Newyddion

Cyhoeddi busnes o Gymru yn enillydd Gwobrau Made in the UK, Sold to the World

Mark Williams - Limb art

O ailgylchu metel moesegol i dechnoleg addysg a hunaniaeth ddigidol sy'n cael ei yrru gan AI, mae deuddeg busnes bach a chanolig eithriadol yn y DU wedi'u henwi fel enillwyr Gwobrau Made in the UK, Sold to the World 2025 yr Adran Busnes a Masnach (DBT).

Enillodd LIMB-art yng Nghonwy y categori Gofal Iechyd, gyda'i offer prosthetig chwaethus, arloesol sy'n cael eu gwerthu mewn 10 gwlad, gan gynhyrchu 30% o'r refeniw o allforion.

Cafodd Wild Creations, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ganmoliaeth uchel hefyd yn y categori Diwydiannau Creadigol.

Bydd enillwyr eleni yn derbyn pecyn hyrwyddo pwrpasol, gan gynnwys aelodaeth blwyddyn i'r Sefydliad Siartredig Allforio a Masnach Ryngwladol, dosbarth meistr cyfalaf gweithio gyda Banc Lloyds, gwahoddiad i dderbyniad yr enillwyr yn Llundain, ffotograffiaeth broffesiynol o'u busnes, hyrwyddiad pwrpasol ar sianeli DBT a bathodyn, tystysgrif a thlws digidol, i goffáu eu cyflawniadau.

Yn eu trydedd flwyddyn erbyn hyn, mae'r gwobrau'n dathlu busnesau bach rhagorol sy'n allforio’n llwyddiannus. Mae’r ceisiadau buddugol yn arddangos cryfder y DU mewn cynaliadwyedd ac arloesedd AI.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad, dewiswch y ddolen ganlynol: Winners Announced: Made in the UK, Sold to the World Awards 2025

Er bod y gwobrau hyn bellach wedi bod, mae enwebiadau ar gyfer Gwobr Allforiwr y Flwyddyn DBT, rhan o Wobrau Rhagoriaeth Busnes Prydeinig Lloyds, ar agor tan 4 Gorffennaf 2025. I enwebu eich cwmni, dewiswch y ddolen ganlynol: The Department for Business & Trade Exporter of the Year Award 2025 - Lloyds British Business Excellence Awards.

Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu i dyfu eich busnes, neu i siarad â chynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i’r Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.