Deallusrwydd Artiffisial

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn trawsnewid y ffordd y mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, cystadlu ac yn tyfu.

O helpu busnesau newydd i fabwysiadu offer digidol i helpu cwmnïau sefydledig i symlhau gweithrediadau, mae AI yn cynnig ffyrdd ymarferol o wella cynhyrchiant, gwella gwneud penderfyniadau, a datgloi cyfleoedd newydd. 

I gefnogi busnesau i ddeall a mabwysiadu AI gyda hyder, mae Busnes Cymru wedi datblygu ac yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaCh). Diddordeb mewn dysgu mwy am ddeallusrwydd artiffisial (AI)? Mae Busnes Cymru yn cynnal amrywiaeth o weminarau a digwyddiadau, cliciwch ar y ddolen yma Digwyddiadur Busnes Cymru i gofrestru ac i wybod mwy.

Mae’r cymorth hwn wedi’i gynllunio i helpu busnesau i feithrin hyder, adnabod achosion defnydd ymarferol, a chymryd y camau cyntaf gwybodus tuag at fabwysiadu AI yn gyfrifol. Byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth yn fuan am y sesiynau codi ymwybyddiaeth a sut i gofrestru.

Cadwch lygad ar y dudalen hon, neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y manylion diweddaraf.

I gael Canllawiau ar gadw'n ddiogel ar-lein a diogelu eich data, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru


Cefnogaeth ar gael ar hyn o bryd:

Defnyddio AI yn Eich Busnes (modiwl e-ddysgu). Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall manteision a risgiau defnyddio AI, a sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ar gyfer busnes.

Rydym wedi cyflwyno cynllun peilot newydd o fewn y rhaglen i gefnogi hyfforddiant AI er mwyn helpu busnesau ym mhob sector yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o AI a meithrin sgiliau ymarferol.

Ymunwch â’n gweithdai wyneb yn wyneb ledled Cymru i ddysgu ffyrdd ymarferol syml i chi ddefnyddio offer AI i greu cynnwys, cysylltu â chwsmeriaid, cryfhau eich presenoldeb ar-lein a helpu i droi ymholiadau'n archebion.


Beth yw AI?

Mae dealltwriaeth AI yn efelychu dealltwriaeth dynol mewn peiriannau. Mae’n eu galluogi i ddysgu, datrys problemau, canfod gwybodaeth a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddadansoddi data.

Mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn hynod bwerus ac o bosibl yn drawsnewidiol, ond maent hefyd yn golygu risgiau. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn deall y technolegau hyn yn well, gan gynnwys eu cyfyngiadau, fel eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd cywir.  

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.


Digwyddiadau Deallusrwydd Artiffisial

Sylwer: Mae Digwyddiadur Busnes Cymru yn hyrwyddo digwyddiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys ein gwasanaethau ni'n hunain. Efallai na fydd manylion ar gyfer digwyddiadau trydydd parti dan arweiniad sefydliadau preifat neu drydydd sector ar gael yn y Gymraeg.
Cyflymydd AI 2 ddiwrnod, wyneb yn wyneb ar gyfer busnesau...
Gweithdy ymarferol gyda Web Adept ar gyfer BBaChau...
Digwyddiad rhwydweithio anffurfiol, wyneb yn wyneb...
Gweminar ymarferol gyda IT Associates ar gyfer BBaChau...
Gweithdy  ymarferol   ...
Gweld pob digwyddiad

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.