CuddleShare

O farchnad ar-lein i gynorthwyydd deallus: sut mae CuddleShare yn defnyddio AI i drawsnewid prynu a gwerthu ar gyfer rhieni

Mae CuddleShare, cwmni newydd o Gymru a sefydlwyd gan yr entrepreneur Ray Hariharan, yn ailystyried sut mae rhieni a theuluoedd yn prynu ac yn gwerthu eitemau ail-law ar gyfer plant. Mae’r llwyfan, a gafodd ei adeiladu’n benodol ar gyfer rhieni, yn cyfuno technoleg marchnad ar-lein ag AI i wneud y broses yn gyflymach, yn symlach ac yn fwy dibynadwy.

Ar ôl cael ei lansio’n wreiddiol fel marchnad ar-lein draddodiadol, fe wnaeth y busnes sylwi’n gyflym bod lle i ddefnyddio AI i ddatrys rhai o’r rhwystredigaethau mwyaf mae rhieni’n eu hwynebu wrth brynu a gwerthu ar-lein, o greu rhestr o’r eitemau a dod o hyd i’r cynnyrch cywir i drafod prisiau a chreu ymddiriedaeth rhwng defnyddwyr.

“Pan ddechreuodd technoleg AI ddod i’r amlwg, sylweddolais fod cyfle i ailystyried yn llwyr sut mae marchnadoedd ar-lein yn gweithio.”

Yr Her

Fel sylfaenydd a rhiant, profodd Ray drosto’i hun faint o amser a pha mor rhwystredig y gall marchnadoedd ar-lein sy’n bodoli’n barod fod. Yn aml, mae rhieni’n treulio oriau yn chwilio drwy restrau, yn creu hysbysebion, yn negodi prisiau ac yn ceisio penderfynu a yw’r cynnyrch a’r gwerthwyr yn ddibynadwy.

Er bod llawer o farchnadoedd ar-lein yn cynnig llwyfan i brynwyr a gwerthwyr gysylltu, maen nhw’n dal i ddibynnu’n fawr ar ddefnyddwyr i reoli’r broses gyfan eu hunain. Roedd CuddleShare eisiau creu rhywbeth gwahanol: llwyfan sy’n helpu teuluoedd i gwblhau trafodion yn fwy effeithlon a gyda mwy o hyder.

Yr her oedd nid yn unig datblygu busnes technoleg newydd o’r dechrau, ond hefyd nodi sut y gellid defnyddio AI i ddatrys problemau cwsmeriaid go iawn mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon.

“Mae datblygu cwmni newydd yn heriol oherwydd eich bod chi’n gwisgo sawl het yn gyson.”

Sut helpodd Busnes Cymru

Drwy gydol taith CuddleShare, darparodd Busnes Cymru arweiniad, mentora a chefnogaeth i helpu i siapio’r busnes a chryfhau ei gynlluniau twf.

Helpodd Busnes Cymru y cwmni i wneud y canlynol:

  • mireinio ei strategaeth fusnes
  • cryfhau cynlluniau twf hirdymor
  • archwilio cyfleoedd ariannu
  • cael mentora ac arweiniad arbenigol
  • meithrin hyder wrth wneud penderfyniadau busnes allweddol
  • herio a datblygu syniadau wrth i’r busnes esblygu

Darparodd y gefnogaeth arbenigedd gwerthfawr mewn cyfnod hollbwysig o ddatblygiad i’r cwmni, gan helpu i droi syniad uchelgeisiol yn fusnes technoleg y gellir ei dyfu.

Y Canlyniad

Heddiw, mae AI wrth wraidd gweledigaeth CuddleShare ar gyfer y dyfodol. Mae’r llwyfan yn datblygu offer deallus sy’n helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnyrch perthnasol, symleiddio’r broses o greu rhestrau eitemau a chefnogi trafodaethau rhwng prynwyr a gwerthwyr.

Ar gyfer cwmni newydd sy’n gweithredu gydag adnoddau cyfyngedig, mae AI hefyd wedi galluogi’r busnes i symud yn gyflymach a chyflawni mwy gyda thîm llai. Mae’n cefnogi gweithgarwch gan gynnwys datblygu cynnyrch, marchnata, cyfathrebu â chwsmeriaid a dadansoddi data, gan helpu’r cwmni i weithredu’n fwy effeithlon wrth ganolbwyntio ar arloesedd a darparu gwerth i gwsmeriaid.

"Mae AI wedi ein galluogi i symud ar gyflymder cwmni llawer mwy gan aros yn ddifloneg."

Mae’r busnes bellach yn gweithio tuag at ddyfodol lle mae AI yn gweithredu fel cynorthwyydd siopa personol i bob defnyddiwr, gan helpu i bersonoli argymhellion, canfod twyll, gwirio rhestrau eitemau a chefnogi trafodion mwy effeithlon.

"Mae marchnadoedd ar-lein presennol yn cysylltu prynwyr a gwerthwyr. Mae CuddleShare yn defnyddio AI i’w helpu i lwyddo.”

Cyngor Busnes: Defnyddio AI yn eich busnes

Mae profiad CuddleShare yn tynnu sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid yn gyntaf a defnyddio AI i ddatrys heriau busnes go iawn yn hytrach na mabwysiadu technoleg er ei les ei hunan.

Gan CuddleShare:

"Peidiwch â mabwysiadu AI dim ond oherwydd ei fod yn boblogaidd. Dechreuwch drwy ddeall y problemau mae eich cwsmeriaid yn eu hwynebu, yna nodwch ble gall AI greu gwerth gwirioneddol. A pheidiwch ag aros i bopeth fod yn berffaith. Dechreuwch yn fach, dysgwch yn gyflym ac ewch ati i wella’n barhaus."

Y gefnogaeth sydd ar gael

Os ydych chi’n archwilio sut y gallai AI gefnogi eich busnes, gall Busnes Cymru eich helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael a datblygu’r hyder i fabwysiadu AI mewn ffordd ymarferol ac effeithiol.

Mae’r modiwl e-ddysgu Defnyddio AI yn eich Busnes yn rhoi arweiniad ar ddod i ddeall AI, nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, a mabwysiadu offer AI yn gyfrifol.

Mae cymorth ychwanegol hefyd ar gael drwy’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a chymorth ehangach gan gynghorwyr Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.