Mae Oes Gafr Eto (OGE) yn frand dillad a grëwyd i adlewyrchu Cymru hyderus, fodern, lle mae iaith, hunaniaeth a threftadaeth yn dod at ei gilydd trwy ddylunio ac adrodd straeon mewn modd beiddgar. Sefydlwyd y cwmni i ddechrau yn 2015 gan ddau bartner, ac Alun Gruffudd sy’n ei arwain erbyn hyn. Mae'r busnes yn cynnig persbectif newydd ar ffasiwn Cymru, sy'n canolbwyntio ar hunaniaeth weledol unigryw wedi'i hysbrydoli gan yr afr gwydn, grwydrol.
Yn sgil arweiniad arbenigol a chymorth strategol gan y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT), sef un o wasanaethau Busnes Cymru, mae OGE wedi lansio ei blatfform e-fasnach dwyieithog yn llwyddiannus ac mae ganddo gynllun clir i dyfu busnes.
Yn y sesiwn holi ac ateb hon, mae Alun rhannu am y daith y tu ôl i’r brand, yr ysbrydoliaeth sy’n ei yrru, a sut mae RCT wedi helpu i lunio ei ddyfodol.
Sut mae RCT wedi cynorthwyo eich busnes chi?
Roedd cyfraniad RCT yn allweddol wrth ddod â ni i’r man hwn. O'r cychwyn cyntaf, mae Mandy, Rheolwr Perthnasoedd RCT, a'r tîm o hyfforddwyr arbenigol wedi fy helpu i strwythuro ac egluro fy syniadau. Roedd eu cyngor yn cynnwys sawl maes, o hawlfraint ac optimeiddio chwilotwyr i gynaliadwyedd, datblygu gwefannau, a chynllunio ôl troed carbon.
Roedd cymryd rhan yn Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes 2024 yn arbennig o werthfawr. Rhoddodd y lle i mi ddatblygu strategaeth fusnes fanwl, gosod cerrig milltir realistig, a rhoi min ar fy nghynnig trwy ddigwyddiad arddangos terfynol. Rhoddodd RCT yr offer ymarferol a’r hyder i mi symud ymlaen yn fwriadus.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i sefydlu Oes Gafr Eto?
Daeth y syniad gan ffrindiau a oedd yn teimlo bod lle i frand dillad a oedd yn cofleidio’n llawn ddiwylliant ac iaith Cymru, rhywbeth a oedd wedi'i wreiddio mewn realiti yn hytrach nag ystrydebau. Roeddem ni am greu rhywbeth gwahanol a fyddai’n dathlu Cymreictod mewn ffordd newydd.
Daeth yr afr yn symbol canolog i ni. Mae hi'n wydn, yn gallu addasu, ac yn gallu ffynnu mewn amgylcheddau garw – sydd, i ni, yn drosiad pwerus o'r Gymraeg a thaith ddiwylliannol a dinesig Cymru. Mae ein casgliad “Crwydro” yn cyfleu’r syniad o symud, goroesi a lliw, gan ddefnyddio traddodiadau a chaneuon gwerin.
Beth yw eich cenhadaeth chi fel busnes?
Rydyn ni am wneud i fasnach ddwyieithog deimlo’n naturiol ac yn rhan o’r brif ffrwd yng Nghymru. Mae OGE yn bodoli i helpu pobl i ymgysylltu â'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd – nid trwy rwymedigaeth ond chwilfrydedd, creadigrwydd a balchder.
Rydyn ni hefyd yn credu’n gryf yn nyfodol gweithgynhyrchu Cymru. Er y gallai'r ffatrïoedd tecstilau ar raddfa fawr fod wedi mynd, mae marchnad gynyddol ar gyfer dillad cynaliadwy, o ansawdd uchel a wnaed yn lleol. Rydyn ni am fod yn rhan o’r stori honno.
Pa heriau ydych chi wedi eu wynebu ar y ffordd?
Un o'r heriau mwyaf oedd diweddaru ein logo gwreiddiol i rywbeth mwy modern a mirain wrth gadw ei gymeriad. Roedd angen amser hefyd cyn dod o hyd i bartner cynhyrchu i fodloni ein disgwyliadau ar gyfer brodwaith a phrintio.
Rydyn ni wedi gwneud hyn heb arian hau, felly roedd rhaid ystyried pob cam yn ofalus. Mae cymorth RCT wedi fy helpu i wneud y dewisiadau hynny â meddwl clir a golwg hirdymor.
Pa gerrig milltir sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi?
Roedd lansio ein gwefan ddwyieithog yn dipyn o gamp. Mae’n cynrychioli ein gwerthoedd ac yn rhoi platfform cryf i ni adeiladu arno. Mae eisoes yn ein helpu ni i gysylltu â chwsmeriaid newydd a sefydlu presenoldeb brand.
Rydyn ni hefyd wedi dechrau ail-greu momentwm drwy ddigwyddiadau megis Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol ac mae gennym ni gynlluniau i dyfu ymhellach trwy'r mannau hynny sydd dan arweiniad y gymuned.
Beth yw eich cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol?
Ein nod ni yw dod â staff marchnata a gwerthu i mewn, yn ddelfrydol trwy brentisiaethau, a all dyfu gyda'r busnes. Rydym hefyd eisiau archwilio partneriaethau ailwerthwyr yn rhyngwladol, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â chymunedau Cymreig cryf.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?
Peidiwch â gadael i siomedigaethau eich digalonni chi – maen nhw’n rhan o’r broses. Un o’r dywediadau Cymraeg rwy’n dod yn ôl ato bob tro yw “Dyfal donc a dyr y garreg”. Daliwch ati.
Y peth pwysicaf yw aros yn driw i’ch gweledigaeth chi ac amgylchynu’ch hun â phobl sy'n eich cefnogi ac sy’n eich herio chi. Dyna yn union y mae RCT wedi’i wneud i mi.
Cliciwch yma i ddysgu sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.
I gael rhagor o wybodaeth am Oes Gafr Eto, ewch i www.oge.cymru neu dilynwch @Oes_Gafr ar Instagram.