Craven Cooling

O bwysau amser i weithio’n ddoethach: sut mabwysiadodd Craven Cooling dechnoleg AI gyda chefnogaeth Busnes Cymru

Roedd Craven Cooling, busnes teuluol yn Abertawe sy’n darparu systemau oeri masnachol, eisoes yn archwilio sut y gallai deallusrwydd artiffisial (AI) wneud gwaith bob dydd y cwmni’n haws. Gyda thîm bach yn gyfrifol am bob cam, o gymorth i gwsmeriaid a chontractau i greu cynnwys a diweddaru’r wefan, roedd y busnes eisiau arbed amser, lleihau pwysau a chreu mwy o le i ganolbwyntio ar dwf.

Gyda chefnogaeth gan Fusnes Cymru, llwyddodd Craven Cooling i ddatblygu’r hyn roedd eisoes wedi’i ddechrau, gan ddefnyddio AI yn fwy hyderus ar draws y busnes a throi arbedion amser bach yn gyfle mwy ar gyfer gweithio’n ddoethach.

“Tîm bach ydyn ni, ac mae pawb yn gwisgo tua pum het wahanol. Doedd dim digon o oriau yn y dydd.”

Yr Her

Fel llawer o fusnesau bach, roedd Craven Cooling yn cydbwyso gwaith arbenigol â gofynion bob dydd rhedeg a thyfu busnes.

Roedd y tîm eisoes yn arbrofi gydag AI ond roedden nhw am ddeall sut y gellid ei ddefnyddio’n fwy effeithiol ar draws y busnes. Roedden nhw’n chwilio am ffyrdd ymarferol o arbed amser, cynyddu effeithlonrwydd a chreu mwy o gapasiti i ganolbwyntio ar gwsmeriaid a thwf.

Sut helpodd Busnes Cymru

Drwy Raglen Cymorth Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI Busnes Cymru, roedd y busnes yn gallu edrych ar ble y gallai AI gael yr effaith fwyaf, nodi offer ychwanegol, ac ymgorffori AI mewn gweithrediadau bob dydd mewn ffordd ymarferol.

Gan weithio gyda Busnes Cymru, roedd modd i’r cwmni:

  • nodi lle gallai AI arbed y mwyaf o amser
  • archwilio offer i gefnogi prosesau marchnata, gweinyddu, ymchwil ac ymholiadau cwsmeriaid
  • gwirio sut roedd AI eisoes yn cael ei ddefnyddio
  • meithrin hyder wrth ddefnyddio AI ar draws gwahanol feysydd y busnes
  • deall sut y gallai AI gefnogi twf yn y dyfodol

Y Canlyniad

Mae ystod o weithgareddau ar draws y busnes bellach yn cael eu cefnogi gan AI, o greu cynnwys a rheoli gwefannau i weinyddu, ymchwil a chymorth i gwsmeriaid. O ganlyniad, mae tasgau marchnata a oedd ar un adeg yn cymryd oriau bob wythnos bellach yn llawer cyflymach i’w cyflawni, gan ryddhau capasiti i ganolbwyntio ar gwsmeriaid, contractau a chyfleoedd newydd.

“Mae pob awr rydyn ni’n ei harbed yn awr y gallwn ni ei rhoi yn ôl i dyfu’r busnes.”

Mae hefyd wedi newid sut mae’r tîm yn gweithio o ddydd i ddydd, gan feithrin hyder a lleihau pwysau.

“Mae e fel cael arbenigwr wrth law. Mae wedi rhoi’r hyder i fi ymgymryd â mwy.”

Cyngor Busnes: Defnyddio AI yn eich busnes

Nid oes angen i fusnesau sy’n ystyried defnyddio AI newid popeth dros nos. Mae profiad Craven Cooling yn dangos bod modd darparu buddion go iawn drwy ddechrau gyda chamau bach, meithrin hyder a chanolbwyntio ar heriau busnes ymarferol.

Gan Craven Cooling:

  • "Dechreuwch drwy ganolbwyntio ar un dasg sy’n cymryd eich amser a rhowch gynnig ar ddefnyddio AI ar honno yn gyntaf."
  • "Does dim rhaid i chi fod yn gwmni technoleg i’w ddefnyddio."
  • "Rhowch amser i chi’ch hunan ddysgu, mae’n mynd yn haws yn gyflym."

Y gefnogaeth sydd ar gael

Os ydych chi’n archwilio sut y gallai AI gefnogi eich busnes, gall Busnes Cymru eich helpu i feithrin hyder a deall ble gallai’r dechnoleg gael yr effaith fwyaf.

Mae’r modiwl e-ddysgu Defnyddio AI yn eich Busnes yn rhoi arweiniad ymarferol ar sut i ddefnyddio AI yn ddiogel ac yn effeithiol, nodi cyfleoedd i arbed amser a gwella cynhyrchiant, a deall sut y gallai AI gefnogi twf eich busnes yn y dyfodol.

Mae cymorth ychwanegol hefyd ar gael drwy’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a chymorth ehangach gan gynghorwyr Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.