Newydd Ddechrau

Os ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes, rydych chi yn y lle iawn.  

Mae'n hollol normal teimlo yn gyffrous, yn ansicr, neu ychydig bach o'r ddau. Ar y cam cynnar hwn, nid oes angen cynllun llawn, dim ond syniad, sbarc, neu'r teimlad eich bod chi eisiau gweithio i chi'ch hun.

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i archwilio eich syniad gydag eglurder, hyder, a'r cymorth cywir yn gefn i chi.

3 peth i feddwl amdanynt ar y cam hwn

Gall yr awgrymiadau syml hyn eich helpu i lunio eich meddwl cyn ichi gymryd y cam nesaf:

  1. Pa broblem ydych chi'n ei datrys ac ar gyfer pwy?
    Mae meddwl am bwy sydd angen eich syniad yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.
  2. Beth sy'n gwneud eich syniad yn wahanol?
    Nid oes rhaid iddo fod yn unigryw, dim ond ei fod yn werthfawr mewn ffordd sy'n gweithio i'ch cwsmeriaid.
  3. Pa gymorth neu sgiliau allai eich helpu i symud ymlaen?
    Nid oes angen ichi wybod popeth; gall Busnes Cymru eich helpu i lenwi'r bylchau.
     

Ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes? Modiwlau dysgu ar-lein y gallwch eu cwblhau ar eich cyflymder eich hun, gan gynnwys: A yw dechrau busnes yn eich cartref yn addas i chi? ag Datblygu eich syniad busnes.

Taflen Ffeithiau Dechrau Busnes. Canllawiau ar ddewis math o fusnes a sefydlu busnes.

Modelau rôl, Syniadau Mawr Cymru. Astudiaethau achos ac ysbrydoliaeth gan berchnogion busnes go iawn.


Straeon go iawn gan bobl a ddechreuodd yn union lle rydych chi

Meddyg wedi ymddeol yn lansio busnes ar-lein newydd Cyn-weithiwr y GIG yn taflu goleuni ar lesiant personol gyda busnes rhithwir newydd

Diswyddiad yn arwain at lwyddiant busnes gofal croen newydd Busnes Cymru yn cefnogi symudiad entrepreneur gofal croen o ddiweithdra i ddygnwch

Arbenigwr Seiber yn adeiladu busnes sy'n helpu cwmnïau i gadw'n ddiogel Gwe-ddewin yn sefydlu gwasanaeth i achub cwmnïau rhag ymosodiadau seiber cynyddol


Eich cam nesaf

  • Archwilio BOSS (dolen i BOSS cyhoeddus) Ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes?
    Crëwch gyfrif am ddim i gael mynediad at offer ac adnoddau i gymryd rhai camau cyntaf tuag at ddechrau eich busnes eich hun ar eich cyflymder eich hun. Mewngofnodwch i gwblhau ein cyrsiau ar-lein "Ai dechrau busnes yw’r dewis cywir i chi?" a "Datblygu eich syniad busnes" 
  • Dod o hyd i gymorth lleol yn eich ardal chi
    Cysylltwch â'ch tîm lleol am ddigwyddiadau a chyngor. Ymgysylltiad@busnescymru.org 
  • A phan fyddwch chi'n teimlo'n barod i fynd â phethau ymhellach, gallwch gofrestru ar gyfer ein Gwasanaeth Cychwyn Busnes lle y mae rhagor o offer a chymorth wedi'u teilwra ar gael.

Os ydych am symud yn gyflym neu’n cymryd eich amser, rydyn ni yma i'ch helpu chi i adeiladu eich busnes, eich ffordd chi.


Gwasanaethau a Phynciau Poblogaidd

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

Canfod Cyllid Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes

Mae cynllunio beth rydych chi am ei wneud yn eich busnes yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod eich busnes yn llwyddo.

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes, gall ymchwil marchnad eich helpu i weld pa mor ymarferol yw'ch syniad busnes a'i siapio er mwyn ichi gael y siawns orau o lwyddo.

Yn darparu arweiniad a rhai opsiynau i'ch helpu i ddatblygu syniad busnes.

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.