
Bydd unigolion a busnesau yng Nghymru yn elwa ar gynnydd o tua chwe gwaith i'r cymhorthdal sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd hyfforddi achrededig.
Gyda Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei buddsoddiad yn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg o £1.3 miliwn y flwyddyn i dros £7.5 miliwn, bydd cymorth ar gael i weithwyr fanteisio ar filoedd o leoedd unigol ar gyrsiau hyfforddi ar gyfer uwchsgilio neu ailsgilio.
Mae'r ehangu hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weld Cymru sy’n cael ei gyrru gan swyddi a thwf gwyrdd, ac yn dilyn galw cynyddol gan gyflogwyr Cymru am gymorth i ddatblygu sgiliau gweithwyr mewn ymateb i ddiwydiannau sy'n newid a thechnolegau newydd. Bydd ffocws penodol ar gefnogi sectorau allweddol a sgiliau angenrheidiol megis: Peirianneg a Gweithgynhyrchu; Digidol/Seiber; sgiliau gwyrdd; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.
Gall unrhyw gyflogwr wneud cais am y grant sydd yno i helpu busnesau i ymateb yn gyflym i fylchau sgiliau yn y farchnad, gyda Llywodraeth Cymru yn talu 50% o gostau hyfforddiant busnes (hyd at £50,000 y busnes y flwyddyn).
Lansiwyd y cynllun estynedig heddiw, ar ddiwrnod cyntaf wythnos Dysgu yn y Gwaith [dydd Llun, Mai 12] yn adeilad IQ Endoscopes (IQE), cwmni dyfeisiau meddygol arloesol newydd sydd wedi gweld drosto'i hun pa wahaniaeth y gall y cyllid ei wneud.
Mae IQE ar fin gosod ei ddyfais gyntaf ar farchnad y Deyrnas Unedig – endosgop fforddiadwy, di-haint a chynaliadwy a fydd yn galluogi diagnosis cynnar cyflym i helpu i leihau amseroedd aros cleifion a helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach. Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi eu galluogi i gefnogi dros 170 o gyfleoedd hyfforddi technegol neu arweinyddiaeth a rheoli unigol i'w staff dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni ganlynol:
- Cynllun llwyddiannus i lenwi'r bwlch sgiliau yn ehangu’n sylweddol | LLYW.CYMRU
- Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn rhoi hwb i dwf a datblygiad IQ Endoscopes | Busnes Cymru
- Ogi yn grymuso twf a datblygiad staff gyda'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru
- Ramsay and White yn defnyddio Twf Swyddi Cymru+ i recriwtio a hyfforddi staff newydd | Busnes Cymru