Mae Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru, yn fenter flaenllaw sydd â'r nod o feithrin a hyrwyddo doniau entrepreneuraidd mwyaf disglair Cymru. Dros raglen ddwys o 12 wythnos, bydd cyfranogwyr yn cael arweiniad arbenigol, cyngor mentoriaid a chyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy i drawsnewid eu syniadau arloesol yn fusnesau cynaliadwy, y gellir eu tyfu. Roedd carfan 2024 yn cynnwys 21 o entrepreneuriaid o bob rhan o Gymru, a oedd yn cael eu dathlu am eu penderfyniad a'u creadigrwydd mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y rhaglen.
Ymhlith enillwyr y gwobrau roedd Trystan Lloyd, sylfaenydd LYFT Club, a enillodd Wobr Cyflymydd Gwerthu am ei blatfform arloesol yn cysylltu gweithwyr ffitrwydd proffesiynol â chleientiaid. Mae LYFT Club yn cyfuno technoleg arloesol â phrofiadau personol Trystan i ailddiffinio sut mae gwasanaethau ffitrwydd yn cael eu cyrchu a'u darparu.
A LYFT Club yn masnachu erbyn hyn ac yn prysur fynd o nerth i nerth, mae taith Trystan yn enghraifft o botensial trawsnewidiol Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru.
Buom yn siarad â Trystan i ddysgu rhagor am ei daith, effaith y rhaglen, a'i gyngor i ddarpar entrepreneuriaid.
Allwch chi esbonio'r syniad y tu ôl i LYFT Club?
Mae LYFT Club yn blatfform ar-lein sy'n cysylltu cwsmeriaid â gweithwyr ffitrwydd proffesiynol, fel hyfforddwyr personol a champfeydd. Mae'n gyfeiriadur lle mae darparwyr yn arddangos eu gwasanaethau tra bydd cwsmeriaid yn cymharu adolygiadau, cynigion a phrisiau, yn debyg i Checkatrade ond ar gyfer y diwydiant ffitrwydd. Trwy gymhwyso model busnes profedig i ffitrwydd, mae LYFT Club yn dod â thryloywder, dewis a gwybodaeth wedi'i dilysu i ddefnyddwyr, gan drawsnewid sut mae pobl yn cyrchu gwasanaethau ffitrwydd. Yn wahanol i unrhyw beth sydd ar gael ar hyn o bryd, mae LYFT Club yn grymuso gweithwyr proffesiynol i ehangu eu sylfaen cwsmeriaid a helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweddu i'w taith ffitrwydd.
Beth wnaeth eich ysgogi chi i ddechrau eich busnes?
Ar ôl ymddeol o rygbi proffesiynol, roeddwn i'n cael trafferth gydag ymdeimlad o golli pwrpas a sylwi ar fwlch yn y farchnad. Nid oedd unrhyw ffordd syml o gymharu gwasanaethau ffitrwydd, cyrchu adolygiadau, a dod o hyd i brisio mewn un lle. Gan dynnu ar fy mhrofiad mewn chwaraeon a busnes (ac ar ôl cael fy magu mewn teulu hunangyflogedig), fe wnes i greu LYFT Club i bontio'r bwlch hwn, gan roi llwyfan pwrpasol i weithwyr proffesiynol a helpu cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus.
Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu cyn ymuno â Raglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Busnes Cymru, a sut gwnaethoch chi eu goresgyn?
Fy her fwyaf oedd hunan-amheuaeth. Er fy mod i'n gyfarwydd â'r diwydiant ffitrwydd, doedd gen i ddim profiad mewn technoleg, a oedd yn hanfodol ar gyfer datblygu LYFT Club. Roedd y mentora ar y rhaglen yn allweddol wrth fagu hyder. Fe wnaeth fy mentor herio fy mhenderfyniadau a fy nal i'n atebol, a oedd yn amhrisiadwy.
Sut y gwnaeth Rhaglen Cyflymydd Dechrau Busnes Cymru fireinio eich syniad neu eich strategaeth fusnes?
Cadarnhaodd y rhaglen fod fy strategaeth ar y trywydd iawn wrth wella fy nealltwriaeth o feysydd busnes allweddol. Roedd gweithdai a sesiynau mentora yn darparu'r cymorth a'r atebolrwydd yr oedd eu hangen arnaf i lansio LYFT Club yn hyderus.
Beth sy'n eich cymell chi yn sylfaenydd, a beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am ddechrau busnes?
Rwy'n frwdfrydig i helpu pobl i ddod yn fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain trwy iechyd a ffitrwydd. Mae lleihau rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau ffitrwydd yn ganolog i genhadaeth LYFT Club. Mae'r daith entrepreneuraidd hefyd wedi bod yn drawsnewidiol yn bersonol, gan ganiatáu imi ddarganfod ymdeimlad newydd o bwrpas ac archwilio fy ochr greadigol.
Sut mae eich busnes wedi datblygu oherwydd Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru?
Y maes mwyaf effeithiol oedd dysgu am fuddsoddiad, deall opsiynau ariannu, a lleoli LYFT Club ar gyfer buddsoddwyr posibl. Roedd y sesiynau mentora yn canolbwyntio ar wytnwch a thwf personol, gan fy helpu i ddod â'm rhinweddau gorau yn sylfaenydd. Fe wnaeth fy mentor, Alex Darby, fy annog i rannu fy stori a dod yn wyneb y brand. Rwyf wedi cofleidio defnyddio fy nghefndir i gysylltu â chwsmeriaid a dechrau creu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi rhagweld ei wneud. Mae hyn wedi cryfhau ymddiriedaeth yn sylweddol gyda darpar gwsmeriaid.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer LYFT Club yn y dyfodol?
Fy mhrif ffocws hyd y gellir rhagweld yw cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad â LYFT Club wrth sicrhau buddsoddiad i wella ein galluoedd. Yn y pen draw, rwy'n anelu at wneud LYFT Club yn llwyfan byd-eang dewis cyntaf i unrhyw un sy'n cychwyn ar daith iechyd a ffitrwydd.
Beth yw'r wers fwyaf rydych chi wedi'i dysgu o Raglen Cyflymydd Dechrau Busnes Cymru?
Mae entrepreneuriaeth yn anodd ond yn hynod werth chweil. Mae'n mynnu aberth, ond mae'r ymdeimlad o foddhad a chyffro yn ddigymar.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i rywun sy'n dechrau ei fusnes ei hun?
Ewch amdani. Byddwch chi'n darganfod mwy amdanoch chi'ch hun a'ch potensial nag yr oeddech chi'n meddwl ei bod hi'n bosib.
Cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â Rhaglen Cyflymydd Dechrau Busnes Cymru nesaf, sy'n rhan o haglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am LYFT Club.