Mewn dim ond pum mlynedd, mae Laura Mallows wedi troi Mallows Beauty o fenter newydd gychwyn i frand harddwch ffyniannus gyda dilynwyr yn fyd-eang. Mae’r cwmni, a seiliwyd yn 2020 ac wedi’i leoli yn Llantrisant, wedi cipio calonnau gyda’i ethos moesegol, grymusol, ac agwedd gadarnhaol at groen.
Gan ddathlu croen go iawn a chyrff go iawn, mae’r brand bellach yn cyflogi 25 o bobl, mae ganddo drosiant o £5 miliwn, ac mae’n cael ei stocio gan fanwerthwyr blaenllaw fel Boots, Superdrug, ac Oliver Bonas.
Serch hynny, roedd yna heriau ar hyd y daith. O oresgyn syndrom y ffugiwr i godi graddfa gweithrediadau, bu gwydnwch a gweledigaeth Laura yn allweddol i’w llwyddiant. Ar hyd y ffordd, roedd cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP) a Banc Datblygu Cymru yn ganolog wrth weddnewid Mallows Beauty o brosiect angerdd yn frand â chydnabyddiaeth fyd-eang.
Yma, mae Laura Mallows yn rhannu sut y trodd ei busnes yn frand byd-eang a sut y cefnogodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ei thaith wrth dyfu.
Sut mae tîm BWAGP wedi cefnogi Mallows Beauty?
Mae tîm BWAGP wedi chwarae rôl sylweddol yn ein llwyddiant. Maen nhw wedi ein harwain wrth ddatblygu systemau TG a mireinio’n dadansoddeg data, gan ein helpu i wneud penderfyniadau busnes gwell. Yn ogystal, gwnaethant ein helpu i wella ein hoptimeiddio peiriant chwilio er mwyn cyrraedd sylfaen gwsmeriaid ehangach ar-lein, a fu’n hanfodol i’n twf.
Mae’r Banc Datblygu wedi darparu ecwiti a chyllid dyled, gan ganiatáu i ni ehangu graddfa cynhyrchu, buddsoddi yn ein tîm, a pharatoi am ehangu’n rhyngwladol i mewn i’r Unol Daleithiau.
Wrth i ni dyfu, rwy wedi sylweddoli pwysigrwydd meithrin rhwydwaith cefnogaeth cryf. Mae cael pobl o’m cwmpas sy’n credu yn fy ngweledigaeth ac sy’n gallu rhoi arweiniad yn gwneud byd o wahaniaeth. Rwy’n troi at fy Rheolwr Cysylltiadau BWAGP, Howard Jones, pryd bynnag mae angen cyngor da arnaf. Fel sylfaenydd, mae cael cynghorydd arbenigol o’r fath wrth fy ochr yn amhrisiadwy. Mae mynediad i rwydwaith hyfforddwyr arbenigol y rhaglen o fudd aruthrol hefyd.
Allwch chi ddweud wrthym sut dechreuodd Mallows Beauty a beth a’ch ysbrydolodd?
Sefydlais i Mallows Beauty o ganlyniad i’m taith bersonol. Rwy wedi dioddef gyda gorbryder y rhan fwyaf o’m bywyd, ond doeddwn i ddim yn deall hynny’n llawn nes i mi dorri i lawr wrth weithio yn Llundain. Roedd fy ffrindiau a’m teulu’n garreg i mi bryd hynny a chefais gysur mewn defodau bach o hunan-ofal; ymwybyddiaeth ofalgar, ymarfer corff a masgiau wyneb.
Ar yr un pryd, teimlais rwystredigaeth am safonau afrealistig y diwydiant harddwch a’u tuedd i farchnata ar sail ansicrwydd yn hytrach nag atebion. Roeddwn i am greu rhywbeth a ddathlodd groen go iawn a chyrff go iawn - cynhyrchion sy’n gwneud i bobl deimlo’n dda heb y pwysau i edrych yn berffaith.
Pa heriau oeddech chi’n eu hwynebu fel entrepreneur?
Un o’m heriau pennaf fel menyw ifanc oedd i bobl fy nghymryd o ddifrif. Teimlais yn aml fy mod yn cael fy niystyried wrth gyflwyno fy syniadau neu chwilio am gyllid a daeth syndrom y ffugiwr i’r amlwg. Ychwanegodd y pandemig haen arall o gymhlethdod, pan fu’n ofynnol i ni droi’n gyflym i ganolbwyntio ar sianeli digidol.
Defnyddiom ni blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok i’n hachub, gan greu cynnwys dilys ac ymgysylltu â’n cynulleidfa i feithrin cymuned ffyddlon. Canolbwyntiodd ein strategaeth farchnata ar ddilysrwydd ac roedd hynny’n ystyrlon i bobl. Rydym ni wedi dangos hynny trwy dwf carlam ein cynulleidfa. Erbyn hyn mae gennym ni hanner miliwn o ddilynwyr ar TikTok a 75,000 ar Instagram.
Beth fu’ch eiliadau mwyaf balch hyd yma?
Mae dau eiliad sy’n amlwg: genedigaeth fy merch Arabelle, a dysgu cydbwyso bod yn fam a rhedeg busnes sy’n tyfu ar garlam. Bu’n daith anhygoel o dyfu ac ymaddasu.
Fy ail eiliad mwyaf balch oedd gweld Mallows Beauty yn cael ei lansio mewn 550 o siopau Superdrug ledled y DU. Bu’n hynod o foddhaus gweld ein cynhyrchion ar gael i gynifer o bobl a derbyn adborth cadarnhaol gan gwsmeriaid.
Pa wersi ydych chi wedi’u dysgu fel perchennog busnes?
Un o’r gwersi pwysicaf rwy wedi’u dysgu yw gwerth bod yn hyblyg. Mae cynnal busnes yn golygu dysgu’n gyson a bod yn agored i newid, boed gwneud mân newid i gynnyrch, mireinio strategaethau marchnata, neu ymateb i adborth cwsmeriaid.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i egin entrepreneuriaid?
- Ymchwiliwch yn drylwyr i’ch marchnad a’ch cynhyrchion cyn lansio. Mae deall beth mae ei eisiau ar eich cwsmeriaid yn allweddol
- Peidiwch â gadael i syndrom y ffugiwr eich dal yn ôl. Credwch ynoch eich hun a’ch gweledigaeth - rydych chi’n haeddu llwyddo
- Byddwch yn eofn a chymerwch risgiau. Mae angen dewrder i dyfu, felly peidiwch ag oedi cyn estyn graddfa’n gyflym pan ddaw’r adeg gywir
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Mallows Beauty.