Newyddion

Taith twf hynod lwyddiannus i gwmni creadigol

Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans with Owner of Wild Creations, Matt Wild and Business in Focus CEO, Phil Jones

Mae cwmni creadigol yn mwynhau taith twf hynod lwyddiannus gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae Wild Creations yn cerfio, mowldio a chastio i greu propiau ac arddangosfeydd ar raddfa fawr i'w defnyddio mewn parciau thema byd-eang ac mewn digwyddiadau mawr ledled y byd.

Cynhyrchodd y cwmni y Bêl yn y Wal yng Nghastell Caerdydd i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd 2015, a draig 13 troedfedd sy'n chwythu mwg yng Nghastell Caerffili mewn cydweithrediad â Cadw.

Yn rhyngwladol, mae portffolio trawiadol Wild Creations yn cynnwys datblygu Tyrannosaurus Rex maint go iawn ar gyfer lansio'r ffilm Jurassic World – Fallen Kingdom yn 2018, a dyblygiad o'r car Dodge Charger i hyrwyddo Fast and Furious 8. Mae allforio bellach yn cyfrif am tua 90 y cant o waith y busnes.

Gyda chefnogaeth gwasanaeth Busnes Cymru, mae Wild Creations wedi creu 36 o swyddi o ansawdd uchel dros y 12 mis diwethaf, ac maen parhau i dyfu a recriwtio.

Ymwelodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, â'r busnes yng Nghaerdydd i weld rhai o'i brosiectau cyfredol.

Cyfarfu hefyd ag amrywiaeth o fusnesau eraill sydd wedi cael cymorth gan wasanaeth Busnes Cymru i drafod yr ecosystem cymorth busnes yng Nghymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Business in Focus, menter gymdeithasol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth Entrepreneuriaeth, cymorth i Fusnesau Newydd a chymorth Datblygu Busnes a Thwf i Busnes Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Taith twf hynod lwyddiannus i gwmni creadigol | LLYW.CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymruneu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.