Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda chymorth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Beth yw'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg?

Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi busnesau ledled Cymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a meithrin gweithlu cryfach a mwy medrus.

Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu am 50% o'r costau hyfforddi achrededig, a gall bob cais ofyn am hyd at £50,000 o gyfraniad. Nid oes isafswm terfyn cyllid a gellir gwneud sawl cais yn ystod y flwyddyn.

P’un ichi fod yn chwilio am lenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.

Rydym wedi cyflwyno cynllun peilot newydd o fewn y rhaglen i gefnogi hyfforddiant AI er mwyn helpu busnesau ym mhob sector yng Nghymru i gael gwell dealltwriaeth o AI ac adeiladu arbenigedd mewn meysydd fel achosion defnydd, dysgu peiriannau, gwyddor data, a moeseg AI. 

Mae'r gefnogaeth hon yn sicrhau bod eich gweithlu yn barod i fanteisio ar AI ar gyfer arloesi a thwf. Ar gyfer y cynllun peilot hwn bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfraniad o 75% at gostau hyfforddi – i ofyn am ffurflenni cais cysylltwch â dfesrm@llyw.cymru.

Pwy sy'n gymwys:

Mae cyllid ar gael i gyflogwyr yn y mwyafrif llethol o ddiwydiannau ledled Cymru. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid iddo fod yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gwblhau'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2026. 

Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y rhaglen hon fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.

Dalier sylw: Rhoddir y cyllid yn ôl disgresiwn a chan Lywodraeth Cymru fydd y penderfyniad terfynol ynghylch cymhwysedd. 

Sut i wneud cais

Mae gwneud cais yn syml. Dyma ganllawiau cam wrth gam ar sut i wneud hynny.

  1. Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb: Gall busnesau gyflwyno ffurflen gychwynnol ar wefan Busnes Cymru, gyda'r opsiwn o gymorth gan Reolwr Perthynas. Cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb heddiw.
  2. Gwirio Cymhwystra Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Datganiad o Ddiddordeb i sicrhau bod y busnes yn bodloni'r meini prawf.
  3. Cyflwyno cais Os yw'n gais cymwys, gwahoddir busnesau i gyflwyno ffurflen gais fanwl.
  4. Cymeradwyo: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael llythyr dyfarnu grant sy'n nodi telerau'r cynnig cyllid.  Bydd penderfyniadau fel arfer yn cael eu gwneud o fewn 10 diwrnod gwaith.
  5. Cyllid: Bydd 50% o'r costau hyfforddi cymeradwy yn cael eu had-dalu i'r ymgeisydd ar ôl cwblhau'r cyrsiau.
     

Dalier Sylw: Nid yw cwblhau Datganiad o Ddiddordeb yn sicrhau cyllid. Mae pob cais yn cael ei brofi ar sail y meini prawf cymhwysedd a'r arian sydd ar gael. Os nad ydych chi'n gymwys, byddwn yn eich cysylltu â chi i drafod opsiynau cymorth eraill.

Os yw’ch cais yn cael ei gymeradwyo

Bydd pob cwrs hyfforddi cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm y costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Gwneir y taliad mewn ôl-daliadau yn amodol ar ddarparu tystiolaeth angenrheidiol o’r canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi mynychu’r cwrs yn llawn a/neu wedi’i gwblhau, a
  • thystiolaeth o gostau'r darparwr hyfforddiant a'r taliad a wnaed.

Gellir gwneud sawl cais i'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn ystod y flwyddyn.

Y Camau Nesaf a Datganiad o Ddiddordeb

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.

Sectorau blaenoriaeth

Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi'i strwythuro o amgylch 8 sector blaenoriaeth / thema fusnes:

  • Sgiliau AI (peilot yn rhedeg tan ddiwedd Mawrth 2026)
  • Sgiliau Sero Net
  • Sgiliau Coedwigaeth a’r Cadwyn Cyflenwi Pren
  • Sgiliau Digidol
  • Sgiliau Allforio
  • Hyfforddiant Peirianneg a Gweithgynhyrchu
  • Sgiliau a Hyfforddiat y Sector Creadigol
  • Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch
  • Sgiliau Arwain a Rheoli

Gall cwmnïau wneud cais am gymorth o bob rhan o'r gwahanol sectorau fel rhan o un cais.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o'r sectorau / themâu blaenoriaeth, gan gynnwys enghreifftiau o'r meysydd hyfforddiant a gymeradwywyd ymlaen llaw ym mhob un ohonynt i'w gweld isod.

Sgiliau Digidol ac Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sydd eisiau uwchsgilio eu gweithlu mewn sgiliau digidol a deallusrwydd artiffisial (AI) uwch. Mae’n fwy tebygol y bydd y rhaglen yn addas i gwmnïau sy’n gweithredu yn y sectorau digidol neu dechnoleg, er bod ceisiadau yn cael eu croesawu gan fusnesau mewn unrhyw sector ac o unrhyw ran o Gymru.

Mae arian ar gael i gefnogi gweithwyr busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i fynychu cyrsiau hyfforddiant sydd wedi’u canolbwyntio ar dechnoleg, digidol, neu AI. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r meysydd hyfforddiant y gellir eu cefnogi o dan y cynllun:

HyfforddiantEnghreifftiau
Datblygu meddalwedd a chymwysiadau gweRhaglennu; Profi; Trwsio bygiau; Methodoleg ystwyth; Awtomeiddio prosesau robotig; Deallusrwydd artiffisial.
Rheoli prosiectau technolegDatblygu meddalwedd; Seilwaith TG (dylunio rhwydwaith, gosod a gweithredu); Systemau gwybodaeth; Technoleg gyfriadol.
Dadansoddi data a gwyddoniaeth dataMwyngloddio data; Integreiddio data; Deallusrwydd busnes; Cymwysiadau ystadegol; Dysgu peiriant.
Diogelwch Gwybodaeth a SeiberddiogelwchRheoli data; Amddiffyn data; Asesiad risg; Peirianneg gymdeithasol; Phishing ac ymosodiadau seiber eraill.
Sgiliau penodol i AIDysgu peiriant; Dysgu dwfn; Prosesu iaith naturiol; Moeseg AI; Gosod a integreiddio AI.

Hyfforddiant mewn sectorau blaenoriaeth


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.