Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Ydy sgiliau cyfredol eich busnes yn cyfyngu ar ei lwyddiant? 

Ydy’ch busnes chi'n ystyried cyfle busnes newydd, technoleg newydd, cynllun ehangu a thwf? 

Mae’n bosib iawn y gall ein rhaglenni eich helpu chi gyda chymorth ariannol tuag at uwchsgilio'ch staff. Ar hyn o bryd mae gennym ni raglenni penodol a fydd yn helpu gyda’r canlynol: 

  • datblygu sgiliau digidol uwch;
  • mynd i'r afael â heriau sgiliau sy'n gysylltiedig ag allforio;
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau yn y diwydiant Peirianneg a Chynhyrchu
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector creadigol
  • cefnogaeth i ddatblygu sgiliau i gynorthwyo heriau Sero Net
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector Twristiaeth a Lletygarwch

Pwy sy'n Gymwys

Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gyflawni'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2026. 

Rhaid i'r hyfforddiant hyrwyddo dysgu'r unigolion sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r meysydd a restrir yn y tabl uchod.

Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant hyrwyddo dysgu'r unigolion sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r meysydd a restrir yn y tabl uchod.

Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant wella gallu neu gapasiti’r busnes.

Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ar gymhwysedd.

Y Camau Nesaf a Datganiad o Ddiddordeb

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.

Sgiliau Sero Net

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol tuag at gostau hyfforddi staff cyflogwr yng Nghymru, i'w helpu i fynd i'r afael â heriau Sero Net. Gwahoddir ceisiadau gan fusnesau o unrhyw sector ac o unrhyw ran o Gymru.

Sgiliau Coedwigaeth a’r Gadwyn Cyflenwi Pren

Diben y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sy'n dymuno mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau a gwella sgiliau eu gweithluoedd a helpu i ddatblygu gweithlu hyblyg ym maes Coedwigaeth ac yn y Gadwyn Cyflenwi Pren yng Nghymru

Sgiliau Digidol

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n dymuno uwchsgilio'u gweithluoedd gyda sgiliau digidol uwch. Mae'r rhaglen yn debygol o fod yn fwyaf addas i gwmnïau sy'n gweithredu yn y sector digidol, er y gwahoddir ceisiadau gan fusnesau o unrhyw sector ac o unrhyw ran o Gymru.

Sgiliau Allforio

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sy'n dymuno gwella'u galluoedd allforio. Mae'r rhaglen yn targedu’r busnesau hynny sydd ar hyn o bryd yn allforio neu sy'n bwriadu sefydlu gallu i allforio. Yn yr hinsawdd ansicr sydd ohoni, efallai y bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ddatblygu arbenigedd a gwybodaeth am allforio.

Sectorau Peirianneg a Cynhyrchu

Ydych chi'n fusnes Peirianneg neu Cynhyrchu yng Nghymru?

Manylion y Rhaglen: Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau Peirianneg a Cynhyrchu i uwchsgilio'u gweithluoedd.

Sector Creadigol

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n gweithredu yn y sector creadigol i uwchsgilio'u gweithluoedd.

Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch

Nod y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sydd am wella sgiliau eu gweithlu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.