Cwmni prostheteg LIMB-art sy’n tyfu’n gyflym yn nodi canmlwyddiant yr Urdd mewn modd arbennig.
Cafodd y gorchudd coes gwladgarol ei ddylunio gan Sean Mason a Mark Williams, sef sefydlwr LIMB-art, a’i ddadlennu yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Sefydlwyd LIMB-art yn 2018 gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal paralympaidd Mark Williams, a’i wraig Rachel. Crëwyd y cwmni o ganlyniad i awydd dirfawr i helpu defnyddwyr prosthetigau i fod yn fwy hyderus, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt ac, yn syml iawn ond yr un mor bwysig, cael...