Mae Howard Jones, un o'n Rheolwyr Cysylltiadau a'n Hyfforddwyr yn rhannu ei brif gynghorion ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol a sut mae dirprwyo yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni eich nodau, cynyddu cynhyrchiant a symleiddio eich llif gwaith. 

Howard Jones

Mae gan Howard gyfoeth o brofiad mewn arweinyddiaeth. Ar ôl gweithio gyda llawer o fusnesau twf uchel llwyddiannus dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ganddo hanes trawiadol o ddylunio, datblygu a chyflwyno ystod o weithgareddau dysgu diddorol a phrosiectau ymgynghori mewn lleoliadau gweithredol amrywiol sydd wedi helpu i gyflawni gwelliannau perfformiad go iawn. 

Mae Howard yn deall pwysigrwydd dirprwyo a'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth ysgogi twf busnes, yn enwedig gallu sylfaenwyr/entrepreneuriaid i adeiladu timau cryf a dirprwyo cyfrifoldeb. Wrth i fusnesau ehangu'n gyflym, mae'r rhai sy'n eu rhedeg yn wynebu cymhlethdod cynyddol. Mae gallu eu harweinydd i arwain y sefydliad trwy heriau, cymell pobl, a sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu orau yn hanfodol i gynnal twf, cynyddu cynhyrchiant i'r eithaf a meithrin diwylliant tîm gwych. Mae angen i sylfaenwyr ddirprwyo a grymuso eu timau ar gyfer gallu tyfu a chydnabod na allan nhw wneud popeth drostyn nhw eu hunain.

Mae dirprwyo yn hanfodol i gyflymu twf. Yn y blog hwn byddwn ni'n archwilio sut mae dirprwyo effeithiol yn sgil arweinyddiaeth effeithiol a sut, os caiff ei ddefnyddio'n gywir, y gall hyn helpu i gefnogi busnesau i gyrraedd eu nodau twf uchel. Gweler chwe phrif gyngor Howard isod:

1. Rhyddhau amser ar gyfer gwneud penderfyniadau  
Wrth i fusnes dyfu, mae angen i arweinwyr ganolbwyntio ar benderfyniadau strategol, cynllunio tymor hir, a pherthnasoedd allanol (megis buddsoddwyr neu randdeiliaid allweddol). Trwy ddirprwyo tasgau gweithredol, mae amser yn cael ei ryddhau i fynd i'r afael â chynllunio a gwneud penderfyniadau lefel uchel. Mae dirprwyo yn caniatáu i berchnogion busnes ganolbwyntio ar weledigaeth a chyfeiriad yn hytrach na gweithredu o ddydd i ddydd.

2. Grymuso'r tîm 
Pan fydd arweinwyr yn dirprwyo cyfrifoldebau, mae aelodau'r tîm yn teimlo eu bod nhw wedi'u grymuso i gymryd perchnogaeth dros brosiectau a deilliannau. Mae'r ymdeimlad hwn o gyfrifoldeb yn eu cymell i berfformio ar lefelau uwch ac yn ysgogi arloesedd a'r gwaith o ddatrys problemau. Mae dirprwyo gwaith ystyrlon yn meithrin atebolrwydd, gan fod pawb yn deall eu rôl a'u cyfraniad at ysgogi twf yn ei flaen.

3. Trosoli arbenigedd penodol
Nid yw sylfaenwyr yn arbenigwyr ym mhob agwedd ar y busnes. Mae angen setiau sgiliau amrywiol ar gwmnïau twf uchel; mae dirprwyo effeithiol yn caniatáu i arweinwyr fanteisio ar gryfderau eu timau. Trwy neilltuo tasgau i'r rhai sydd â'r arbenigedd perthnasol, maen nhw'n sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau'n effeithlon ac o ansawdd uwch, sy'n hanfodol wrth dyfu gweithrediadau.

4. Yn lleihau tagfeydd
Pan fydd arweinwyr yn microreoli neu'n methu â dirprwyo'n effeithiol, mae'n creu tagfeydd sy'n arafu'r broses o wneud penderfyniadau a gweithredu. Mewn amgylchedd twf uchel, mae cyflymder, yn aml, yn fantais gystadleuol. Mae dirprwyo'n effeithiol yn caniatáu i nifer o dasgau a phrosiectau gael eu trin ar yr un pryd gan wahanol aelodau tîm neu adrannau, gan helpu'r busnes i dyfu'n gynt.

5. Yn meithrin diwylliant o ymddiriedaeth
Mae dirprwyo'n arwydd o ymddiriedaeth. Mae sylfaenwyr sy'n dirprwyo yn dangos bod ganddyn nhw ymddiriedaeth ym marn, sgiliau a gallu eu gweithwyr i gyfrannu at dwf y busnes. Mae hyn yn meithrin diwylliant lle mae aelodau'r tîm yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a bod pobl yn ymddiried ynddyn nhw, gan eu cymell nhw i ymroi a pherfformio ar lefel uwch. Mae ymddiriedaeth yn hanfodol ar gyfer twf, gan fod pobl sy'n ymroi yn fwy cynhyrchiol ac yn barod i fynd yr ail filltir.

6. Arweinyddiaeth yn gatalydd twf
Mewn busnesau twf uchel, nid yw arweinyddiaeth yn golygu cyfarwyddo pobl yn unig, mae hefyd yn golygu galluogi eraill i roi o'u gorau. Mae dirprwyo a chreu tîm yn sgiliau arweinyddiaeth hanfodol sydd, o'u gweithredu'n effeithiol, wir yn helpu i gyflymu twf cwmni.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn grymuso eraill, gan alluogi busnes i dyfu'n effeithlon wrth gynnal aliniad strategol, cynhyrchiant a chymhelliant.

I gloi, mae cofleidio'r grefft o ddirprwyo yn hanfodol i arweinwyr busnes sy'n ceisio cynyddu eu heffeithiolrwydd i'r eithaf. Trwy ymddiried tasgau i aelodau tîm galluog, gall arweinwyr ryddhau amser gwerthfawr i ganolbwyntio ar fentrau blaenoriaeth uchel, meithrin datblygiad proffesiynol ymhlith eu staff, a meithrin diwylliant o ymddiriedaeth a grymuso yn eu sefydliad.

Os hoffech chi gael cymorth pellach ar sut y gallwch chi dyfu'n effeithlon, cynnal cynhyrchiant a chyflawni eich nodau twf uchel, cysylltwch â'ch Rheolwr Perthnasoedd i gael rhagor o gymorth a chyngor arweinyddiaeth neu cysylltwch â thîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru trwy ein gwefan ni yma. 

Share this page

Print this page