Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno diwygiadau mawr i gyfraith cyflogaeth er mwyn gwella cyflogau, diogelwch swyddi ac amodau yn y gweithle. Disgwylir i’r rhan fwyaf o’r diweddariadau ddigwydd yn 2026, ond bydd gweithredu nawr yn eich helpu i aros ar flaen y gad a chryfhau eich busnes. Isod mae ein canllawiau am y newidiadau hyn, gyda chyngor ymarferol i’ch helpu i baratoi.
Beth sy’n Newid?
Bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd yn cyflwyno diweddariadau mawr i gyfraith cyflogaeth. Mae’r newidiadau allweddol yn cynnwys:
- Hawliau diwrnod cyntaf: Bydd gweithwyr cyflogedig wedi eu diogelu rhag diswyddiad annheg a bydd modd iddynt gael absenoldeb rhiant o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth
- Gweithio hyblyg yn ddiofyn: Gweithio hyblyg fydd yr opsiwn safonol lle bo’n ymarferol. Er bod yr hawl gan weithwyr cyflogedig yn barod i ofyn am gael gweithio hyblyg o’r diwrnod cyntaf, bydd y newidiadau newydd yn gofyn bod cyflogwyr yn tynhau eu proses ymgynghori ac yn darparu esboniadau clir a rhesymol pan fyddent yn gwrthod cais
- Gwahardd camfanteisio: Bydd cytundebau dim oriau a thactegau “diswyddo ac ailgyflogi” yn cael eu gwahardd
- Rheolau tynnach yn erbyn aflonyddu: Yn ôl y gyfraith bydd cyflogwyr yn gyfrifol am atal aflonyddu, a bydd hynny’n cynnwys digwyddiadau sy’n ymwneud â chwsmeriaid neu gleientiaid hefyd
- Asiantaeth gweithio teg: Bydd asiantaeth newydd yn goruchwylio’r broses o orfodi gwell hawliau cyflogaeth, yn cynnwys tâl gwyliau, tâl salwch statudol a chydymffurfiaeth o ran cyflogau
- Diweddariadau i’r ddeddfwriaeth undebau llafur: Bydd y cyfyngiadau ar undebau llafur yn cael eu llacio er mwyn hwyluso cynrychiolaeth ar y cyd a chryfhau llais y gweithiwr cyflogedig
- Gonestrwydd am gyflog rhywedd: Mae’n rhaid i fusnesau sydd â mwy na 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi cynlluniau gweithredu i gau’r bylchau cyflog rhwng y rhywiau
- Diogelwch cryfach i weithwyr cyflogedig beichiog: Bydd ehangiad yn y diogelwch rhag diswyddo i fenywod beichiog a mamau newydd
Bydd mesurau ar wahân hefyd yn cryfhau’r diogelwch yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil ac anabledd. Bydd y diwygiadau hyn yn gofyn i chi fabwysiadu arferion mwy teg a chynhwysol yn y gweithle.
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes chi?
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y ffordd y byddwch yn cyflogi, rheoli a chefnogi gweithwyr cyflogedig. Mae’n rhaid i chi adolygu polisïau, diweddaru contractau a mabwysiadu mesurau rhagweithiol i gydymffurfio â chyfraith cyflogaeth berthnasol. Os byddwch yn aros tan y dyddiad cwblhau i weithredu, gallai hynny achosi risgiau dianghenraid ac amharu ar eich gwaith. Trwy baratoi yn awr, gallwch beri i’ch busnes chi fod yn arweinydd ym maes cyflogaeth deg a chynhwysol. Mae’r newidiadau hyn yn rhoi cyfle i chi i gryfhau eich gweithle ac adeiladu llwyddiant yn y tymor hir.
Sut i baratoi
Dyma sut y gallwch baratoi ar gyfer y newidiadau:
- Clywed am y newidiadau fel y maen nhw’n digwydd: Rhowch gyfrifoldeb adnoddau dynol i bobl benodol a byddwch yn barod i ymateb
- Adolygu eich poisïau: Cadw llygad ar gontractau a pholisïau AD er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith
- Hyfforddi rheolwyr a thimau AD: Helpwch eich arweinwyr i ddeall y newidiadau a’u paratoi i roi polisïau newydd ar waith yn effeithiol wrth i newidiadau gael eu cadarnhau
- Cynnwys eich tîm yn y broses: Cyfathrebwch yn agored â’ch gweithwyr cyflogedig am y diwygiadau a sut y byddent o fudd i’r gweithle
- Ceisiwch gyngor arbenigol: Ymgynghorwch â ffynonellau dibynadwy fel Acas i gael arweiniad
Cefnogaeth sydd ar gael gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Gall Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru eich helpu i lywio drwy’r newidiadau hyn. Mae pecynau hyfforddi wedi eu teilwra ar gael i helpu eich busnes i addasu’n esmwyth. Cysylltwch â’ch Rheolwr Cysylltiadau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru heddiw i drafod sut y gallwn helpu eich busnes i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn a sicrhau bod y trosglwyddiad yn esmwyth.