Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg DoD
Diolch i chi am fynegi diddordeb ym Mhrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Bydd y cwestiynau canlynol yn ein cynorthwyo i benderfynu sut i gyfeirio’ch ymholiad yn briodol. Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’n tîm Sgiliau a fydd angen cynnal gwiriadau pellach cyn ymateb.
Dydy cwblhau’r Datganiad o Ddiddordeb ddim yn gwarantu bod eich busnes yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen; rhaid i geisiadau fodloni’r holl feini prawf cymhwysedd ac mae’n rhaid i’r arian fod ar gael. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n gweithio gyda darparwyr a rhaglenni eraill a allai eich helpu.
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith gyda ffurflen gais lawn a chyfle i drafod eich gofynion yn fwy manwl.