flaengar, yn bryfoclyd, ac yn gynhwysol ers blynyddoedd, o'n gwaith gyda Dove, Rexona a LUX i enwi dim ond rhai o'r brandiau allweddol. I ni, mae creu gwaith sy'n gynhwysol o bobl gyda gwahanol brofiadau byw yn fwy na gwneud y peth cywir yn unig, mae hefyd yn rheidrwydd busnes sy'n ysgogi pŵer brand a chanlyniadau masnachol. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu'r achos busnes diymwad dros farchnata mwy amrywiol a chynhwysol a bydd yn arf pwerus wrth i’r diwydiant ymdrechu i wneud gwaith hyd yn oed yn fwy blaengar ac effeithiol wrth symud ymlaen.”

Dywedodd David Evendon-Challis, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol a Phrif Swyddog Gwyddonol, Pennaeth Ymchwil a Datblygu, Bayer Consumer Health:
“Mae’n hynod bwysig dod â’r sefydliad cyfan ar y daith i ysgogi cynnwys cynhwysol. Yn Bayer Consumer Health rydym yn ymdrechu am ragoriaeth greadigol ac adrodd straeon sy’n cynnwys pawb, felly fe wnaethom ymgorffori offer megis Metrig Rhywedd Unstereotype, gosod safonau gweithredu newydd i atal hysbysebion a oedd yn tanberfformio rhag cael eu darlledu, ac uwchsgilio ein timau gyda rhaglen meithrin gallu. Gwnaeth hyn ysbrydoli ein timau a’n partneriaid ond hefyd arwain at fwy o greadigrwydd a chynnwys sy’n gwasanaethu ac yn cynrychioli ein cwsmeriaid yn eu hamrywiaeth lawn.”

Dywedodd yr Athro Andrew Stephen, Athro Marchnata L'Oréal, Dirprwy Ddeon y Gyfadran ac Ymchwil, Cyfarwyddwr Menter Marchnata Dyfodol Rhydychen, Ysgol Fusnes Saïd Prifysgol Rhydychen:
'Mae'n hanfodol bwysig bod y penderfyniadau a wnawn mewn busnes a chymdeithas wedi'u gwreiddio mewn tybiaethau cywir a ffeithiau sydd wedi’u profi’n wyddonol, yn hytrach na thystiolaeth anecdotaidd a gwirebau heb eu profi. Rydym yn falch iawn o rannu’r canfyddiadau a ddeilliodd o’r astudiaeth hon a gallu darparu gwybodaeth ddibynadwy ar y pwnc dadleuol hwn, gan alluogi busnesau i ailystyried rôl cynhwysiant yn eu harferion hysbysebu. Gallant elwa llawer o wneud hynny.’ 

Os ydych chi am fabwysiadu arferion hysbysebu mwy cynhwysol yn eich busnes chi, siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas i weld sut y gallan nhw eich cefnogi chi, neu cysywlltch â thîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yma

Share this page

Print this page