Mae anogaeth i feddyliau entrepreneuraidd disgleiriaf Cymru fanteisio ar gyfle i gyflymu eu syniadau busnes. Bellach mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn derbyn ceisiadau am ei Raglen Cyflymydd Busnesau Newydd ymdrochol 10 wythnos arloesol, a gaiff ei lansio ddydd Mawrth 13 Mai 2025 ac sy’n dod i ben ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2025.
Mae'r rhaglen gwbl rithwir hon yn cynnig cymorth wedi'i theilwra i helpu cyfranogwyr i droi eu syniadau yn fusnesau cwbl weithredol. Trwy hyfforddiant wedi'i dargedu a dosbarthiadau meistr, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i datblygu model busnes cynaliadwy a sicrhau eu cwsmeriaid cyntaf sy'n talu.
Bydd y sesiynau'n archwilio rhaglenni AI newydd sy'n hybu creadigrwydd, sy’n symleiddio ymchwil i'r farchnad a gwella effeithlonrwydd. Bydd y rhaglenni hyn yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr gystadlu mewn marchnad sy'n newid yn gyflym.
Mae'r cyflymydd yn agored i ddarpar entrepreneuriaid o Gymru sydd â syniadau busnes cyn-refeniw. I fod yn gymwys, dylai fod gan fusnesau y potensial i gyflawni dros £1 miliwn mewn trosiant blynyddol a chreu deg swydd amser llawn erbyn 2029, gyda chyfleoedd allforio. Mae cymorth ar gael i helpu i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan, gan sicrhau hygyrchedd i bob ymgeisydd cymwys.
Tynnodd Andrea Jones, cyfranogwr blaenorol ac enillydd Gwobr Pencampwr Cyflymydd yn 2024, sylw at yr effaith a gafodd y rhaglen ar ei busnes:
"Trawsnewidiodd y Rhaglen Cyflymydd Dechrau Busnes fy nghysyniad busnes yn fenter sy'n barod ar gyfer y farchnad. Rhoddodd y fentoriaeth a'r amgylchedd cydweithredol yr eglurder a'r hyder i mi ddatblygu VisVira, sydd bellach yn ar flaen y gad o ran cynorthwywyr asiantau AI a gweithwyr AI. Roedd cymryd rhan yn y cyflymydd yn amhrisiadwy, gan fy ngalluogi i droi fy ngweledigaeth yn ganlyniadau yr oedd modd eu gweithredu."
Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o weminarau, dosbarthiadau meistr a mentora 1-i-1 gan fodelau rôl o fyd busnes ac arbenigwyr twf. Bydd rhwydweithio rhwng cymheiriaid yn helpu cyfranogwyr i adeiladu cysylltiadau, cael canfyddiadau a meithrin cydweithio. Bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus i godi eu proffiliau busnes. I gloi'r rhaglen mae digwyddiad gwobrwyo proffil uchel i ddathlu cyflawniad entrepreneuraidd.
Meddai Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:
"Mae Rhaglen Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru yn darparu cyfranogwyr gyda'r offer, yr arbenigedd a'r rhwydweithiau cymorth sy'n angenrheidiol i drawsnewid syniadau addawol yn fusnesau cynaliadwy. Mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod entrepreneuriaid o Gymru mewn sefyllfa dda i ffynnu mewn marchnad sy’n mynd yn fwy ac yn fwy cystadleuol trwy gofleidio AI a thechnegau arloesol eraill. Rwy'n gyffrous i weld y don nesaf o entrepreneuriaid o Gymru yn ymddangos o’r Rhaglen hon."
Ychwanegodd Richard Selby, Cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru a beirniad ar gyfer gwobrau'r Rhaglen Cyflymu Twf:
"Mae gan Gymru draddodiad balch o entrepreneuriaeth, ac mae'r rhaglen hon yn darparu llwyfan ardderchog i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes. Trwy arloesi a chymorth ymarferol, mae'r cyflymydd yn cynnig cyfle unigryw i gyfranogwyr i droi eu syniadau beiddgar yn fentrau ffyniannus."
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyflymydd Busnesau Newydd erbyn dydd Llun 31 Mawrth 2025. Bydd y rhaglen yn rhedeg o ddydd Mawrth 13 Mai 2025 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2025.
Gall darpar entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru eu diddordeb drwy glicio ar y ddolen isod: https://events.newable.co.uk/events/1358/cyflymydd-busnesau-newydd-busnes-cymru-mai-2025