Bellach mae’r cyfnod ceisiadau wedi agor ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes nesaf Busnes Cymru, sy’n fenter allweddol y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Bydd y rhaglen deng wythnos, cwbl ar-lein, yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Medi 2025 i ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025, gan gynnig cymorth wedi'i dargedu i entrepreneuriaid twf uchel ledled Cymru.
Mae'r rhaglen gyflymu wedi'i hadeiladu ar gyfer pobl sydd â syniadau busnes cryf ac sydd am fynd â'u cysyniad i'r farchnad a thyfu’n gyflym. Trwy weminarau wythnosol, dosbarthiadau meistr â ffocws a sesiynau un-i-un gyda hyfforddwyr profiadol, mae cyfranogwyr yn adeiladu model busnes gwydn, yn sicrhau eu cwsmeriaid cyntaf sy’n talu a dysgu sut y gall offer AI fyrhau amser ymchwil a gwella effeithlonrwydd.
Mae rhwydweithio strwythuredig yn cysylltu sylfaenwyr â chymheiriaid, buddsoddwyr posibl ac arbenigwyr sector, wrth i weithgarwch ar y cyfryngau eu helpu nhw i godi eu proffil cyhoeddus. Mae’r elfennau hyn, gyda’i gilydd, yn byrhau’r pellter rhwng y syniad a refeniw ac yn agor llwybrau at farchnadoeddnewydd.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw yng Nghymru a chyflwyno syniad cyn-refeniw sy'n gallu cyrraedd trosiant blynyddol o £1 miliwn, gan greu o leiaf ddeg swydd amser llawn ac allforio erbyn 2029. Gall RCT ddarparu cymorth ymarferol ac arian i ddileu rhwystrau a allai atal rhai rhag cymryd rhan fel arall.
Meddai Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen, RCT:
“Diben ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yw troi dyhead yn weithredu. Dros ddeng wythnos ddwys, rydyn ni’n tywys cyfranogwyr trwy fframwaith clir, yn profi'r galw, yn mireinio eu cynnig ac yn cael llofnod y cwsmer cyntaf hollbwysig hwnnw. Mae’r rhaglen hon yn sicrhau bod gan entrepreneuriaid Cymru yr offer cywir i ffynnu mewn marchnad sy’n mynd yn fwy ac yn fwy cystadleuol trwy gofleidio AI a thechnegau arloesol eraill. Rwy’n awchu gweld y don nesaf o entrepreneuriaid Cymreig a fydd yn dod o’r rhaglen hon.”
Tynnodd Andrea Jones, un o’r cyfranogwyr blaenorol ac enillydd Gwobr Hyrwyddwr y Rhaglen Gyflymu yn 2024, sylw at yr effaith a gafodd y rhaglen ar ei busnes:
“Gwnaeth y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes weddnewid fy syniad yn fenter barod i’r farchnad. Rhoddodd y mentora a'r amgylchedd cydweithredol yr eglurder a'r hyder i mi ddatblygu VisVira yn fusnes sy'n tyfu. Roedd cymryd rhan yn y rhaglen gyflymu yn gam trawsnewidiol, gan helpu i droi fy ngweledigaeth yn ganlyniadau gweithredol.”
Ychwanegodd Richard Selby, Cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwr Cymru a beirniad ar gyfer gwobrau’r rhaglenni cyflymu:
“Mae angen strwythur, her a’r cysylltiadau cywir ar syniadau da. Mae Rhaglen Busnes Cymru ar gyfer Cyflymu Dechrau Busnes yn darparu pob un o’r tri hyn. Mae'n caniatáu i sylfaenwyr roi prawf ar ragdybiaethau, dysgu gan bobl sydd wedi adeiladu cwmnïau o'r blaen a chwrdd â buddsoddwyr sy'n deall y risg sy’n gysylltiedig â thyfu’n gynnar. Mae’r cyfuniad hwn yn cryfhau busnesau ac economi ehangach Cymru.”
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes erbyn dydd Llun 25 Awst 2025.
Dylai darpar entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb trwy glicio ar y ddolen isod:
https://events.newable.co.uk/events/13/start-up-accelerator-september-2025?lang=cy