
Mae Ogi, y darparwr band eang o Gymru, yn creu cryn argraff yn y sector telathrebu – nid yn unig am ddarparu band eang ffeibr llawn cyflym iawn, ond am fuddsoddi'n helaeth yn ei bobl.
Ers ei lansio yn ystod y pandemig yn 2021, mae Ogi wedi ehangu'n gyflym o 20 o weithwyr i dros 200, ac mae bellach yn gweithredu ledled y De, o Aberdaugleddau i Drefynwy. Gyda'r twf hwn mae yna ffocws cryf ar ddatblygu staff, ac mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg – a ariennir gan Lywodraeth Cymru – wedi chwarae rhan ganolog, gan ddarparu hyd at 50% tuag at gostau hyfforddiant.
Mae Ogi wedi elwa ar y rhaglen i fuddsoddi'n sylweddol yn ei weithlu. Dywedodd Louise Mumford, y Rheolwr Dysgu a Datblygu:
Yn Ogi, rydyn ni’n ddeinamig, yn fywiog ac yn falch o fod yn Gymry. Mae dysgu yn hanfodol i'n strategaeth, gan sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu.
Rydyn ni wedi defnyddio'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg i helpu i ariannu ein hyfforddiant 'Milltir Olaf' – rhaglen arbenigol ar gyfer ein peirianwyr gosod. Mae’n canolbwyntio ar y 'filltir olaf' hanfodol o'u gwaith, gan sicrhau y gallan nhw ddarparu gwasanaeth rhagorol yn hyderus o'r cabinet ar ochr y ffordd i ddrws y cwsmer. Mae'r hyfforddiant hwn wedi rhoi hwb i hyder staff ac wedi cynyddu ansawdd y gwasanaeth.
Mae'r rhaglen hefyd wedi cefnogi datblygiad sgiliau ehangach ar draws Ogi, gan gynnwys TG, rheoli prosiectau, timau technegol, a rhaglen rheolwyr ysbrydoledig y cwmni – a gynlluniwyd i feithrin talent arweinyddiaeth a chreu cyfleoedd ar gyfer twf gyrfa.
Trwy fuddsoddi yn ei weithlu, mae Ogi wedi gweld manteision gwirioneddol. Ychwanegodd Louise:
Mae buddsoddi yn ein pobl yn hanfodol. Mae o fudd i'r naill a’r llall - i ni, fel cyflogwr, ond mae hefyd yn dangos i'n staff ein bod yn poeni am eu datblygiad ac yn eu gwerthfawrogi, sydd yn ei dro yn gyrru ansawdd y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Mae cyfradd trosiant staff Ogi, yn enwedig ymhlith y peirianwyr, ar ei lefel isaf erioed. Rydyn ni wedi ymwreiddio diwylliant o chwilfrydedd, gan annog pawb i barhau i ddysgu.
Gellir defnyddio cyllid ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein, heb unrhyw ofyniad i ddefnyddio darparwr hyfforddiant penodol. Fodd bynnag, rhaid i'r holl hyfforddiant a gefnogir fod wedi'i achredu neu fodloni safonau cydnabyddedig y diwydiant.
Meddai Louise:
Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae hyfforddiant yn aml yn cael ei anwybyddu. Mae'r rhaglen wedi caniatáu i ni flaenoriaethu dysgu a datblygu. Mae wedi ein helpu i recriwtio'n gynaliadwy o fewn ein cymunedau a gwella ein cymwysterau gwyrdd.
Mae'r gefnogaeth gan Busnes Cymru yn wych. Maen nhw'n barod i siarad, i helpu, i roi adborth ac i’n galluogi i greu cais sy'n gryf ac a fydd yn sicrhau llwyddiant. Mae'n gyflym, yn effeithlon ac yn hynod fuddiol.
Rwy'n annog pob busnes i fwrw golwg ar y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ac estyn allan i Busnes Cymru i weld pa opsiynau sydd ar gael – mae rhywbeth at ddant pob busnes. Mae wedi ein helpu i feithrin rheolwyr talentog ar gyfer y presennol ac i’r dyfodol. I ni, mae wedi bod yn benderfyniad hawdd.
Wrth i Ogi barhau i ehangu, maen nhw hefyd yn archwilio opsiynau hyfforddi eraill fel prentisiaethau i gefnogi twf cynaliadwy.
Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, ewch i Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru.
Mae Busnes Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu'ch busnes i ddod o hyd i gyfleoedd, ac i siarad â chynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.